Un Cymhwyster Cymraeg Iaith i Bawb
Argymhellion Gweithgor Cymwysterau Cymdeithas yr Iaith
1. Cyflwyniad
1.1. Ym mis Medi 2013, cyhoeddodd yr Athro Sioned Davies adroddiad, a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, am sefyllfa'r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Nodai’r adroddiad: “Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith … mae lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn is nag mewn unrhyw bwnc arall. Petai hyn wedi cael ei ddweud am Fathemateg, neu am y Saesneg, diau y byddem wedi cael chwyldro … Os ydym o ddifrif ynglŷn â datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr.”
1.2. Argymhellodd adroddiad yr Athro Davies y dylid disodli Cymraeg Ail Iaith gyda chontinwwm lle byddai pob disgybl yng Nghymru yn cael cyfran o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gan argymell y canlynol:
“Argymhelliad 6
Llywodraeth Cymru i adolygu’r rhaglen astudio Cymraeg, dros gyfnod o dair i bum mlynedd, a defnyddio’r Fframwaith Llythrennedd Cenedlaethol ar gyfer Cymraeg fel sylfaen ar gyfer cwricwlwm diwygiedig gan gynnwys:
-un continwwm o ddysgu Cymraeg, ynghyd â disgwyliadau clir ar gyfer disgyblion sy’n dysgu Cymraeg mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg, cyfrwng Cymraeg a lleoliadau dwyieithog; a chanllawiau, deunyddiau cefnogi a hyfforddiant.
“O ganlyniad byddai’r elfen Cymraeg ail iaith yn y rhaglen astudio Cymraeg yn cael ei disodli ynghyd â’r term Cymraeg ail iaith.”
1.3. Yn ogystal, argymhellodd yr adroddiad annibynnol y dylid “… ehangu defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg; a gosod targedau i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.” Yn ôl ymateb i gwestiwn ysgrifenedig diweddar, ymddengys nad yw’r Llywodraeth wedi gweithredu ar yr argymhelliad chwe blwydd oed hwn o gwbl1.
1.4. Chwe blynedd ers i adroddiad yr Athro Sioned Davies gael ei gyhoeddi, mae Cymraeg Ail Iaith yn parhau i gael ei addysgu mewn ysgolion a hynny er gwaethaf nifer o ymrwymiadau gan Weinidogion i'w ddileu.
1.5. Ar 18 Tachwedd 2015, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod e a'r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi dod i'r un casgliad: "Rydym o’r farn bod y cysyniad “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol ... Wrth reswm, bydd heriau’n codi wrth inni ddatblygu Cwricwlwm newydd i Gymru sy’n bodloni ein dyheadau, ond mae Llywodraeth Cymru yn llwyr ymrwymedig i’r dull hwn."
1.6. Ar 28 Medi 2016, yn siambr y Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd Alun Davies, y Gweinidog oedd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg ar y pryd, y byddai Cymraeg Ail Iaith yn cael ei ddisodli gan un cymhwyster Cymraeg erbyn 2021.
1.7. Ym mis Mawrth 2018, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams y "bydd yna un cymhwyster Cymraeg" i bob disgybl, a fydd yn disodli'r cymwysterau Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith presennol.
1.8. Fodd bynnag, ni all y Gymraeg aros tan i ddisgyblion ddechrau astudio’r cymhwyster cyfunol yn 2025 a sefyll ei arholiadau yn 2027, sef amserlen hynod araf y Llywodraeth ar gyfer newid cymwysterau yn gyffredinol. Oherwydd y system bresennol, mae tua 26,000 o bobl ifanc yn colli allan ar ruglder yn y Gymraeg bob blwyddyn. Er gwaethaf dros ddegawd o ddysgu’r Gymraeg fel pwnc felly, cânt eu hamddifadu o allu i ddefnyddio’r Gymraeg. Ni all y Gymraeg, Cymru na’r genhedlaeth bresennol o bobl ifanc fforddio parhau â’r system yma am flynyddoedd lawer i ddod.
1.9. Tra bod tua 22% o blant 7 mlwydd oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, dim ond tua 17%2 o bobl ifanc ym mlwyddyn 11 sy'n dilyn llwybr Cymraeg iaith gyntaf. Mae canran sylweddol o ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn symud ymlaen i ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg3, gan ddilyn llwybr Cymraeg Ail Iaith fel arfer a cholli'r arferiad o ddefnyddio'r Gymraeg i gyfathrebu o ddydd i ddydd. O blith y plant a asesir fel disgyblion iaith gyntaf ym mlwyddyn 6 yng Ngwynedd, dydy 15% ddim yn cael eu hasesu felly ym mlwyddyn 9. Mae ffigwr tebyg, sef 14%, yn Sir Gaerfyrddin. Ar lefel Cymru gyfan, mae 11% o blant yn colli rhuglder yn y Gymraeg o achos diffyg dilyniant rhwng y sector gynradd ac uwchradd.
1.10. Ymhellach, mae’r Llywodraeth wedi gosod nod uchelgeisiol o sicrhau bod hanner y plant sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg yn gadael yr ysgol yn siarad Cymraeg yn rhugl erbyn 2050. Heb weddnewid y system, gan gynnwys creu un cymhwyster Cymraeg i bawb, ni fydd modd i'r Llywodraeth gyrraedd ei tharged ei hunan.
2. Y Prif Gynigion
2.1. Nod ein cymhwyster cyfunol Cymraeg Iaith yw codi safonau ar gyfer y bobl ifanc hynny sy’n astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf yn ogystal â'r rhai sy'n dioddef y system ail iaith bresennol.
