Annwyl Gynghorydd,
Ysgrifennwn ar ran Cymdeithas yr Iaith er mwyn erfyn arnoch i wrthwynebu cynnig y Cynghorydd Shaun Redmond i atal symudiad clodwiw Cyngor Môn tuag at weithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Credwn y dylai'r Cyngor symud yn syth at weinyddu drwy'r Gymraeg yn unig. Dyma'r arfer gorau o ran meithrin hyder a sgiliau rhagorol yn y gweithlu. Mae sefydliadau sy'n gweithio drwy'r Gymraeg yn unig yn rhoi hyder i bobl ddysgu a defnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd ac mae effeithiau hynny’n ymestyn i’n cymunedau. Bydd y cam hwn gan Gyngor Môn yn gyfraniad amhrisiadwy tuag at ffyniant ein hiaith genedlaethol unigryw.
Rydym yn falch fod y Safonau a'r dyletswydd i gynyddu defnydd mewnol y Gymraeg wedi bod yn sbardun i’r Cyngor wella ar y sefyllfa bresennol. Ledled y wlad, gwelwyd cynnydd yn y nifer o swyddi lle mae angen sgiliau Cymraeg.
Mae’n destun siom bod cynnig hynod niweidiol y Cynghorydd Redmond yn camddeall y polisi blaengar hwn - boed yn fwriadol neu’n anfwriadol - polisi a fyddai’n gam pwysig ymlaen i Gymru a'r iaith Gymraeg. Yn wir, byddai Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dadlau bod rhaid i’r Gymraeg ddod yn iaith gwaith cyn y byddwn yn sicr o’i pharhâd.
Prydferthwch iaith yw y gall pawb ei dysgu, mwy felly os defnyddir yr iaith o'n cwmpas ymhobman, ac nad yw felly’n gwahaniaethu. Mae sôn am gamau cadarnhaol i sicrhau fod priod iaith Cymru fel 'baich' yn sarhaus, yn boenus ac yn ein diraddio ni fel pobl. Ni chredwn fod tystiolaeth i’r honiad y byddai gweinyddu’n fewnol yn ddrutach i’r Cyngor.
Sonnir yn y cynnig am gyflogi'r ymgeiswyr mwyaf cymwys ar gyfer pob swydd o fewn y Cyngor beth bynnag eu “hiaith gyntaf” neu ddewis iaith. Yn y sefyllfa hon, mae meddu ar y Gymraeg fel sgil yn un o’r elfennau hanfodol sy'n gwneud ymgeisydd yn gymwys ar gyfer swydd yng Nghyngor Môn – nid nodwedd bersonol yw iaith ond sgil y dylai’r gweithlu fod wedi ei derbyn drwy’r system addysg. Rydym yn ffyddiog y bydd Cyngor Môn yn rhoi pob cefnogaeth i gefnogi staff i wella eu sgiliau ieithyddol fel rhan o’u datblygiad parhaus. Mae gan Gyngor Môn weledigaeth am addysg Gymraeg fydd yn golygu bod pob disgybl yn gadael yr ysgol ym Môn â sgiliau hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac felly’n paratoi’r gweithlu dwyieithog sydd ei hangen i weinyddu’n fewnol yn y Cyngor trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ni fedrwn weld cyfiawnhad dros gefnogi'r cynnig hwn. Galwn arnoch i wrthod y cynnig a chefnogi polisi a fyddai’n gam ymlaen i’r Gymraeg, nid yn unig ym Môn, ond ledled y wlad.
Gyda diolch am eich amser.
Yn gywir,
Menna Machreth
Rhanbarth Gwynedd-Môn, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg