Polisi Cynllunio Cymru - Ymateb Mai 2018

Ymgynghoriad Polisi Cynllunio Cymru

Ymateb Cymdeithas yr Iaith

Cyflwyniad

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn ymgyrchu am ymhell dros chwarter canrif am drefn gynllunio a fyddai’n rhoi buddiannau’r Gymraeg, yr amgylchedd a chymunedau Cymru yn gyntaf.

Croesawodd y Gymdeithas y ddiwygiadau a wnaed i gyfraith cynllunio gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 sy'n cynnig cyfle i gryfhau sefyllfa'r Gymraeg yn ein cymunedau ledled Cymru. Cyflwynom ni nifer fawr o argymhellion yn ystod y broses honno, ac ers cyhoeddi ein Deddf Eiddo a Chynllunio amgen ein hunain yn 2014, rydyn ni wedi datblygu ein polisi ymhellach.

Fis Hydref 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn diwygiedig o Nodyn Cyngor Technegol 20. Yn anffodus, yn hytrach na chyflwyno methodoleg i awdurdodau ei ddefnyddio wrth ysytyried effaith datblygiadau ar y Gymraeg, mae’n awgrymu yn gam-arweiniol y dylid cyfyngu ar asesiadau o’r fath. Pwysleisiwn fod deddf mewn statud megis Deddf Cynllunio 2015 bob tro yn gorbwyso nodyn cyngor fel NCT 20, neu yn wir Polisi Cynllunio Cymru, a bod effaith ar y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol ar unrhyw gam yn y broses gynllunio.

Yn hyn o beth, yn ogystal â sicrhau bod testun Polisi Cynllunio Cymru yn cyd-fynd â’r ddeddf, dylid ddiwygion NCT 20 ar frys, er mwyn adlewyrchu’r dyletswydd dan y Ddeddf Cynllunio ar awdurdodau i ystyried unrhyw fater sy’n ymwneud â’r Gymraeg wrth ddelio â cheisiadau unigol am ganiatâd cynllunio, os yw hynny’n berthnasol i’r cais.

Yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu astudiaeth annibynnol er mwyn casglu tystiolaeth a hwyluso dealltwriaeth drwyadl o effaith cynlluniau datblygu, yn enwedig datblygiadau tai, ar gymunedau lle y bu o leiaf 25% yn medru'r Gymraeg yn ôl Cyfrifiad 1991, sef cyfnod o oddeutu 25 mlynedd. Yn ogystal â datblygiadau tai, dylid ystyried effaith polisïau datblygu eraill ar yr iaith, gan gynnwys cyfyngiadau ar deuluoedd lleol rhag codi tai y tu allan i ffiniau cymdogaethau, a'r farchnad dai ei hun. Amcan y gwaith ymchwil hwn fyddai creu sail dystiolaeth gadarn ar gyfer y Llywodraeth a'r awdurdodau lleol wrth iddynt ddiwygio eu polisïau a'u cynlluniau datblygu lleol.

Ymatebion i gwestiynau penodol yr ymgynghoriad:

C2: Ydych chi’n cytuno bod y cyflwyniad yn darparu trosolwg digonol o’r system gynllunio yng Nghymru a chyd-destun priodol? Os na, eglurwch pam.

Nac ydy. Yn sgil darpariaethau Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, mae effaith datblygiadau ar y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol. Gan fod yr elfen yma o’r system yn un bwysig ac yn unigryw i Gymru, dylai unrhyw drosolwg o’r system gynllunio sôn amdano.

Mae pennod 1 fel mae’n sefyll yn anghytbwys, gan ei fod yn mynd i fanylion ynglŷn ag ysystyriaethau perthnasol eraill, defnydd o adnoddau naturiol, teithio llesol ac ati, ond heb sôn o gwbl am gynaliadwyedd y Gymraeg a’i chymunedau.

C3: Ydych chi’n cytuno â’r Egwyddorion Cynllunio? Os na, eglurwch pam.

Rydym yn cytuno y dylid cynnwys adran megis “Y Gymraeg a chreu lleoedd” (2.47 - 2.51), ac yn cytuno ag ewgyddorion paragraffau 2.47 - 2.50. Fodd bynnag, mae paragraff 2.51 yn gwbl camarweiniol, ac o’i dderbyn fy fyddai’n agored i’w herio’n gyfreithiol.