2.2 Mae'r papur hwn yn argymell manyleb ar gyfer un cymhwyster Cymraeg Iaith newydd. Nid ydym yn argymell newid y cymwysterau llên presennol.
2.3. Rydym yn cynnig y dylid gwneud y profion ac elfennau llafar o'r cymhwyster Cymraeg iaith gyntaf presennol a'u gosod fel arholiad diwedd Cyfnod Allweddol 3 (14 oed yn lle 16 oed), a hynny fel asesiad i bob disgybl. Wedyn, gan ddibynnu ar y canlyniadau 14 oed yn yr asesiadau llafar cyffredin, ein cynnig yw y byddai disgyblion yn dilyn un o ddau lwybr astudio – un llwybr â mwy o bwyslais ar sgiliau ysgrifenedig a llenyddol na'r llall. Byddai gan yr haen fwy llenyddol safonau cyfatebol i'r cymhwyster Cymraeg iaith gyntaf presennol.
2.4. Dywed arbenigwyr wrthym y gallai’r prawf llafar cyffredin 14 oed fod yn addas i bob disgybl heb achosi trafferth, ac y byddai sawl mantais cael un system o'r fath, gan gynnwys:
-
gwella sgiliau llafar pob un disgybl, gan gynnwys mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg penodedig;
-
taclo problem ddifrifol, yn bennaf yn y Gorllewin, o blant sy'n colli sgiliau iaith wrth drosglwyddo o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg i'r sector uwchradd;
-
ymestyn sgiliau iaith plant o bob ysgol, ynghyd â chynnig cyfle gwirioneddol i bob un plentyn gaffael sgiliau iaith o'r safon uchaf waeth beth yw natur yr ysgol y maent yn ei mynychu.
2.5. Bydd y cymhwyster cyfunol newydd yn gyfwerth ac yn arddel yr un brand â chymwysterau eraill yng Nghymru, sef TGAU. Sicrheir y bydd y disgwyliadau o ran gofynion yn cyfateb i arholiadau TGAU eraill drwy'r drefn safoni draws-bynciol sydd eisoes ar waith. Gall y drefn arholi yn y dyfodol newid a disgwylir y bydd unrhyw newid yn ymgorffori'r cymhwyster Cymraeg cyfunol newydd.
3. Graddio’r Cymhwyster Newydd3.1. Ystyriwyd yn helaeth nifer o opsiynau posib o ran graddio’r cymhwyster. Wrth bwyso a mesur y gwahanol opsiynau, penderfynwyd bod angen i'r system raddio fodloni’r meini prawf a amlinellir ym mharagraff 2.4 uchod ac, yn benodol, y canlynol:
(i) cymell, a sicrhau, bod pob sefydliad addysg yn gwella cyrhaeddiad pob disgybl yn y Gymraeg, gan gynnwys disgyblion ysgolion cyfrwng Cymraeg penodedig;
(ii) osgoi ail-greu, neu barhau â, safonau isel, gwendidau a gwahaniaethau’r gyfundrefn ail iaith bresennol.
3.2. Trafodwyd opsiynau megis mabwysiadu Tystysgrifau Cymraeg i Oedolion ynghyd â’r opsiwn o sefydlu dau neu dri chymhwyster TGAU gan gydnabod sgiliau fel TGAU cyfwerth, tebyg i Fathemateg neu Wyddoniaeth lle cynigir Gwyddoniaeth Driphlyg. Yn y diwedd, diystyrwyd yr opsiynau hynny am nifer o resymau. Er bod cyfundrefn Cymraeg i Oedolion yn fodel o un continwwm, mae’r pwyslais ar gaffael iaith yn lle sgiliau gwybyddol ehangach a phenderfynwyd na fyddai’r model yn bodloni’r meini prawf.
3.3. Wedi’r trafodaethau hynny, blaenoriaethwyd ystyriaeth o’r ddau opsiwn canlynol gan eu bod wedi’u hargymell gan arbenigwyr yn y maes:
(i) un TGAU gydag un marc i bob disgybl, ond gydag uchafswm o radd ‘B’ i'r rheini sy’n sefyll y papur haen sylfaenol;
(ii) un TGAU gyda dau farc i bob disgybl4;
3.4. Wedi dwys ystyried, rydym yn argymell cyfuniad o’r ddau opsiwn uchod. Credwn y dylid sefydlu un TGAU gydag un marc i bob disgybl, ond gydag uchafswm o radd ‘B’ i’r rheini sy’n sefyll y papur haen sylfaenol. Bydd hyn yn cynnwys graddau ar gyfer pedwar modiwl, sef sgiliau ysgrifennu, sgiliau darllen, sgiliau siarad a sgiliau gwrando.
3.5. Sylweddolwn y gallai fod angen ail-ymweld â rhai o’r cynigion uchod yn sgil cyhoeddi’r cwricwlwm drafft newydd yn ddiweddarach eleni ynghyd â datganiadau ‘yr hyn sy'n bwysig’ a ddatblygir gan ysgolion arloesi. Gallai fod achos dros dystysgrifau ychwanegol i brofi sgiliau sylfaenol yn ogystal.
