Deddf Iaith: Tystiolaeth a gyflwynwyd i'r Arolwg Iaith!

Tystiolaeth gyflwynodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i Arolwg Iaith, Pwyllgor Diwylliant, y Cynulliad Cenedlaethol - Mehefin 2002

Rhagymadrodd

Yn ystod Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd daeth gwr i mewn i uned Cymdeithas yr Iaith am sgwrs. Dysgwr ydoedd, er bod ei Gymraeg yn rhugl erbyn hyn. Dywedodd mor falch yr oedd ei fod wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg a bod ei ferch erbyn hyn yn derbyn addysg Gymraeg.

Ond, ar yr un pryd, pwysleisiodd ei fod yn teimlo'n rhwystredig iawn. Er gwaethaf dysgu'r iaith, prin iawn yw'r cyfleoedd y caiff i fedru defnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd, fel cyfrwng naturiol.

Hyd yn oed yn y flwyddyn 2002, mae'r fath deimlad o rwystredigaeth yn un cyfarwydd iawn i unrhyw un sydd am geisio cyflawni tasgau dyddiol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n brawf o'r ffaith nad yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn gwarchod hawliau pobl Cymru i ddefnyddio'r Gymraeg nac yn gwneud dim i hybu defnydd o'r iaith. Am hynny, mae'n rhyfeddod fod aelodau'r Pwyllgor Diwylliant, ac yn arbennig cynrychiolwyr y llywodraeth, wedi gwrthod galw am Ddeddf Iaith Newydd.

Mewn ymateb i drafodaethau diweddar y Pwyllgor Diwylliant, ac yn enwedig yr amharodrwydd i alw am ddeddfwriaeth, penderfynwyd i lunio'r llyfryn hwn. Ein bwriad yw i geisio, unwaith eto, i egluro rhesymeg a phwysigrwydd ein dadl dros Ddeddf Iaith Newydd. Yn ogystal, ychwanegir ystyr i'r dadleuon hyn trwy gyflwyno blas o'r dystiolaeth eang sydd gennym. Dyma dystiolaeth a gwyd yn uniongyrchol o'n hymgyrchu, ac sydd yn ein hargyhoeddi na cheir unrhyw newid sylfaenol o ran defnydd o'r Gymraeg, hyd nes ceir Deddf Iaith Newydd i Gymru.

Huw Lewis - Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. - Mehefin 2002

Pam pwysleisio Deddf Iaith Newydd?

cynan mewn troli

Heb os, mae arolwg iaith y Pwyllgor Diwylliant wedi bod yn ddigwyddiad o bwys. Eto'i gyd, o'r cychwyn, dadl Cymdeithas yr Iaith oedd na fyddai'r Pwyllgor Diwylliant, ar ben ei hun, yn medru cynnig ateb i bopeth. O ystyried yr amryfal broblemau sydd yn wynebu'r Gymraeg, go brin y gellid disgwyl i un arolwg gan un pwyllgor i wneud hynny.

OND, mae'r angen am Ddeddf Iaith Newydd yn un o'r materion sylfaenol hynny sydd y Pwyllgor Diwylliant gallu i ddelio ag ef yn llawn. Felly dadleuwyd fod dyletswydd ar y pwyllgor i weithredu er mwyn diogelu a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, gan nad oes unrhyw beirianwaith arall gan y Cynulliad ar gyfer gwneud hynny.

Wrth gyflwyno ei thystiolaeth i arolwg y Pwyllgor Diwylliant fe bwysleisiodd Cymdeithas yr Iaith yr angen am Ddeddf Iaith Newydd a fyddai:

    yn cydnabod hawliau ieithyddol cymunedol yng Nghymru
    yn cydnabod statws swyddogol i'r Gymraeg fel priod iaith Cymru
    ac yn cydnabod rôl y sector preifat

Credwn fod amharodrwydd y pwyllgor i alw am ddeddf o'r fath yn brawf o ddiffyg ewyllys, yn enwedig ar ran aelodau'r llywodraeth, i weithredu yn gadarnhaol o blaid yr iaith.