Mae angen newid y geiriad am asesiadau effaith ceisiadau unigol ar y Gymraeg fel eu bod yn atgoffa swyddogion a chynghorwyr bod modd ystyried effaith datblygiad ar y Gymraeg ym mhob rhan o Gymru ac o dan amryw o sefyllfaoedd. Hefyd, ni ddylid awgrymu bod angen cyfyngu asesiadau effaith datblygiadau ar y Gymraeg i rai sefyllfaoedd ac i rai ardaloedd yn unol â'r Cynllun Datblygu. Mae'r geiriad presennol yn rhoi'r argraff na fyddai modd cynnal asesiad o dan unrhyw amgylchiadau os yw'r tir wedi ei ddosrannu o dan y Cynllun Datblygu Lleol yn barod. Mae polisi o'r fath felly yn anghyfreithlon.

C11: Ydych chi’n cytuno ei bod hi’n bwysig i hyfywedd gael ei asesu ar ddechrau’r broses o baratoi’r cynllun ac i hyn gael ei ategu gan rôl ddatblygedig i lwybrau tai? Os na, eglurwch pam

Nid ydym yn cytuno â’r methodoleg hwn, gan ei fod yn adlewyrchu galw allanol, a grym farchnad artiffisial, yn hytrach nag anghenion lleol. Dylai’r broses o lunio cynllun datbglygu decrhau, yn hytrach, gydag asesiad manwl o’r angen lleol am dai, fesul ardal. Gweler methodoleg isod yn atodlen 1.

C22: Ydych chi’n cytuno gyda’r materion a’r rhyng-gysylltiadau y tynnir sylw atynt yn y cyflwyniad i’r bennod Lleoedd Cynhyrchiol a Mentrus? Pa faterion a chysylltiadau eraill y gellid eu nodi i gefnogi’r thema hon?

Mae’r Gymdeithas yn credu bod y dylai’r Gymraeg fod yn ganolog i safbwynt y Llywodraeth ar leoedd cynhyrchiol a mentrus. Dylid ehangu paragraff 4.11, a dylid ychwanegu at paragraff 4.18 ac eraill, er mwyn amlygu hyn.

Mae’r iaith a’r economi yn gysylltiedig. Mewn ardal Gymraeg gydag economi cryf, bydd llai o bobl yn allfudo er mwyn cael gwaith, felly bydd niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg yn parhau i fyw yno. Ble mae niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg ac mae’r iaith mewn sefyllfa gref — ble mae medru’r Gymraeg yn ddefnyddiol wrth chwilio am swyddi, cynnig gwasanaethau, ac yn y blaen — cymhellir pobl ddi-Gymraeg sy’n symud i’r ardal i gymhathu. Dyma sefyllfa lle mae’r gymuned yn hyfyw ac mae’r iaith a’r economi yn cynnal ei gilydd. Gellir meddwl am y sefyllfa hon fel ‘cynaladwyedd economaidd ieithyddol’.

Mae angen edrych ar ddatblygu economaidd o safbwynt cynnal a chryfhau cymunedau lleol yn naturiol drwy ychwanegu gwerth i’n hadnoddau cynhenid. Yn rhy aml dehonglir datblygu economaidd fel hybu twf ar unrhyw gyfri, a dehonglir datblygu ieithyddol mewn termau diwylliannol. Mae angen edrych ar ein cymunedau Cymraeg yn holistaidd gan gydblethu’r elfennau ynghyd yn un.

Yn 2016, cyhoeddodd y Gymdeithas bapur polisi ynghylch y Gymraeg a datblygu economaidd http://cymdeithas.cymru/dogfen/iaith-gwaith-strategaeth-economaidd sy’n cynnwys nifer o argymhellion penodol sy’n dangos sut y gellid cyd-blethu lles yr iaith a datblygu economaidd.

Grŵp Cymunedau Cynaliadwy, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Mai 2018

Atodlen 1: Methodoleg Asesiadau Anghenion Lleol

(1) Mae rhaid i asesiad angen lleol ystyried y materion canlynol:

(a) demograffeg, gan gynnwys ystyriaeth o raddfeydd geni a marwolaeth, yn ardal y ward etholaethol dan sylw;

(b) incymau cyfartalog yn ardal y ward etholaethol dan sylw;

(c) sefyllfa’r Gymraeg yn ardal y ward etholaethol dan sylw;

(ch) dadansoddiad o’r stoc dai bresennol yn ardal y ward etholaethol dan sylw, gan gynnwys y stoc rhentu preifat, yr angen am adeiladu o’r newydd, unedau tai sydd heb eu meddiannu, tai gwyliau ac ail gartrefi;

(d) yr anghenion lleol am gartrefi ar rent yn ardal y ward etholaethol dan sylw;

(dd) anghenion prynwyr tro cyntaf yn ardal y ward etholaethol dan sylw;