4. Newidiadau Ehangach i'r Gyfundrefn Addysg
4.1. Law yn llaw â disodli Cymraeg ail iaith gyda chymhwyster cyfunol, mae'r Gymdeithas yn ymgyrchu i ehangu a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg, ac rydym wedi amlinellu ein sylwadau diweddaraf5 wrth Fwrdd CSGA, sy'n edrych ymhellach ar newidiadau deddfwriaethol i gyfundrefn bresennol Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Galwn felly am Ddeddf Addysg Gymraeg i Bawb er mwyn gwireddu’r newidiadau sydd eu hangen i'r gyfundrefn addysg mewn perthynas â’r Gymraeg, yn ogystal â chyflwyno’r cymhwyster cyfunol newydd.
4.2. Cred aelodau Gweithgor Cymwysterau’r Gymdeithas bod gwir angen i'r cymhwyster bwysleisio hanes a chyd-destun yr iaith yn y cwrs a’r asesiadau. Ym marn y Gweithgor, mae’n hanfodol bod dysgu’r iaith fel cyfrwng cyfathrebu yn mynd law yn llaw â chodi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hanes a gwleidyddiaeth iaith yng Nghymru, yn ogystal ag yng nghyd-destun ieithoedd ledled y byd sydd wedi’u lleiafrifoli. Mae’r cynigion sy'n dilyn felly yn ceisio datblygu fframwaith i sicrhau y caiff ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth iaith eu datblygu.
5. Casgliadau
5.1. Credwn fod modd creu un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl o ganolbwyntio’n bennaf ar sgiliau llafaredd. Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi cymhwyster enghreifftiol newydd cyn gynted â phosib a’i estyn i bob sefydliad addysg dros amser. Ar yr un pryd, mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar argymhellion eraill adroddiad yr Athro Sioned Davies, yn enwedig yr argymhelliad i “… ehangu defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg; a gosod targedau i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.”
5.2. Bydd asesiadau llafar cyffredin i bob disgybl yn 14 ac yn 16 oed, fydd yn arwain at gymwysterau cyffredin mewn Cymraeg iaith. Bydd modd cydnabod sgiliau ysgrifenedig ac elfennau llenyddol drwy bapurau llenyddol estynedig. Credwn y bydd cynnal yr asesiadau cyffredin ar oedran iau yn atal ysgolion rhag caniatáu i ddisgyblion golli sgiliau iaith, ynghyd ag estyn pob person ifanc i'w llawn botensial ym mhob cyd-destun addysgol.
5.3. Geilw’r Gweithgor ar y Gweinidog Addysg i wneud penderfyniad eleni i ariannu prosiect peilot rhwng CBAC a Chymwysterau Cymru er mwyn gallu treialu’r cymhwyster Cymraeg cyfunol newydd mewn rhai ysgolion ddim hwyrach nag o fis Medi 2020 ymlaen, fel cam blaengar tuag at baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Er mwyn i'r peilot gael ei weithredu’n iawn, bydd angen adnoddau a chymorth ychwanegol ar yr ysgolion sy’n rhan ohono.
Gweithgor Cymwysterau Cymdeithas yr Iaith
Mis Ebrill, 2019
cymdeithas.cymru
Manyleb Ddrafft: Un Cymhwyster TGAU Cymraeg Iaith i Bawb
Cymdeithas yr Iaith
1. Rhagarweiniad
1.1. Model
1.1.1. Rydym wedi penderfynu defnyddio TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf fel sail y cymhwyster newydd, gydag elfennau llafar y cymhwyster hwnnw yn gyffredin i bob disgybl 14 oed. Bydd cynnwys TGAU Iaith Gyntaf yn sefyll i ddisgyblion sy’n sefyll y papur haen uwch yn 16 oed, gyda safonau ychydig yn uwch drwy ychwanegu elfennau o’r cymhwyster uwch gyfrannol presennol. Bydd papur sylfaen y TGAU Cymraeg Iaith newydd yn cynnwys elfennau llafar y cymhwyster iaith gyntaf yn ogystal ag elfennau o’r cymhwyster TGAU Ail Iaith presennol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cymwysterau Cymru wedi lleihau’r bwlch rhwng Cymraeg Ail Iaith a safonau Iaith Gyntaf, felly mae’r model hwn yn adeiladu ar y gwaith hwnnw.
1.1.2. Ystyriwyd dilyn model y gyfundrefn Wlpan, cwrs dysgu a seiliwyd ar brofiadau adfer yr iaith Hebraeg. Mae'r model gwreiddiol bellach wedi’i addasu gan y gyfundrefn Cymraeg i Oedolion6, sef Sylfaen, Canolradd, Uwch, Hyfedredd. Mae’r model hwn yn enghraifft o asesu ar hyd un continwwm a hynny drwy'r Gymraeg. Credwn fod nifer o fanteision i fodel Wlpan, gan gynnwys sicrhau bod y gyfundrefn cymwysterau yn cefnogi pob disgybl i ddysgu Cymraeg ar hyd yr un continwwm yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, gan roi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau drwy’r ysgol. Yn ogystal, byddai'n sicrhau bod disgyblion yn gallu parhau gyda, neu ategu, eu haddysg ysgol gyda dosbarthiadau nos neu gyrsiau dwys a ddarperir gan y gyfundrefn Cymraeg i Oedolion. Yn y diwedd, diystyrwyd model Cymraeg i Oedolion; er ei fod yn fodel o un continwwm, mae’r pwyslais ar gaffael iaith yn lle sgiliau gwybyddol ehangach a phenderfynwyd na fyddai’r fyddai’r fodel yn bodloni’r meini prawf.
