Trwy gyfrwng y broses gynllunio mae pobl yn gallu mynegi eu gweledigaeth o ddyfodol eu cymunedau. O ganlyniad mae Cymdeithas yr Iaith wedi dadlau ers blynyddoedd ei bod hi'n hollbwysig i sicrhau lle canolog ac ystyrlon i anghenion y Gymraeg yn y maes hwn.
Yn hanesyddol, cafwyd tipyn o frwydr i agor llygaid cynllunwyr i'r ffaith y dylai'r gyfundrefn gynllunio roi ystyriaeth i anghenion a buddiannau'r iaith Gymraeg. Dadl y cynllunwyr oedd mai rheoli defnydd tir a dim byd arall oedd priod waith y gyfundrefn gynllunio. Ond wrth gwrs, mae unrhyw bolisiau sy'n rheoli datblygiadau economaidd a lleoliad a maint datblygiadau tai yn rhwym o effeithio ar gymeriad y gymuned a thrwy hynny ar fywydau'r trigolion sy'n byw yn y gymuned a'r iaith maen nhw'n siarad.
Yn y pendraw gwel Cymdeithas yr Iaith fod pob rhan o'r broses gynllunio yn effeithio ar ddyfodol ein hiaith a'n cymunedau. O ganlyniad, mae angen pwysleisio pwysigrwydd cynllunio cymunedol holistaidd, sy'n gosod yr angen i ddiogelu ein cymunedau fel conglfaen i'r holl broses o lunio polisi. Serch hynny, o fewn y broses gynllunio, mae'n siwr mai polisïau tai sydd ar hyn o bryd yn cael yr effaith fwyaf ar ragolygon ein hiaith a'n cymunedau. Cred Cymdeithas yr Iaith y dylid anelu at gyflwyno polisïau sy'n seiliedig ar ddarparu cartrefi yn Ùl yr angen lleol yn hytrach na hybu buddiannau sy'n ystyried tai fel asedau masnachol.
Camau GweithreduMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i fabwysiadu polisïau cynllunio sydd yn gosod seiliau cadarn ar gyfer holl gymunedau Cymru, yr iaith Gymraeg a'r amgylchedd naturiol.
Credwn y dylid cymryd y camau hyn ar unwaith, gan sicrhau eu bod yn ganolog i'r Cynlluniau Datblygu Unedol ac hefyd unrhyw gynlluniau eraill a gaiff eu paratoi yn y dyfodol.
1. Asesu'r Angen LleolMae'n hollbwysig fod polisïau tai lleol a chenedlaethol yn seiliedig ar anghenion ein cymunedau. Mae'n gwbl glir bod y gyfundrefn gynllunio bresennol yn methu yn hyn o beth. Er bod mesurau wedi'u cyflwyno sy'n gofyn i awdurdodau lleol ystyried y Gymraeg fel ffactor yn y broses gynllunio (Nodyn Cyngor Technegol 20), mae diffyg gweledigaeth a/neu gyfyngiadau ar bwerau ac adnoddau yn golygu mai ystyriaeth ymylol a gaiff anghenion y Gymraeg a chymunedau Cymraeg. Er enghraifft, mae Cynlluniau Datblygu Unedol yn aml yn yn cyfeirio at y Gymraeg a'r angen i ddiogelu cymeriad cymunedau Cymraeg mewn nodiadau rhagarweiniol ac mewn datganiadau polisi cyffredinol. Fodd bynnag, nid yw prif gorff y cynlluniau hynny wedi'u seilio ar ystyriaeth o anghenion a chynaladwyedd cymunedau (gan gynnwys cymunedau Cymraeg). Gwelir hyn yn fwyaf amlwg yn y dyraniadau tir a wneir ar gyfer datblygu tai ñ dyraniadau a wneir ar sail tueddiadau poblogaeth cyffredinol yn hytrach nag ar ymchwil manwl i anghenion cymunedau lleol. Gwelir enghreifftiau eithafol o ganlyniadau'r drefn bresennol yng Ngheredigion ble mae tir ar gyfer datblygu 6,500 o dai yn cael ei ddynodi yn eu CDU drafft heb unrhyw sail o ran angen lleol ac yn Sir Gaerfyrddin ble mae tir wedi'i ddyrannu ar gyfer 11,700 o dai rhwng 2001-2016 ar sail rhagamcanion poblogaeth sy'n cynnwys mewnfudiad o dros 27,000 (16% o'r boblogaeth bresennol).
Croesawn y ddarpariaeth sydd mewn Cynlluniau Datblygu Unedol ar gyfer datblygu tai fforddiadwy lle gellir profi'r angen lleol a defnyddio cytundebau perchnogaeth leol (Adran 106) i sicrhau mai cwrdd ag angen lleol y mae datblygiadau o'r fath. Fodd bynnag, mae'r ffaith bod cynlluniau fel hyn yn cael eu hystyried yn ìBolisi Eithriadauî ac mai caniat’u datblygu yn ychwanegol at y prif ddyraniadau tai a wn’nt yn tanlinellu'r ffaith nad yw'r prif gynlluniau yn seiliedig ar angen lleol.