Mae'n siwr fod y fath sylwadau yn cynddeiriogi rhai aelodau o'r pwyllgor a'u bod yn awyddus i'n hatgoffa o nifer o'r pwyntiau eraill a godwyd yn ystod y drafodaeth. Serch hynny, nid siarad gwag yn unig mo hyn. Os ydym o ddifrif am drawsnewid rhagolygon y Gymraeg, cred Cymdeithas yr Iaith bod yn rhaid wrth ddeddfwriaeth gan y byddai mesur o'r fath yn gosod sylfaen gadarn i unrhyw ymdrech ystyrlon o blaid yr iaith.

Yr 80au a'r 90au - Gwers hanes!

Hanes o brotestio

Yn ystod yr 80au dechreuodd Cymdeithas yr Iaith ar ymgyrchu dros Ddeddf Iaith Newydd i sicrhau fod pob cyhoeddiad a hysbysiad swyddogol yn dod yn naturiol ddwyieithog trwy gyfraith, heb orfod gofyn.

Ar ôl ymgyrchu caled gorfodwyd y Llywodraeth Geidwadol i ymateb. Ceisiodd brynu amser trwy sefydlu Quango dof - 'Bwrdd yr Iaith Gymraeg' - gan ddewis yr aelodau eu hunain.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith NA a pharhau i ymgyrchu dros gyfiawnder i Gymru. Daeth miloedd i ralïau mawr yng Nghaerdydd, a dechreuodd pob math o bobl dorri'r gyfraith wrth brotestio dros ddeddf iaith gyflawn.

Ymateb y Llywodraeth Geidwadol oedd ceisio rhannu pobl Cymru gan gynnig cyn lleied ag oedd modd i'n cadw yn dawel. Pasiwyd deddf iaith wan!

Deddf y Torïaid yw Deddf Iaith 1993:

Pasiwyd hi heb gefnogaeth unrhyw un o'r pleidiau eraill yn San Steffan. Pleidleisiodd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei herbyn ac ataliodd yr aelodau Llafur. Bu'n rhaid i'r Torïaid ddibynnu ar unwaith eto ar bleidleisiau aelodau o ganol Lloegr!

O ganlyniad mae hanes Deddf Iaith 1993 yn pwysleisio'r elfennau o ddiffyg democratiaeth a fodolai yng Nghymru cyn dyfodiad y Cynulliad.

'Deddf Iaith di-ddanedd, di-ddim!'
Y cyfan a roddodd Deddf Iaith 1993 i ni oedd Bwrdd yr Iaith, a gorfodi rhai cyrff cyhoeddus i baratoi cynlluniau iaith. Does dim sôn am y sector preifat.

Nid yw Deddf Iaith 1993 wedi rhoi hawliau i siaradwyr Cymraeg na sefydlu dwyieithrwydd fel norm yng Nghymru.

Edrychwch ar glip fideo o rali Deddf Iaith yn 1993 (o wefan Llyfyrgell Genedlaethol Cymru)
Windows
Quick Time
Real

Nôl ym 1993...

Hanes o brotestio

Roedd Rhodri Morgan yn ymwybodol iawn o wendidau Deddf Iaith y Torïaid. Ar y pryd roedd yn rhannu pryderon Cymdeithas yr Iaith yngly^n â'r ffaith nad oedd y ddeddf yn cyffwrdd â'r sector preifat.

Wrth drafod y mesur yn Nhy'r Cyffredin meddai:

    'The Government calls this a Welsh Language Bill, but it would be better described as a Welsh Language Quango Bill. What one could call a Quango for the lingo ... We shall be abstaining tonight because we hope to have the opportunity before long to do the job properly. That will be done when we revisit the question of a Welsh language measure when we are in government.î

2000 - Roedd yr awr fawr wedi dod!

    datganoli yng Nghymru
    Llafur mewn grym
    Rhodri Morgan yn arwain
    Deddf Iaith Newydd ... NA!

Roedd Rhodri Morgan wedi newid ei gân!