1.2. Fframwaith Asesu
1.2.1. Dylai fod pwyslais ar asesiadau ffurfiannol, ond bydd asesiad terfynol hefyd.
1.2.2. Dylai’r gwaith cwrs ganolbwyntio ar ddeall y gymuned leol o ran ei hanes, ei daearyddiaeth, ei hiaith unigryw a'r heriau sy'n ei hwynebu, a sut mae'r rheiny’n plethu â hanes Cymru a hanes a defnydd cyfoes yr iaith. Dylid darparu adnoddau sy'n cynnwys straeon atyniadol am yr iaith neu’r wlad fyddai’n ysgogi plant i'w dysgu, megis diwylliant cyfoes a pherthnasol.
1.2.3. Bydd un asesiad llafar cyffredin i bob disgybl 14 oed, ac asesiad llafar cyffredin arall yn 16 oed, gyda phapur haen sylfaenol a haen uwch fel asesiad ysgrifenedig yn 16 oed. Mi fydd elfen o asesu’r pedair sgìl graidd – siarad, gwrando (ac ymateb), darllen, ac ysgrifennu – yn yr asesiadau hyn, ond bydd pwysiad llawer iawn uwch yn yr asesiad 14 oed ar sgiliau llafaredd. Bydd un asesiad llafar i bawb 14 oed, fydd yn cyfateb i safonau llafar presennol y cymhwyster TGAU iaith gyntaf. Gallai’r asesiad arwain at dystysgrif sy’n cyfateb i lefelau presennol Cymraeg i Oedolion. Gallai’r asesu gynnwys elfennau ffurfiannol yn ogystal â therfynol.
1.2.4. Yn dilyn canlyniadau’r asesiadau 14 oed, bydd modd i ddisgyblion ddilyn un o ddau lwybr sy’n arwain at yr asesiadau canlynol yn 16 oed:
-
I’r rheini sydd eisoes wedi pasio lefel hyfedredd iaith yn 14 oed, bydd asesiad llenyddol ac iaith ychwanegol.
-
I’r rheini sydd heb gyrraedd lefel hyfedredd iaith, bydd asesiad llafar pellach er mwyn cyrraedd lefel hyfedredd iaith.
1.2.5. Bydd disgwyl i ysgolion gynnig oriau dysgu nad ydynt yn llai na phynciau craidd eraill, gan gynnwys normaleiddio’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm a dysgu pynciau eraill drwy’r Gymraeg. Drwy’r ymrwymiadau hynny, bydd cyfle gan bob disgybl i gyrraedd lefel ragorol o ruglder llafar.
1.3. Natur yr Asesu a Chefnogaeth
1.3.1. Argymhellwn y dylid disodli’r asesiadau presennol a wneir ar ddiwedd blwyddyn 9 gyda’r asesiad 14 oed rydym yn ei argymell. Bydd hynny’n sicrhau na fydd rhagor o waith asesu i'r gweithlu. Gallai’r asesiadau fod ar ffurf ffurfiannol, gyda buddsoddiad ychwanegol mewn hyfforddiant athrawon er mwyn iddynt allu asesu gydag elfen o gyd-gymedroli.
1.3.2. Credwn yn ogystal y dylai asesu allanol fod yn rhan bwysig o’r asesiad blwyddyn 9, yn enwedig yn y cyfnod treialu. Dylai Llywodraeth Cymru roi adnoddau ychwanegol i CBAC weithio ar y cyd gyda Chymwysterau Cymru i sicrhau bod grŵp o ysgolion ym mhob rhanbarth yn cael cymorth i dreialu’r cymhwyster ar y cyfle cyntaf posibl. Yn ogystal â lleihau’r baich asesu ar y gweithlu, byddai’n fodd o sicrhau bod safonau yn gwella ac yn cael eu monitro’n dda.
1.4. Cynnwys y Cymhwyster
1.4.1. Dylai’r cwrs ganolbwyntio ar sgiliau hyfedredd llafar yn y lle cyntaf er mwyn sicrhau bod gan bob disgybl botensial i gael y marciau uchaf yn 14 oed. Nodwn fod hyn yn cyd-fynd â’r newidiadau diweddar i TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf.
1.4.2. Bydd pwyslais cynyddol ar sgiliau ysgrifenedig ac astudio llenyddiaeth rhwng 14 a 16 oed.
1.5. Nodau ac Amcanion y Cymhwyster Cyfunol
1.5.1. Drwy gyfuno nodau ac amcanion y cymwysterau Cymraeg Iaith ac Ail Iaith presennol, lluniwyd y nodau ac amcanion canlynol ar gyfer un cymhwyster cyfunol:
-
deall a defnyddio’r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig i gyfathrebu mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd
-
deall a defnyddio amrywiaeth o batrymau, strwythurau a ffurfiau iaith wrth gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig
-
dangos dealltwriaeth ac addasu’r defnydd o iaith, gan gynnwys tafodiaith ac ymadroddion, mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ac i wahanol gynulleidfaoedd, gan gynnwys deall cywair ac ymateb yn addas i bwrpas.