(e) cartrefi i bobl ag anghenion arbennig yn ardal y ward etholaethol dan sylw;

(f ) anghenion gofal yn y gymuned yn ardal y ward etholaethol dan sylw;

(ff ) digartrefedd yn ardal y ward etholaethol dan sylw;

(g) gwella cyflwr y stoc dai a chyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru yn ardal y ward etholaethol dan sylw;

(ng) strategaeth a buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni yn ardal y ward etholaethol dan sylw;

(h) y ddarpariaeth ar gyfer claddfeydd yn ardal y ward etholaethol dan sylw

(i) busnesau a ffermydd i’w rhentu yn ardal y ward etholaethol dan sylw; a

(l) cost diwallu’r anghenion hyn dros gyfnod o 5 mlynedd yn ardal y ward etholaethol dan sylw.

Atodlen 2: NCT 20 amgen

Nodyn Cyngor Technegol 20 amgen:  

Continwwm ar gyfer diogelu a chryfhau'r Gymraeg ym mhob rhan o Gymru  

 

Sylfeini Cyfreithiol a Pholisi

Dylai awdurdodau cynllunio nodi a rhoi sylw dyladwy i'r ffaith:  

  • bod y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol ym mhob rhan o Gymru, yn sgil pasio adran 31 Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, ac nad yw'r ystyriaeth statudol honno yn gyfyngedig i rai ardaloedd daearyddol yn unig

  • bod y Gymraeg yn iaith swyddogol ledled Cymru yn sgil pasio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

  • bod camau o fewn y system gynllunio y gellir eu cymryd i gryfhau cyflwr y Gymraeg, a hynny ym mhob rhan o Gymru

  • bod ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn brif iaith y gymuned yn hynod o bwysig i ffyniant y Gymraeg, fel nodir yn Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru "Iaith Fyw: Iaith Byw" a bod angen rhagor ohonynt os yw'r Gymraeg i ffynnu yn y tymor hir

  • bod potensial gan bob cymuned i adfer neu ddiogelu'r Gymraeg fel ei bod yn dod neu'n parhau i fod yn brif iaith y gymuned: cysyniad sy'n ymhlyg yn ieithwedd y Llywodraeth wrth ddisgrifio'r Gymraeg fel iaith genedlaethol i bawb ym mhob rhan o Gymru

  • bod y nod llesiant "ffyniant y Gymraeg" yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn berthnasol i bob rhan o Gymru ac nad yw'n gyfyngedig i rai ardaloedd daearyddol yn unig.

Egwyddorion

Argymhellwn y dylid defnyddio'r canlynol fel egwyddorion ar gyfer y canllawiau newydd:

(i) Sefydlu Continwwm Datblygu'r Gymraeg a fydd yn cynnwys pob ardal o Gymru ac yn anelu at gryfhau sefyllfa'r Gymraeg ym mhob rhan o'r wlad.

(ii) Cynnwys rhestr o faterion sylfaenol sy'n effeithio ar y Gymraeg y dylid delio â nhw ym mhob rhan o Gymru.  

(iii) Yn hytrach na dau gategori ('sensitif' neu beidio), dylai fod, fan leiaf, dri neu bedwar categori y mae'n rhaid i bob ardal o'r wlad fod yn un ohonynt, a bydd pob un yn golygu ystyriaeth i'r Gymraeg ar wahanol raddfeydd.

(iv) Gall fod awgrymiadau o ran sut i bennu'r ardaloedd hyn, ond byddai'n rhaid rhoi hyblygrwydd, megis dewis rhwng niferoedd (a all fod yn fwy perthnasol o fewn ardaloedd trefol) a chanrannau fel maen prawf o ran penderfynu lle mae cymuned yn eistedd o fewn y continwwm.

(v) Dylai fod rôl glir gan Gomisiynydd y Gymraeg i roi cyngor i awdurdodau cynllunio o ran sut i gategoreiddio cymunedau.

Continwwm Datblygu'r Gymraeg

Credwn y dylid sefydlu continwwm datblygu'r Gymraeg gan fabwysiadu nod tymor hir y drefn gynllunio ym mhob rhan o Gymru i gyrraedd sefyllfa lle mai’r Gymraeg fydd y brif iaith gymunedol.

Credwn y dylai pob awdurdod cynllunio lleol, drwy ei gynllun datblygu lleol, gategoreiddio pob un ardal o Gymru maent yn gyfrifol amdanynt.  