Honodd fod profiadau'r 90au wedi profi ei ddadleuon yn anghywir. Credai fod Bwrdd yr iaith wedi llwyddo i weithio yn agos gyda'r sector preifat gyda llawer o lwyddiant.

Felly, yn ôl Rhodri Morgan doedd dim angen Deddf Iaith Newydd gan fod bellach cymaint o ewyllys da tuag at y Gymraeg:

    "Yr ydym wedi dysgu yn y naw mlynedd ers 1993 ei bod yn llawer haws na'r disgwyl i berswadio'r sector preifat i wneud yr un defnydd o'r Gymraeg ag sy'n angenrheidiol yn y sector cyhoeddus. Dyna'r wers a ddysgasom a'r profiad a gawsom ers 1993."

Ewyllys da? Go brin medd Cymdeithas yr Iaith! - Edrych ar y dystiolaeth Rhodri a chadwa at dy air!

2000 - Y Cwmnïau Ffôn Symudol

Y Cefndir

Un o negeseuon mawr yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd yw bod y byd yn symud yn ei flaen, tra bod y Gymraeg yn cael ei adael ar ôl! Mae'r cwmnïau ffôn symudol yn enghraifft berffaith o hyn. Dyma dechnoleg a ddaeth i chwarae rhan allweddol yn ein bywydau dyddiol dros y blynyddoedd diwethaf - ond er mawr syndod, does dim gwasanaeth Cymraeg!

vodafone.JPG
Ym mis Medi 2000 cafwyd cyfarfod gyda rhai o brif swyddogion y cwmni. Y neges glir oedd na fyddai unrhyw newid ym mholisi'r cwmni tuag at y Gymraeg hyd nes y byddai'r sefyllfa ddeddfwriaethol yn newid. Un uned oedd y Deyrnas Unedig, gyda'r Saesneg yn iaith i'r uned honno. Gyda llaw, doedd Vodafone erioed wedi clywed oddi wrth Fwrdd yr Iaith Gymraeg, na chwaith wedi trafod darpariaeth Gymraeg o'r blaen.

orange.JPG
Ymateb gwreiddiol Orange oedd nad oedd disgwyl i'r cwmni gynnig unrhyw wasanaeth Cymraeg:

    "Orange does not consider itself a public body as defined under the 1993 language act. Therefore there is no need for it to offer any services in Welsh."

Aeth Cymdeithas yr Iaith ati i ymgyrchu:

    llythyru
    ffonio
    targedi siopau
    dringo mastiau!

Haf 2000 - daeth ymateb
Bellach roedd Orange yn cydweithio gyda Bwrdd yr Iaith ac yn bwriadu cynhyrchu rhai taflenni ac arwyddion dwyieithog.

2004 - beth sydd wedi digwydd? Yn dilyn gwaith ymchwil caled gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith, yr unig ddefnydd o'r Gymraeg a ddoed o hyd iddo oedd arwydd bach yn dweud gwthiwch ar un o siopau Orange yng Nghaerdydd. Chwarae teg i'r Bwrdd Iaith - gwaith effeithiol iawn!

o2.JPG

    Ysgrifennwyd atynt droeon - dim ymateb!
    Ffoniwyd y swyddfeydd a'r siopau - dim ymateb!
    Ymwelwyd a'r pencadlys yn Slough - dim ymateb!
    Gweithredwyd yn erbyn ei siopau - dim ymateb!

Nid oedd BT Cellnet/o2 yn barod i wneud unrhyw fath o ddatganiad ynglyn â'i pholisi tuag at y Gymraeg. Y gwir yw nad oes polisi gan y cwmni!

Ble mae'r ewyllys da Rhodri?

2001 - Y Banciau a'r Tai Cyllid

Mae defnydd y banciau o'r Gymraeg wedi ei ffosileiddio yn y gorffennol - wedi ei gyfyngu i ambell arwydd dwyieithog y tu allan i ganghennau lleol. Mae pob datblygiad newydd ym maes bancio ers yr hen ddeddf iaith wedi anwybyddu'r Gymraeg. Yn ogystal wrth i fwy a mwy o fanciau ganoli eu gweithgareddau maent yn symud i ffwrdd oddi wrth y cymunedau Cymraeg a'r iaith Gymraeg ei hun.