Galwn ar y Cynulliad Cenedlaethol i baratoi Nodyn Cyngor Technegol sy'n dangos i awdurdodau lleol sut i seilio eu polisïau tai ar ymchwil manwl am gartrefi ac eiddo (ynghyd ag anghenion cymdeithasol eraill) ym mhob cymuned, ynghyd ’ sut i lunio strategaeth fanwl i ddiwallu'r anghenion hynny oddi fewn i'r stoc tai ac eiddo presennol, oni bai fod honno'n annigonol neu'n anaddas.
Dylai'r ymchwil hwn ystyried:
- cartrefi i'w rhentu
- anghenion prynwyr tro-cyntaf
- eiddo i'r rhai ag anghenion arbennig
- gofal yn y gymuned (mewn cydweithrediad ag awdurdodau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol)
- cyflwr y stoc dai a'r angen i'w hadnewyddu a'i gwella
- unrhyw angen am adeiladu o'r newydd
- busnesau a ffermydd i'w rhentu ac ar gyfer rhan-berchnogaeth
- yr adnoddau sydd ar gael o fewn y stoc bresennol, gan gynnwys y stoc rhentu preifat, tai gwag, tai gwyliau ac ail gartrefi
Gellid cyflawni'r ymchwil hwn trwy gyfrwng unedau ymchwil tai o fewn yr awdurdodau lleol, mewn cydweithrediad ’ chynghorau cymuned (ac efallai gyda chymorth prifysgolion, mudiadau gwirfoddol neu gwmnïau). Gwnaed ymchwil tebyg eisoes mewn llawer o ardaloedd gwledig yn Lloegr, ac mae rhai awdurdodau a chymdeithasau tai yng Nghymru hefyd wedi gwneud gwaith tebyg. Yn awr mae angen i'r Cynulliad i baratoi canllawiau clir a fydd yn dangos i holl awdurdodau lleol Cymru sut i wneud y gwaith yma.
Fel sy'n wir ar hyn o bryd, bydd rhaid cynllunio rhai blynyddoedd ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod tir datblygu ar gael lle mae angen adeiladu o'r newydd. Serch hynny, byddai'r ymchwil yma yn golygu y gwneir hyn ar sail gwybodaeth lawer mwy manwl nag ar hyn o bryd, ac felly bydd y ddarpariaeth yn cyfateb yn llawer agosach i'r angen lleol gwirioneddol. Pwysleisiwn nad codi wal o amgylch cymunedau a cheisio cadw popeth fel y mae heb unrhyw ddatblygu y mae Cymdeithas yr Iaith. Yn hytrach, rydym am weld lles y gymuned yn sail i benderfyniadau ar ddatblygu, gan gynnwys symbylu datblygiadau newydd a datblygiadau arloesol lle bo galw. O seilio'r drefn gynllunio ar yr ymchwil manwl i angen lleol, gallwn sicrhau bod datblygiadau yn ymateb i'r anghenion hynny yn hytrach nag ymateb i dueddiadau sy'n ddim ond adlewyrchiad o gyflwr y farchnad.
2. Asesu effaith datblygiadau ar gynaladwyedd ieithyddolEr mwyn sicrhau cynaladwyedd cymunedol mae'n hollbwysig nad yw'r drefn gynllunio yn rhoi caniatad i ddatblygiadau niweidiol. Yn achos y Gymraeg, galwn ar y Cynulliad Cenedlaethol i baratoi Nodyn Cyngor Technegol newydd sydd yn dangos i awdurdodau lleol sut i asesu effaith ieithyddol gwahanol gynlluniau a datblygiadau.
Er mwyn gwneud y gwaith hwn dylai fod yn ofynol i awdurdodau lleol (neu'r Cynulliad gyda datblygiadau o bwys cenedlaethol) i baratoi adroddiad manwl ar geisiadau am ganiatad i godi adeilad(au) newydd, i newid defnydd neu am unrhyw ddatblygiad sylweddol, gan ddangos beth fyddai'r effeithiau posib ar ragolygon yr iaith Gymraeg. Dylid gwrthod rhoi caniatad i unrhyw ddatblygiadau niweidiol. Byddai cam o'r fath yn dilyn trywydd yr ëAsesiadau Effaith Amgylcheddol sydd bellach yn orfodol.
Byddai cymryd cam o'r fath yn cryfhau Canllawiau Cynllunio (Cymru). Nodyn Cyngor Technegol 20: 'Yr Iaith Gymraeg: Cynlluniau Datblygu Unedol a Rheoli Cynllunio'. Mae angen gwneud hyn er mwyn:
- dangos ym mha amgylchiadau y bydd angen ystyried lles y Gymraeg wrth fesur cais cynllunio (lleoliad, natur y datblygiad ayb),
- dangos pa wybodaeth i'w gasglu'n rheolaidd i gefnogi'r gwaith (e.e. y galw lleol am dai, proffil o ddefnydd iaith y gymined, tai haf, cyflogau lleol, tueddiadau mewnfudo ac allfudo)
- dangos sut fethodoleg i'w fabwysiadu ar gyfer gwneud ëasesiad effaith ieithyddol', fel fod gan yr arfer hwn sail gyson ledled Cymru ñ i'w amddiffyn mewn apel os bydd angen.