-
defnyddio a dehongli amrywiaeth o destunau ysgrifenedig i ddangos dealltwriaeth o iaith ar lafar
-
meithrin chwilfrydedd a dangos dealltwriaeth o Gymru ac o’r Gymraeg yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
2. Cynnwys y Pwnc
2.1. Trefnwyd y cyd-destun ar gyfer dysgu'r iaith ar sail pum maes trafod sy’n cyd-fynd â meysydd dysgu a phrofiad y cwricwlwm newydd sef: Celfyddydau Mynegiannol; Iechyd a Lles; Y Dyniaethau; Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu; Mathemateg a Rhifedd; Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
2.2. Gan y bydd asesiad newydd ar gyfer pobl ifanc 14 oed, bydd angen sicrhau bod y cynnwys yn addas ar gyfer yr oedran hwnnw. Yn yr asesiad 16 oed, gallai’r pum maes trafod fod fel a ganlyn:
-
Iaith a diwylliant – Cymru a'r Byd
-
Yr amgylchedd byd-eang
-
Hawliau a chyfiawnder personol a chymdeithasol
-
Y dechnoleg newydd mewn byd gwaith a hamdden
-
Gwleidyddiaeth a democratiaeth yng Nghymru a tu hwnt.
2.3. Bydd y cymhwyster yn datblygu’r sgiliau canlynol:
-
Disgrifio
-
Cyfathrebu
-
Dadansoddi ac Egluro
-
Crynhoi, cyflwyno a dod i farn
-
Gweithio’n ddigidol drwy’r Gymraeg ac yn aml-gyfrwng i gyflwyno gwybodaeth a dangos dealltwriaeth.
2.4. Asesiadau Oedran 14
TASG 1 - Cyflwyniad Unigol Ar Sail Ymchwil
Un cyflwyniad unigol ar sail ymchwil a all gynnwys ymateb i gwestiynau ac adborth wedi’u seilio ar themâu penodol.
Disgwylir i ymgeiswyr gymryd rhan mewn gweithgaredd llafar unigol gan gyflwyno gwybodaeth ar unrhyw agwedd neu agweddau yn ymwneud ag un o’r themâu canlynol:
1. Cymru a’r Gymraeg, gan gynnwys hanes, daearyddiaeth a gwleidyddiaeth
2. Diwylliant (Celf, Arlunio, Cerddoriaeth ayyb)
3. Byd Gwaith a Hamdden
4. Byd Gwyddoniaeth/Technoleg
5. Democratiaeth, sef addysg gymdeithasol a gwleidyddol – cymuned, gwlad a’r amgylchedd
Mae’r dasg hon yn rhoi cyfle i ymgeiswyr gyflwyno gwybodaeth a dangos dealltwriaeth a'r gallu i resymu wrth gyfathrebu.
TASG 2 - Ymateb a Rhyngweithio
Un drafodaeth grŵp ar sail symbyliad ysgrifenedig a/neu weledol a ddarperir gan CBAC i hybu trafodaeth.
Disgwylir i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau llafar gydag eraill er mwyn mynegi a chefnogi barn. Mae’r gweithgaredd yn rhoi cyfle i’r ymgeiswyr gyfleu eu profiadau personol a/neu berswadio eraill.
Ar gyfer y ddwy dasg, dyfernir chwarter y marciau am gynnwys a threfn a’r gweddill am gywair priodol, cywirdeb gramadegol ac ystod o batrymau brawddegol.
2.5. Asesiadau Oedran 16
Papur Haen Uwch
Uned 1: Y Ffilm a’r Ddrama a Llafaredd – Arholiad Llafar (30%)
[O’r cymhwyster uwch gyfrannol presennol]
Nodiadau i Athrawon
-
Asesiad allanol yw hwn. Er hynny, dylai athrawon asesu cyrhaeddiad disgybl yn fewnol yn ystod y flwyddyn.
-
Bydd arholwr allanol yn ymweld â phob canolfan yn ystod yr wythnosau cyn ac yn dilyn gwyliau’r Pasg.
-
Defnyddir asesiad y ganolfan fel canllaw i gynorthwyo'r arholwr. Argymhellir bod ymgeiswyr yn sefyll ffug arholiad llawn cyn diwrnod yr arholiad. Pennir marciau i’r ymgeiswyr gan yr arholwr ar sail y dystiolaeth yn yr arholiad. Caiff pob arholiad ei recordio ac felly bydd modd ailwrando ar unrhyw arholiad i wirio’r marciau.
-
Arholir yr ymgeiswyr mewn grwpiau heb fod yn fwy na thri ymgeisydd.
-
Dewisir y grwpiau yn ôl gallu'r ymgeiswyr neu ddoethineb yr arholwr. Lle nad oes ond un ymgeisydd arholir ef yn unigol gan yr arholwr. Lle ceir grwpiau o dri bydd yr arholiad yn parhau am tua 45 munud.
Swyddogaeth yr arholwr lle bo angen
-
sbarduno trafodaeth drwy ofyn cwestiynau
-
hybu newid cyfeiriad y drafodaeth
-
gofyn i ymgeisydd gynnig tystiolaeth i gadarnhau syniadau neu ddatblygu dadl
-
sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael cyfle i ymateb.
Wrth asesu'r ymgeiswyr yn yr Arholiad Llafar ystyrir eu gallu i lefaru'r iaith yn gywir a graenus yn y cywair priodol gan arddangos gwybodaeth benodedig am y ffilm a’r ddrama a'u cefndir, gwrando'n astud ar eraill, codi cwestiynau, datblygu safbwyntiau, rhyngweithio a dod i gasgliadau.
Trafod ffilm
Hedd Wyn (Alan Llwyd)
Gall yr arholwr ofyn i'r ymgeiswyr ymdrin â phynciau megis y rhai a ganlyn:
-
trafod cymeriadau, olrhain eu datblygiad a chymharu cymeriadau â'i gilydd
-
trafod golygfeydd allweddol
-
manylu ynghylch y defnydd o lun a sain neu gerddoriaeth gefndirol
-
trafod bwriadau'r awdur a'r cynhyrchydd
-
mynegi barn ac ymateb i'r gwaith fel cyfanwaith
-
trafod themâu a geir yn y ffilm.