Dim statws swyddogol! Dim gwasanaeth Cymraeg! Yn ôl yr Abbey National a'r Aliance & Leicester nid oeddent yn gwneud defnydd iawn o'r Gymraeg, yn enwedig mewn datblygiadau newydd, gan nad oedd y Gymraeg yn cael ei chydnabod fel iaith swyddogol. Gall y Cynulliad ddatgan fod y Gymraeg yn iaith swyddogol gyda'i bwerau presennol!

Edrychwch ar glip fideo o aelodau Cymdeithas yr Iaith yn meddiannu Banc yn Aberystwyth fel rhan o'r ymgyrch dros Ddeddf Iaith nol yn 1993 (o wefan Llyfyrgell Genedlaethol Cymru)
Windows
Quick Time
Real

woolwich.JPG

    Nôl ym 1991 cafwyd addewid y byddai'r cwmni yn mabwysiadu polisi dwyieithog.
    Erbyn 2001, doedd dim byd wedi newid.

Aeth Cymdeithas yr iaith ati i ymgyrchu unwaith eto.

    Yn ystod Haf 2001 daeth addewid y byddai'r cwmni yn edrych ar ei bolisi parthed y Gymraeg gan ymateb yn fuan.
    Blwyddyn yn ddiweddarach does dim byd wedi digwydd.

halifax.JPG
Yn ôl yr ymateb gwreiddiol a gafwyd gan Halifax ym mis Ionawr 2001:

    'only some leaflets are available in Welsh"

    'cash machines do not offer services in Welsh"

Cyfaddefodd rheolwr cangen leol yng Nghaerfyrddin fod yr Halifax wedi bod yn torri lawr ar ei ddarpariaeth Gymraeg, gan adnewyddu canghennau yn uniaith Saesneg. Dywedodd mai rheswm y penaethiaid - o Fryste - dros wneud hynny, oedd nad oedd neb yn protestio yn erbyn y cwmni mwyach! Dyma brofi nad yw Deddf Iaith 1993 wedi rhoi hawliau i siaradwyr Cymraeg. Rhaid oedd gofyn, gwneud ffws a phrotestio er mwyn ennill ychydig bach, a hyd yn oed wedi ennill hynny rhaid parhau i wneud ffws rhag ofn ein bod yn ei golli.Dyma hyd a lled ewyllys da y sector preifat!

Llwyddwyd i annog Nationwide i fabwysiadu polisi iaith ychydig cryfach.Serch hynny, fel yn achos Vodafone nododd swyddogion y cwmni na cheid unrhyw newid mawr hyd nes ceid deddfwriaeth newydd wnâi hynny yn orfodol.

Ble mae'r ewyllys da Rhodri?

2002 - Yr Archfarchnadoedd a'r Siopau Cadwyn

Wedi i'r ymgyrchu yn erbyn y cwmnïau ffôn a'r banciau brofi dadleuon Cymdeithas yr Iaith, symudwyd ymlaen i faes newydd yn 2002. Heb os, mae gan yr archfarchnadoedd a'r siopau cadwyn mawr ddylanwad aruthrol ar natur y dirwedd ieithyddol trwy Gymru.

Yn ddiweddar mae'r Bwrdd Iaith wedi bod yn brolio am eu cynllun 'Iaith Gwaith' sy'n annog busnesau preifat i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae Meinir Phillips, rheolwraig Tesco yng Nghymru yn gefnogwraig fawr:

    "The 'Iaith Gwaith' scheme enables us to show that a bilingual service is available, and that we've considered the needs of our Welsh-speaking customers, and how to make shopping in Tesco a pleasurable experience for them."

OND - er gwaethaf y geiriau caboledig hyn mae Tesco wedi bod yn adnewyddu siopau yng Nghaerdydd yn uniaith Saesneg. Sut fod hynny'n brofiad pleserus i siaradwyr Cymraeg?