Byddai cymryd y camau a amlinellir uchod, gan sicrhau eu bod yn egwyddorion sylfaenol wrth lunio cynlluniau lleol neu genedlaethol yn golygu:
- y bydd yn rhaid asesu newid poblogaeth a'r angen am dai newydd yn Ùl ymchwil manwl yr awdurdodau lleol i'r angen lleol ym mhob cymuned, yn hytrach nag yn Ùl rhagamcanion poblogaeth yn unig.
- y bydd yn rhaid asesu effaith unrhyw strategaeth neu ddatblygiad ar gymunedau, y Gymraeg a'r amgylchedd, gan sicrhau bod pob polisi sy'n ymwneud ’'r economi, twristiaeth, amaethyddiaeth, cludiant yn llesol yn hyn o beth ac yn cynnwys polisiau ar gyfer cymunedau y Gymraeg a'r amgylchedd. Eisioes mae polisi cynllunio wedi symud i'r cyfeiriad hwn mewn perthynas ’'r amgylchedd. Nawr mae angen ymestyn hyn i gynnwys y Gymraeg.
Yn dilyn cyhoeddi papur ymgynghorol y Cynulliad 'Cynllunio: Cyflawni dros Gymru' ym mis Ionawr 2002, ac yn sgil yr ymgynghori a fu wedyn, ymddengys fel pe bai Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno newidiadau i strwythr y drefn gynllunio.
Fel rhan o'r drefn newydd bydd disgwyl i awdurdodau lleol i lunio Cynlluniau Datblygu Lleol symlach a chyflymach, unwaith fod y broses hirwyntog o greu Cynlluniau Datblygu Unedol wedi dod i ben. O fewn y drefn newydd hon, bydd modd llunio Cynlluniau Gweithredu, fydd yn canolbwyntio ar ardaloedd sydd yn newid yn gyflym. Byddai'r cynlluniau hyn yn cael eu llunio ar y cyd rhwng yr awdurdod lleol a'r cynghorau cymuned ac fe ddylent ystyried meysydd megis tai, trafnidiaieth, datblygu economaidd, addysg a hamdden. Yn wyneb y newidiadau arfaethedig hyn, dadl Cymdeithas yr Iaith yw y bydd angen cynllun o'r fath ar gyfer pob cymuned sydd mewn peryg o golli'r diwylliant Cymraeg gan fod amodau sosio-economaidd a'r farchnad dai yn gosod cymunedau Cymru dan fwy o bwysau nag erioed. Trwy gyfrwng cynlluniau lleol o'r fath gallwn sicrhau ein bod yn paratoi polisiau sydd wedi eu seilio ar wir anghenion ein cymunedau.
Pan ddaw'r newidiadau hyn i rym cred Cymdeithas yr Iaith y dylai'r Cynulliad baratoi canllawiau clir i awdurdodau lleol a chynghorau cymuned ar sut i lunio Cynlluniau Gweithredu er lles ein cymunedau.
Mae gwir gyfle yma, o fewn fframwaith sydd eisoes yn cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru, i gyflwyno mesurau cynllunio holistaidd yn seiliedig ar adnabod anghenion cymunedau lleol symbylu a rheoli datblygu i gwrdd ’'r anghenion hynny. Mae perygl, fodd bynnag, y gallai Cynlluniau Gweithredu cymunedol gael eu tanseilio gan ddyraniadau tir ar gyfer datblygu tai a geir yn y Cynlluniau Datblygu Unedol. Mae profiad wedi dangos, unwaith y bydd tir wedi'i ddyrannu ar gyfer tai mewn cynlluniau o'r fath, mae'n anodd tu hwnt gwrthod caniat’d i ddatblygu tai yno, hyd yn oed pan fydd yn gwbl amlwg nad oes angen lleol am dai neu am y math o dai y bydd datblygwyr am eu codi. Mae dyraniadau sydd wrthi'n cael eu gwneud ar hyn o bryd (ar sail tueddiadau cyffredinol sy'n deillio o amodau'r farchnad) yn milwrio'n erbyn y nod o gynllunio cymunedau cynaladwy ar sail anghenion lleol. Er mwyn rhwystro'r dyraniadau hyn rhag tician fel bom amser yn ein cymunedau, ni ddylai Llywodraeth Cymru gymeradwyo Cynlluniau Datblygu Unedol sydd yn cynnwys dyraniadau tai nad ydynt yn seiliedig ar anghenion lleol. Dylid cyfarwyddo awdurdodau lleol sy'n cyflwyno cynlluniau o'r fath i fynd ati ar unwaith i gynnal yr ymchwil i anghenion cymunedau all fod yn sail i Gynlluniau Gweithredu cymunedol ac i adolygu eu dyraniadau tai trwy'r broses honno.