Trafod drama
Naill ai
Siwan: Saunders Lewis
Neu
Y Tŵr: Gwenlyn Parry
Gall yr arholwr ofyn i’r ymgeiswyr ymdrin â rhai o’r pynciau a ganlyn:
plot, adeiladwaith, cymeriadaeth, deialog, themâu, cynhyrchu, agwedd yr awdur at fywyd fel y’i cyflwynir trwy ei waith.
Wrth drafod y ffilm a’r ddrama, disgwylir i’r ymgeiswyr ystyried dehongliadau eraill (disgyblion eraill, athrawon a beirniaid llenyddol), a dylid eu hyfforddi i ddyfynnu a defnyddio termau gwerthfawrogi llenyddiaeth/llunyddiaeth yn briodol.
Uned 2: Asesiad Allanol
Darllen ac Ysgrifennu: Disgrifio, Naratif ac Esbonio 35% (2 awr)
Adran A (15%) – Darllen (30 marc)
Yn yr adran hon bydd yr ymgeiswyr yn cael eu profi ar eu dealltwriaeth o destunau – o leiaf un disgrifio, un naratif ac un esbonio gyda chyswllt thematig, a fydd yn cael eu hasesu drwy gwestiynau strwythuredig.
Bydd amrywiaeth o destunau di-dor a phytiog lle bydd angen defnyddio amrywiol ddulliau darllen ac ymateb mewn ffyrdd gwahanol. Bydd y testunau a ddefnyddir yn yr adran hon yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: hunangofiant, cofiant, dyddiaduron, areithiau, adroddiadau, taithlyfrau, erthyglau newyddiadurol, adolygiadau, detholiadau o nofelau a straeon byrion ynghyd â thestunau pytiog ar yr un thema, megis hysbysebion, diagramau, rhestri, graffiau, amserlenni, tablau sy’n cynnwys iaith ysgrifenedig. (Mae’n bosib cynnwys mathau eraill o ysgrifennu nas rhestrir uchod.)
Ychydig o ddarllen fydd ei angen ar rai testunau ond bydd angen darllen mwy trwyadl ar gyfer eraill a fydd yn fwy heriol.
Bydd amrywiaeth o ymatebion byr ac estynedig. Bydd rhai cwestiynau yn fyr (e.e. cwestiynau aml-ddewis, ymatebion byr, cloze, dilyniannau). Bydd eraill yn gofyn am atebion hirach (e.e.aralleirio, deall cyd-destun, dadansoddi, dod i gasgliad).
Bydd yr adran hon hefyd yn cynnwys tasg golygu testun a fydd yn canolbwyntio ar ddeall testun byr ar lefel gair, brawddeg a thestun (2.5% o’r cymhwyster cyfan).
Adran B (20%) – Ysgrifennu (40 marc)
Yn yr adran hon, bydd ymgeiswyr yn cyflawni un dasg ysgrifenedig o ddewis o ddau. Bydd disgwyl i ymgeiswyr ysgrifennu un darn o ysgrifennu estynedig a all fod yn waith disgrifio, naratif neu esbonio gan godi gwybodaeth o ddeunydd darllen Adran A lle bo hynny’n briodol. Gallai hyn gynnwys cofiant/portread, atgofion, ysgrifennu am brofiadau teithio/bwyta, dyddiadur, stori, naratif personol. (Mae’n bosib cynnwys mathau eraill o ysgrifennu nas rhestrir uchod.)
Bydd yr adran hon hefyd yn cynnwys un dasg prawf ddarllen yn canolbwyntio ar ysgrifennu’n gywir. Yn y dasg fer hon bydd ymgeiswyr yn prawf ddarllen a chywiro testun byr (2.5% o’r cymhwyster cyfan).
Dyfernir hanner y marciau yn yr adran hon am gyfathrebu a threfn (ystyr, pwrpasau a strwythur) a’r hanner arall am ysgrifennu’n gywir (iaith, gramadeg, atalnodi a sillafu).
Uned 3: Asesiad Allanol
Darllen ac Ysgrifennu: Trafod, Perswâd a Chyfarwyddiadol 35% (2 awr)
Adran A (15%) – Darllen (40 marc)
Yn yr adran hon bydd yr ymgeiswyr yn cael eu profi ar eu dealltwriaeth o destunau – o leiaf un trafod, un cyfarwyddiadol, ac un perswâd (o leiaf dri thestun) gyda chyswllt thematig a fydd yn cael eu hasesu drwy gwestiynau strwythuredig.
Bydd amrywiaeth o destunau di-dor a phytiog lle bydd angen defnyddio amrywiol ddulliau darllen ac ymateb mewn ffyrdd gwahanol. Bydd y testunau a ddefnyddir yn yr adran hon yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i’r canlynol: llythyrau, negeseuon e-bost, taflenni gwybodaeth, erthyglau, adroddiadau, blogiau, hysbysiadau, canllawiau, testunau digidol ac amlgyfrwng ynghyd â thestunau pytiog ar yr un thema megis hysbysebion, diagramau, rhestri, graffiau, amserlenni, tablau sy’n cynnwys iaith ysgrifenedig. (Mae’n bosib cynnwys mathau eraill o ysgrifennu nas rhestrir uchod.) Ychydig o ddarllen fydd ei angen ar rai testunau ond bydd angen darllen mwy trwyadl ar gyfer eraill a fydd yn fwy heriol.