Dyma yw'r hanes yn achos nifer o archfarchnadoedd eraill hefyd, megis Somerfield, Asda ac Iceland.

Cynhaliodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith arolygon o safon gwasanaeth Cymraeg gwahanol siopau trwy Gymru. Dim allan o gan pwynt posib oedd sgôr Iceland. Doedd neb yn sgorio dros ugain!

Rhaid i ni sylweddoli nad yw rhai arwyddion dwyieithog gwallus yn cyfateb i wasanaeth dwyieithog. Dydy consesiynau ac ewyllys da yn unig ddim yn ddigon i ddiogelu hawliau siaradwyr Cymraeg.

Ble mae'r ewyllys da Rhodri?

Y Sector Cyhoeddus

Hyd yn oed yn y meysydd hynny lle mae grym gan y ddeddfwriaeth bresennol, mae problemau yn dal i godi. Mae ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith yn dangos yn glir bod yn rhaid wrth ymdrech benderfynol dim ond er mwyn medru defnyddio'r Gymraeg wrth ddelio â chyrff cyhoeddus yng Nghymru. Profa hyn nad yw'r cynlluniau iaith presennol yn dda i ddim gan nad yw'r Bwrdd Iaith yn medru eu monitro yn iawn.

dvla.JPG

Yn dilyn damwain, bu'n rhaid i Manon Wyn roi gwybod i'r DVLA. Roedd hi am gael gwybod os oedd hi'n addas iddi yrru. Bythefnos yn ddiweddarach, derbyniodd lythr uniaith Saesneg a ffurflen gais am Drwydded Yrru newydd (eto yn uniaith Saesneg). Roedd y DVLA yn mynnu fod yn rhaid llenwi honno ac ysgrifennu siec cyn y byddai'n derbyn trwydded yrru newydd.

Mae gan y DVLA gynllun iaith cynhwysfawr a gymeradwywyd gan y Bwrdd Iaith, ond mae'n amlwg nad ydynt yn gwneud ymdrech i ddeall Cymraeg na chwaith i gyfathrebu yn Gymraeg.

AWDURDODAU LLEOL
Bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn y de ddwyrain yn cael trafferth wrth ymwneud â'i cynghorau lleol.

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Torfaen dystysgrif grand gan y Bwrdd Iaith yn eu llongyfarch am eu polisi iaith. Eto'i gyd maent yn parhau i godi arwyddion ac i ddanfon gohebiaeth uniaith Saesneg.

Mae'r un peth yn wir am Gyngor Bwrdeistref Blaenau Gwent a Chyngor Bwrdeistref Merthyr Tydfil.

royalmail.JPG
Cafodd Aled Davies broblemau mawr wrth geisio trethi ei gar trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma ei hanes:

    'Bythefnos yn ôl, prynais gar ail-law o garej yn Abertawe. Gan nad oedd dogfen gofrestru gyda'r gwerthwr, roedd rhaid cwblhau ffurflen V62 yr Asiantaeth Drwyddedu i drwyddedu'r car yn ogystal â ffurflen V10 i'w drethu. Cefais gopïau Saesneg o'r ffurflenni hyn gan y gwerthwr wrth i mi gasglu'r car. Gallwn fod wedi hawlio fersiynau Cymraeg ganddynt, ond byddai hynny'n golygu "gwneud ffws" a gohirio'r broses o gael gafael ar y car yr oedd mawr ei angen arnaf (wrth gwrs, nid oes rheidrwydd arnynt i ddarparu unrhyw beth yn Gymraeg gan mai corff preifat ydynt).