Awgrymwn y gellid ystyried sefydlu pedwar categori megis y canlynol:  

(a) Cymunedau Cymraeg sy’n defnyddio’r Gymraeg yn brif iaith

(b) Cymunedau o Ddwyieithrwydd Cyfochrog a Chyflawn

(c) Cymunedau gyda defnydd sylweddol o’r Gymraeg

(ch) Cymunedau hawliau sylfaenol y Gymraeg

Bydd rhaid mabwysiadu nod bod ardaloedd yn symud lan y categorïau dros amser.  

Credwn fod dadl dros ystyried ychwanegu at y categorïau hyn hyd at oddeutu chwe chategori.  

Credwn y dylai fod dewis gan gymunedau lleol rhwng y gwahanol opsiynau. Bydd yn bwysig rhoi'r hyblygrwydd o edrych ar ardaloedd teithio i'r gwaith yn ogystal â niferoedd neu ganrannau er mwyn pennu ym mha gategori mae pob cymuned yn eistedd orau.

Diffinio'r Ardaloedd a'u Hystyr:

Continwwm – Fframwaith i Hybu'r Gymraeg ledled Cymru

Gallai cynghorau ystyried y fframwaith canlynol fel ffordd o ymdrin â'r Gymraeg wrth ystyried pob cais cynllunio.

 

Argymhellir mai lleiafswm yw'r isod o ran y camau y mae'n rhaid eu cymryd o fewn y categorïau, ond na ddylai'r camau y gellir eu cymryd fod yn gyfyngedig i'r lleiafswm.







Ffactorau i'w hystyried

Manylion

Categori A: prif iaith

Categori B: dwyieithrwydd cyflawn

Categori C: defnydd sylweddol

Categori Ch: hawliau Sylfaenol

Statws

Enwau stryd, datblygiad, nodwedd tir yn Gymraeg

Ie

Ie

Ie

Ie

 

Gwahardd dileu enwau Cymraeg

Ie

Ie

Ie

Ie

 

Arwyddion uniaith Gymraeg neu Gymraeg

Uniaith Gymraeg

Uniaith Gymraeg

Ie ac annog uniaith Gymraeg

Ie

 

Datblygiadau masnachol uniaith Gymraeg neu Gymraeg  

Uniaith Gymraeg

Ie ac annog uniaith Gymraeg

Ie

Ie

Addysg

Datblygiadau addysg newydd

Cyfrwng  Cymraeg yn unig

Cyfrwng Cymraeg yn unig

Rhagdybiaeth cyfrwng Cymraeg

Rhagdybiaeth cyfrwng Cymraeg

Budd Cynllunio  

Rôl Menter Iaith  

-

Rhedeg unrhyw gronfa

Amod  datblygwr i gydweithio

Amod  datblygwr i gydweithio  

 

Cyfran y 'budd cynllunio' sy'n ariannu prosiectau cyfrwng Cymraeg

100%

75%

50%

25%

Tai  

Marchnata / hysbysebu tai'n lleol

Yn lleol yn unig

Yn lleol yn unig

Yn lleol yn unig am dri mis  

Ie, amod cynllunio

 

Datblygu safle cam-wrth-gam

Opsiwn

Opsiwn

Opsiwn

Opsiwn

 

Amod pobl leol yn unig

Ie

Ie

Cyfran 50%

-

 

Canran o'r tai sy'n fforddiadwy i bobl leol*

100%

100%

50%

25%

 

Targedau tai i adlewyrchu twf naturiol y boblogaeth leol*

Ie  

Ie

Ie

Ie

Gwasanaethau

Amod ynghylch defnydd y Gymraeg**

Ie

Ie

Ie

Ie

Asesiadau Effaith

Asesiad neu ddatganiad effaith ar y Gymraeg  

Asesiad

Asesiad

Asesiad

Datganiad, asesiad yn opsiynol

Nodiadau Esboniadol:

Ardaloedd Categori Ch - Cymunedau hawliau sylfaenol y Gymraeg  

Yn yr ardaloedd hyn, mae'n rhaid gwneud y canlynol (heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • Sicrhau bod enw Cymraeg ar bob datblygiad, enw stryd a nodwedd tir

  • Sicrhau bod holl arwyddion datblygiadau yn Gymraeg

  • Rhagdybio bod unrhyw sefydliadau addysg a adeiledir fel rhan o ddatblygiad yn gyfrwng Cymraeg yn bennaf