Bydd amrywiaeth o ymatebion byr ac estynedig. Bydd rhai cwestiynau yn fyr (e.e. cwestiynau aml-ddewis, ymatebion byr, cloze, dilyniannau). Bydd eraill yn gofyn am atebion hirach (e.e.aralleirio, deall cyd-destun, dadansoddi, dod i gasgliad).
Adran B (20%) – Ysgrifennu (40 marc)
Yn yr adran hon bydd yr ymgeiswyr yn cael eu profi drwy un dasg ysgrifenedig orfodol – trafod ac un dasg orfodol – perswâd. Bydd angen i’r ymgeiswyr ysgrifennu drwy ddangos ymwybyddiaeth o gynulleidfa a phwrpas, gan godi gwybodaeth o ddeunydd darllen Adran A lle bo hynny’n briodol a chan addasu eu harddull ysgrifennu i gyd-destunau go iawn e.e. llythyrau, erthyglau, adolygiadau, areithiau ac yn y blaen.
Dyfernir hanner y marciau yn yr adran hon am gyfathrebu a threfn (ystyr, pwrpasau, darllenwyr a strwythur) a’r hanner arall am ysgrifennu’n gywir (iaith, gramadeg, atalnodi a sillafu).
Papur Sylfaenol
Uned 1: Cyflwyniad Unigol Ar Sail Ymchwil ac Ymateb a Rhyngweithio
Ail-adroddir y tasgau llafar oedran 14 a fanylir yn adran 2.4. (50%)
Uned 2: Adroddiadol, penodol a chyfarwyddiadol
Arholiad Ysgrifenedig (25%)
Darllen (15%) Ysgrifennu (10%)
100 marc
Mae'r uned hon yn gofyn i ymgeiswyr ymateb i amrywiaeth o gwestiynau. Asesir y darllen drwy ystod o gwestiynau strwythuredig ac asesir yr ysgrifennu at wahanol ddibenion gan gynnwys ysgrifennu adroddiadol, penodol a chyfarwyddiadol.
Mathau o gwestiynau – Gall y rhain gynnwys amlddewis gydag ymatebion di-eiriau; dewis gosodiadau cywir/anghywir; cwestiynau atebion byr; cwblhau gwybodaeth.
Fformatau a mathau o destunau – Asesir ymgeiswyr ar fformatau gwahanol o destun a allai gynnwys:
-
testun parhaus, er enghraifft gohebiaeth, gwybodaeth ar-lein, deunyddiau marchnata, gwybodaeth ddiagramatig, gwybodaeth gyhoeddus, cyfarwyddyd, llythyrau ac erthyglau
-
testun nad yw'n barhaus, er enghraifft tablau a graffiau, hysbysebion a ffurflenni
-
testunau cymysg gydag elfennau o fformatau parhaus ac amharhaus, er enghraifft testun wedi'i gefnogi gan graff neu dabl
-
testunau lluosog neu destunau byr sy'n gallu cael eu cysylltu â'i gilydd drwy gyd-destun neu gyfosod, er enghraifft hysbysebion gwesty. Gall y testunau gymeradwyo neu wrthddweud ei gilydd.
Bydd gofyn i ymgeiswyr gyfieithu un darn byr i'r Gymraeg (oddeutu 25-35 gair). Bydd hefyd gofyn i ymgeiswyr brawf ddarllen a chywiro testun byr arall (oddeutu 45-55 gair). Bydd y cwestiynau yn targedu agweddau penodol ar gynnwys y pwnc.
Bydd y tasgau yn ymdrin ag un o'r themâu eang (gweler tudalen 6).
Ni chaniateir i ymgeiswyr ddefnyddio geiriaduron nac unrhyw adnoddau eraill yn yr arholiad.
Uned 3: Disgrifiadol, creadigol a dychmygus
Arholiad Ysgrifenedig (25%)
Darllen (10%) Ysgrifennu (15%)
100 marc
Mae'r uned hon yn gofyn i ymgeiswyr ymateb i amrywiaeth o gwestiynau darllen ac ysgrifennu. Asesir y darllen drwy ystod o gwestiynau strwythuredig ac asesir yr ysgrifennu at wahanol ddibenion gan gynnwys disgrifiadol, creadigol a dychmygus.
Bydd angen i'r ymgeiswyr ysgrifennu gan ddangos ymwybyddiaeth o gynulleidfa a phwrpas gan ddefnyddio ystod o wahanol ffurfiau ysgrifenedig er enghraifft llythyrau, negeseuon e-bost, erthyglau, dyddiaduron, posteri, storïau a blogiau.
Mathau o gwestiynau – Gall y rhain gynnwys amlddewis gydag ymatebion di-eiriau; dewis gosodiadau cywir/anghywir; cwestiynau atebion byr, cwblhau gwybodaeth.
Fformatau a mathau o destunau – Asesir ymgeiswyr ar fformatau gwahanol o destun a allai gynnwys:
-
testun parhaus (llenyddiaeth), er enghraifft detholiadau wedi'u haddasu o nofelau, straeon byrion, cerddi, adolygiadau, gwybodaeth ar-lein, deunyddiau marchnata, llythyrau ac erthyglau
-
testun nad yw'n barhaus, er enghraifft tablau a graffiau, hysbysebion a ffurflenni
-
testunau cymysg gydag elfennau o fformatau parhaus ac amharhaus, er enghraifft esboniad mewn rhyddiaith wedi'i gefnogi gan graff neu dabl
-
testunau lluosog neu destunau byr sy'n gallu cael eu cysylltu â'i gilydd drwy gyd- destun neu gyfosod, er enghraifft hysbysebion gwesty. Gall y testunau gymeradwyo neu wrthddweud ei gilydd.