    Y cam nesaf, felly oedd mynd i'r Swyddfa Bost yn fy mhentref a holi am gopïau o'r ffurflenni hyn. Cefais y croeso Cymraeg cynnes arferol a chopi o ffurflen V62 yn Gymraeg. Fodd bynnag, nid oedd copïau Cymraeg o'r V10 yno. Yn hwyrach yn y dydd, es i Swyddfa Bost mewn pentref cyfagos a cheisio eto yno. Unwaith eto, nid oedd ffurflen Gymraeg ganddynt, felly dyma roi'r gorau i'm hymdrechion am y dydd. Y diwrnod canlynol, roedd galwadau gwaith yn golygu taith i'r dref, felly galwais yn y Brif Swyddfa Bost yno i barhau i chwilio am y ffurflen angenrheidiol. Edrychais trwy'r pentyrrau o ffurflenni oedd wedi eu gosod mewn blychau yno - digonedd o rai Saesneg, ond dim yn Gymraeg. Sefais felly yn y rhes i aros am wasanaeth cownter a phan ddaeth fy nhro, gofynnais yno am y ffurflen. Aeth y gweithiwr yno i dyrchu amdani, ond dychwelodd gan esbonio bod y ffurflen wedi newid yn ddiweddar ac nad oedd yr Asiantaeth Drwyddedu wedi anfon copïau Cymraeg atynt.

    Ym mhob cam hyd yn hyn, roedd gennyf dri dewis -

        plygu i'r drefn a derbyn bod rhaid defnyddio'r Saesneg (neu o leiaf nad oedd yn werth y drafferth i wneud fel arall);
        herio'r anghyfiawnder, gwrthod trethu fy nghar a wynebu oblygiadau cyfreithiol hynny; neu
        parhau ymhellach â'm hymdrechion i ganfod y ffurflen Gymraeg.

    Penderfynais roi un cynnig arall arni ac wrth fynd tuag adref ar ddiwedd y dydd, daliais Swyddfa'r Post arall oedd ar agor a Haleliwia, roedd yno wasanaeth Cymraeg a ffurflen Gymraeg!!'"

Dywed cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru eu bod am hybu'r defnydd o'r Gymraeg, ond os meddyliwch am yr holl rwystrau sy'n wynebu pobl o ddydd i ddydd, fel y'u hamlygir gan hanes Aled, daw'n gwbl glir bod angen deddfwriaeth gadarnach sy'n cynnwys ystod ehangach o gyrff os am gael gwir ddylanwad a rhoi cyfle i'r Gymraeg fod yn iaith fyw i'r dyfodol.

Y rhwystr cyntaf yn yr achos hwn oedd mai deunydd uniaith Saesneg a gyflwynwyd yn naturiol yn y man cyntaf. Mae'n debyg y byddai 95% a mwy o Gymry Cymraeg yn derbyn y sefyllfa honno heb gwestiynu neu fynd i'r drafferth o ofyn am ddeunydd Cymraeg. Yr ail rwystr oedd nad oedd deunydd Cymraeg ar gael yn y man cyntaf wrth ofyn amdano (nac yn yr ail fan, na'r trydydd). Rhaid felly i chi fod nid yn unig yn ymwybodol o'ch hawliau ac â chymhelliant cryf i fynnu gwasanaeth Cymraeg, ond hefyd yn barod i wynebu'r trafferth rhyfeddaf wrth ymarfer yr "hawl" honno. Pwy ond y mwyaf penderfynol o'n plith sydd am fynd i'r fath drafferth?

Casgliadau

pobl_w398.jpg

Ar wahanol adegau yn ystod yr arolwg gwelwyd rhai - o fewn y pwyllgor a thu hwnt - yn amau'r pwyslais y mae Cymdeithas yr Iaith wedi ei roi ar ddeddfwriaeth. Mae'n bosib fod y bobl hynny o'r farn na fyddai mesur o'r fath yn cyfrannu tuag at sicrhau dyfodol i'r Gymraeg fel iaith gymunedol fyw.

Rhaid pwysleisio nad yw'r Gymdeithas erioed wedi honni y byddai Deddf Iaith yn ateb i bopeth. Ond, dadl gyfeiliornus yw awgrymu ei fod yn amherthnasol. Er mwyn sicrhau dyfodol i'r Gymraeg fel iaith fyw, mae deddfwriaeth a fyddai yn rhoi'r hawl i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac i dderbyn gwasanaethau dyddiol trwy gyfrwng y Gymraeg yr un mor hanfodol â datblygu seiliau materol ein cymunedau. Cam gwag yw gosod un yn erbyn y llall, gan mai rhannau o'r un frwydr ydynt.

