Llythyr Cell Caerdydd - Gwrthwynebu Toriadau'r Cyngor

 

                                                      21 Chwefror 2013

Annwyl Gynghorydd Huw Thomas

Gyda siom yr ysgrifennaf atoch ar ran Cell Cymdeithas yr Iaith Caerdydd parthed cyllideb ddrafft Cyngor Caerdydd ar gyfer 2013-14. Mae byrdwn ein llythyr yn benodol mewn perthynas â gwariant ar y Gymraeg a'r bwriad arfaethedig i dorri’r gwariant hwnnw o fewn y gyllideb.

Rydym yn llwyr ymwybodol o’r gofyniad sydd ar y Cyngor i ganfod arbedion yn ystod y cyfnod o gynni economaidd presennol. Ond rydym o’r farn fod y toriadau a gyhoeddwyd yn tanseilio gallu’r Gymraeg i ffynnu yng Nghaerdydd ac yn anfon y neges anghywir nid yn unig i breswylwyr y ddinas ond trwy Gymru benbaladr.

Honnwyd gennych yn gyhoeddus droeon fod Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i'r Gymraeg. Pwysleiswyd hynny ymhellach yn ystod ein cyfarfod ar Ragfyr 12fed pan amlinellwyd gennych eich gweledigaeth fel Deilydd Portffolio’r Gymraeg. Ond anodd iawn yw rhesymoli hynny pan mai’r bwriad yn y pen draw yw i dorri ar wariant i hybu’r iaith ledled y ddinas.

O ystyried fod cyllideb y Cyngor yn ei gyfanrwydd dros £600miliwn a’r gwariant sydd wedi’i glustnodi i’r Gymraeg oddeutu £120,000 yn unig, rydym o’r farn fod y toriadau arfaethedig i gyllid Tafwyl ynghyd â chyllideb graidd Menter Caerdydd yn afresymol ac anghymesur o’u cymharu â gwariant ar feysydd eraill. Mae'r Gweinidog dros y Gymraeg wedi atgoffa pob awdurdod lleol o'u cyfrifoldebau tuag at gynyddu ac ehangu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg. Ond gyda llai o arian bydd hyn yn rhwym o effeithio ar y ddarpariaeth a’r arlwy y bydd modd i Fenter Caerdydd ei gynnig, ac er fod Tafwyl wedi’i hachub am flwyddyn mae dyfodol cynaliadwy’r ŵyl honno’n parhau’n ansicr. Y ffaith sylfaenol yw; heb arian a buddsoddiad digonol ni fydd yn bosib adeiladu ar y cynnydd cadarnhaol a gafwyd hyd yma.

Un o lwyddiannau digamsyniol y degawdau diwethaf yw’r twf yn y galw am addysg Gymraeg. Dyma brawf fod y Gymraeg yn ffynnu yn ein dinas a thestun balchder inni gyd; yn siaradwyr Cymraeg, dysgwyr neu'n ddi Gymraeg. Ond pa neges mae’r toriadau hyn ei gyfleu i'r rhieni hynny sy'n ymddiried eu plant i'n ysgolion Cymraeg? Dim llai nag atgyfnerthu’r cysyniad mai iaith y dosbarth yn unig yw'r Gymraeg.  Ac er fod canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn profi fod Caerdydd yn un o'r ychydig lefydd ble mae'r Gymraeg i’w weld yn tyfu, beth yw ymateb y Cyngor? Torri nôl ar y cyllid sy’n angenrheidiol i gynnal y twf hwnnw ac i feithrin twf pellach. Rhaid cwestiynu felly, sut gall y toriadau hyn adlewyrchu ymrwymiad tymor hir Cyngor Caerdydd i’r Gymraeg?

Mae wedi’i ddatgan ar goedd fod y Cyngor yn awyddus i hyrwyddo Caerdydd fel dinas Ewropeaidd ddwyieithog. Y gwir amdani yw mai cysyniad yn unig fydd hyn heb ewyllys, arweiniad a buddsoddiad gan Gyngor sy'n gweld gwerth yn y Gymraeg fel etifeddiaeth gyffredin i’w holl drigolion ac fel iaith fyw a pherthnasol yn y Gymru fodern. Dyma’n gynyddol yw barn rhieni ledled y ddinas sy’n awyddus i’w plant ddysgu’r Gymraeg. Dyma farn rhieni Y Sblot, rhieni Caerau a Grangetown. Beth felly yw gwir safbwynt y Cyngor?

Erfyniwn arnoch i ail edrych ar eich blaenoriaethau ac i fuddsoddi'n deg a haeddiannol yn yr iaith ac nid i weld y Gymraeg fel targed meddal pan mae angen gwneud arbedion. Yn sylfaenol, yr hyn a ofynnwn amdano yw tegwch. Cyfle teg i blant, pobl ifanc ac oedolion gael defnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng naturiol wrth gymdeithasu a byw eu bywydau bob dydd. Dyma gyfle i fod yn flaengar, i arwain y ffordd ac i ddangos fod Cyngor Llafur Caerdydd o ddifrif am y Gymraeg. Dyma gyfle i ddangos i'r byd fod gan Gymru ddwy iaith swyddogol, ac fod Caerdydd ei phrifddinas yn ladmerydd balch dros hynny.

Gofynnwn felly i chi brofi bod ymrwymiad y Cyngor tuag at yr iaith Gymraeg yn gadarn a diamheuol ac i adlewyrchu hynny wrth bennu blaenoriaethau gwariant dros y blynyddoedd nesaf.

Yn gywir

Jamie Bevan, Swyddog y De

Ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Caerdydd