Bydd y tasgau yn ymdrin ag un o'r themâu eang.
Ni chaniateir i ymgeiswyr ddefnyddio geiriaduron nac unrhyw adnoddau eraill yn yr arholiad.
3. Asesu
3.1. Prif ddiben y cymhwyster a’r cwrs hyd at 14 oed yw creu siaradwyr rhugl a datblygu sgiliau llafaredd. Bydd yr arholiad llafar wrth reswm yn cynnwys elfennau o sgiliau iaith eraill, ond bod y pwysiad ar yr ochr llafaredd. Bydd pwyslais cynyddol ar yr elfennau eraill yn yr arholiad 16 oed.
3.2. Dyma’r sgiliau llafaredd a ddisgwylir:
-
cyflwyno gwybodaeth a dethol/trefnu gwybodaeth a syniadau yn effeithiol ac yn ddarbwyllol, e.e. ar gyfer cyflwyniad llafar wedi’i baratoi neu drafodaeth grŵp
-
dangos dealltwriaeth o gonfensiynau'r iaith lafar mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol
-
siarad yn gywir ac yn rhugl, gan addasu arddull ac iaith fel eu bod yn addas ar gyfer amrywiaeth eang o ffurfiau, cyd-destunau, cynulleidfaoedd a dibenion
-
arbrofi gydag iaith a thechnegau i fynegi barn, creu effeithiau a denu diddordeb cynulleidfaoedd
-
rhoi sylw priodol i gywirdeb cystrawen a mynegiant
-
cyfleu profiadau, syniadau a gwybodaeth yn glir, yn gywir ac yn briodol
-
defnyddio sgiliau rhesymu geiriol, llunio barn annibynnol ac arddangos sgiliau gwrando effeithiol drwy grynhoi pwyntiau allweddol, herio’r hyn a glywir ar sail rheswm, tystiolaeth neu ddadl
-
ymateb yn adeiladol ac yn feirniadol i amrywiaeth eang o destunau ysgrifenedig a digidol/dynamig, gan ddefnyddio dulliau creadigol o ymchwilio i faterion, datrys problemau a datblygu syniadau
-
myfyrio ar eu defnydd o iaith a defnydd pobl eraill ohoni a rhoi sylwadau beirniadol ar hynny, cymryd rhan mewn amrywiaeth o gyd-destunau bywyd go iawn, ac addasu'r sgwrs yn briodol i'r sefyllfa a'r gynulleidfa
-
ymateb yn ddigymell i amryw o sefyllfaoedd.
Dyma’r sgiliau ysgrifenedig a ddisgwylir erbyn oedran 16:
-
llunio testunau ysgrifenedig clir a chydlynol.
-
ysgrifennu’n effeithiol at ddibenion a chynulleidfaoedd gwahanol ac mewn ffurfiau gwahanol, e.e. esbonio, cyfarwyddo, ailadrodd, hysbysu, trafod, darbwyllo, dadlau.
-
dewis geirfa, gramadeg, ffurf a nodweddion strwythurol a threfniannol yn ystyriol i adlewyrchu’r gynulleidfa, y diben a’r cyd-destun.
-
amrywio strwythurau brawddegau i ddenu diddordeb y darllenydd a’i gynnal ac ysgrifennu’n gywir yn ramadegol.
-
defnyddio amrywiaeth lawn o ddulliau atalnodi er mwyn amrywio cyflymder y darn, esbonio ystyr, osgoi amwysedd a chreu effeithiau bwriadol.
-
trefnu’r ysgrifennu mewn ffurf briodol, gan sicrhau bod y cynnwys yn fanwl o fewn a rhwng paragraffau neu adrannau, datblygu a chynnal syniadau mewn ffordd gydlynol.
-
defnyddio iaith yn greadigol ac yn fanwl gywir.
-
defnyddio gwybodaeth a gasglwyd o amrywiaeth o ffynonellau i ysgrifennu’n gydlynol mewn ffurfiau gwahanol.
-
ysgrifennu er mwyn creu argraff drwy ddethol, trefnu a phwysleisio ffeithiau, syniadau a phwyntiau allweddol a dyfynnu tystiolaeth gymhellol i ategu safbwyntiau.
Ebrill 2019
Cymdeithas yr Iaith
2 https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Examinations-and-Assessments/Key-Stage-4/examinationachievementsofpupilsaged15-by-year
3 tud.41, adroddiad blynyddol Strategaeth y Gymraeg, Llywodraeth Cymru https://llyw.cymru/docs/dcells/publications/180329-welsh-language-strategy-annual-report-2016-17-cy.pdf
4 Mae academyddion yn cynnig dwy ffordd bosib o ddyfarnu’r ddau farc hwnnw: (i) un marc ar gyfer sgiliau ‘cynhyrchiol’, sef siarad ac ysgrifennu, ac un marc arall am sgiliau ‘goddefol’, sef gwrando a deall; neu (ii) un marc am sgiliau ‘llafaredd’, sef siarad a gwrando, ac un arall am sgiliau ‘llythrennedd’, sef darllen ac ysgrifennu.