Wrth gwrs , mae'r angen i ymdrin a'r sector preifat wedi bod yn ganolog i alwad Cymdeithas yr Iaith am Ddeddf Iaith Newydd. Ystyrier:

    Sut mae modd ar y naill law cydnabod pwysigrwydd yr economi i iaith, ond ar y llaw arall anwybyddu'r ffaith foel nad yw'r Ddeddf Iaith bresennol yn cyffwrdd â'r sector preifat?
    Sut mae cysoni ar y naill law bod eisiau cynyddu defnydd o'r Gymraeg, ond ar y llaw arall methu gweld cymaint o gyfleoedd sy'n cael eu colli drwy eithrio'r sector preifat o'r ddeddfwriaeth?

Er gwaethaf hyn y ddadl a glywir yn gyson gan y gwleidyddion a'r Bwrdd Iaith yw nad oes angen deddfwriaeth er mwyn ymdrin â'r sector preifat gan fod modd dibynnu ar berswâd yn unig.

Ond, mae'r profiad sydd yn codi yn uniongyrchol o ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith dros y blynyddoedd ynghyd â'r dystiolaeth a gyflwynir yn y llyfryn hwn yn dangos yn glir mai crafu ar wyneb y broblem yr ydym mewn gwirionedd wrth fynd at bob cwmni unigol. Mae'n rhaid mai'r un yw profiad Bwrdd yr Iaith os byddent yn onest. Ein casgliad anochel yw na bydd symud ymlaen sylfaenol a di-droi-nol nes bod Deddf Iaith Newydd yn gwneud hynny'n ofynnol.

I gwmnïau masnachol fel y rhain sy'n gweithredu mewn marchnad eang, deddfau sydd yn gosod rheolau'r gêm iddynt hwy a'u cystadleuwyr - unwaith y mae deddf wedi ei phasio, mae'n rhaid iddynt greu peirianwaith i gydymffurfio â'r ddeddf honno. Dylai'r Gymraeg fod ynghanol y peirianwaith hwnnw, yn hytrach na bod angen i rywrai geisio dwyn perswâd ar bob darparwr gan obeithio am y gorau.

Gwelir fod y drafodaeth yma yn codi dewis sylfaenol - dibynnu ar ewyllys da yn unig, neu osod seiliau deddfwriaethol a chyfansoddiadol drwy Ddeddf Iaith Newydd.

Heb amheuaeth, mae ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith wedi dangos yn glir pa mor naïf ag aneffeithiol yw dibynnu ar ewyllys da yn unig. Ceir sawl enghraifft o gwmnïau yn ymrwymo ei hunain i ddatblygu gwasanaeth Cymraeg - weithiau bron i ddeng mlynedd yn ôl - ond dro ar ôl tro gwelwyd y cwmnïau hyn yn torri eu gair.

Yn y pendraw, nid yw ewyllys da yn ei hun yn ddigon i sicrhau hawliau ieithyddol ystyrlon i bobl Cymru - y math o hawliau sydd yn ganolog i unrhyw gymdeithas ddwyieithog. Wrth gwrs, mae Cymdeithas yr Iaith yn cydnabod fod yna ewyllys da yn bodoli tuag at y Gymraeg. Serch hynny, fel y gŵyr unrhyw grŵp ymgyrchu gwerth ei halen - o'r amgylchedd i'r anabl - nid llwyddo i ennill ewyllys da yw'r mesur o lwyddiant, ond yn hytrach peidio â gorfod bod yn ddibynnol arno o gwbl.

Am hynny, os yw'r Cynulliad, ac yn bennaf y llywodraeth, o ddifrif am greu Cymru ddwyieithog dylai Deddf Iaith Newydd gael ei ystyried fel mesur hollbwysig. Rhaid penderfynu os ydym am barhau gyda hen agenda'r Torïaid, neu a oes wir le i'r Gymraeg o fewn gwleidyddiaeth ein 'Gwell Cymru' honedig.