  • Disgwyliad bod gan ddatblygiadau masnachol arwyddion Cymraeg

  • Gwahardd dileu enwau stryd, tai, nodweddion tir a datblygiadau Cymraeg

  • Budd cynllunio i gael ei ddosbarthu mewn cydweithrediad â'r fenter iaith leol  

  • Sicrhau bod cyfran o ddim llai na 25% o unrhyw 'fudd cynllunio' o dan adran 106 yn mynd at brosiectau cyfrwng Cymraeg neu brosiectau gyda'r prif nod o hyrwyddo'r Gymraeg

  • Sicrhau y caiff tai eu marchnata yn lleol    

  • Sicrhau bod math a nifer y tai yn ymateb i dwf naturiol y boblogaeth leol a'i hanghenion yn unig  

 

Ardaloedd Categori C - Cymunedau gyda defnydd sylweddol o’r Gymraeg  

Yn yr ardaloedd hyn, mae'n rhaid gwneud y canlynol (heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • Popeth a wneir yn ardaloedd Ch  

  • Annog enwau ac arwyddion uniaith Gymraeg ar ddatblygiadau

  • Amod ar bob datblygiad lleol bod cyfle cyntaf i bobl leol eu prynu  

  • Sicrhau bod cyfran o ddim llai na 50% o unrhyw 'fudd cynllunio' o dan adran 106 yn mynd at brosiectau cyfrwng Cymraeg neu brosiectau gyda'r prif nod o hyrwyddo'r Gymraeg

  • Marchnata’r tai yn lleol yn unig am gyfnod penodol e.e. 3 mis cyn eu rhoi ar y farchnad agored.

  • Datblygu’r safle gam wrth gam er mwyn lliniaru unrhyw effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg o ganlyniad i adeiladu tai ar raddfa / cyfradd sy'n fwy na’r angen lleol

 

Ardaloedd Categori B - Cymunedau o Ddwyieithrwydd Cyfochrog a Chyflawn  

Yn yr ardaloedd hyn, mae'n rhaid gwneud y canlynol (heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • Popeth a wneir yn ardaloedd C a Ch  

  • Enwau ac arwyddion uniaith Gymraeg ar ddatblygiadau

  • Siopau stryd i fod ag arwyddion uniaith Gymraeg

  • Unrhyw gais i newid defnydd i gynnwys amod arwyddion uniaith Gymraeg

  • Datblygiadau addysg newydd i fod yn rhai cyfrwng Gymraeg yn unig  

  • Nod y bydd yr holl stoc dai yn fforddiadwy i bobl leol ar incwm cyfartalog yr ardal

  • Sicrhau bod cyfran o ddim llai na 75% o unrhyw 'fudd cynllunio' o dan adran 106 yn mynd at brosiectau cyfrwng Cymraeg neu brosiectau gyda'r prif nod o hyrwyddo'r Gymraeg

  • Amod bod rhaid I'r holl dai newydd fod yn fforddiadwy i bobl leol

 

Ardaloedd Categori A - Cymunedau Cymraeg sy’n defnyddio’r Gymraeg yn brif iaith  

Yn yr ardaloedd hyn, mae'n rhaid gwneud y canlynol (heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • Popeth a wneir yn ardaloedd B, C a Ch

  • Amod y gwerthir tai newydd i bobl leol yn unig

  • Sicrhau bod 100% o unrhyw 'fudd cynllunio' o dan adran 106 yn mynd at brosiectau cyfrwng Cymraeg

 

Nodiadau:

*Ystyr “pobl leol” fel y'i defnyddir uchod yw:

(a) pobl sydd wedi byw neu wedi gweithio yn yr ardal am gyfnod o gyfanswm o 10 mlynedd allan o’r 20 mlynedd diwethaf;

(b) pobl sy’n gyflogedig neu sydd â chontract am wasanaethau, boed hynny mewn un neu fwy o swyddi parhaol, sy’n gyfystyr ag oriau gwaith amser llawn yn yr ardal;

(c) pobl sy’n hunangyflogedig, boed hynny mewn un neu fwy o swyddi, sy’n gyfystyr ag oriau gwaith amser llawn yn yr ardal; neu

(ch) pobl sydd wedi byw yn yr ardal am o leiaf cyfanswm o 10 mlynedd yn ystod eu hoes.

** Disgwylir y bydd pob datblygiad masnachol yn gorfod cydymffurfio ag amod tebyg i amod Llywodraeth Cymru o ran grantiau: "Pan fo’r dibenion yn cynnwys neu’n ymwneud â darpariaeth gwasanaethau neu ddeunydd ysgrifenedig (gan gynnwys arwyddion a gwybodaeth a gyhoeddir ar-lein) yng Nghymru, rhaid iddynt gael eu darparu yn y Gymraeg, oni fyddai’n afresymol neu’n anghymesur gwneud hynny."