Eich Hawliau Newydd i’r Gymraeg
Hawliau Gweithwyr i’r Gymraeg
Hawliau Penodol
Rheoliadau Safonau'r Gymraeg
Sut ydw i'n cwyno am ddiffyg gwanasaeth Cymraeg?
Hawliau i Wersi Nofio Cymraeg
Defnyddiwch eich hawl newydd i wersi nofio Cymraeg!
-
Ar ddechrau 2015, pasiodd y Cynulliad hawliau newydd i'r Gymraeg (rheoliadau sy'n cael eu galw Safonau'r Gymraeg). Mae dros 100 o hawliau i'r Gymraeg yn y rheoliadau – o'r hawl i ohebiaeth Gymraeg, peiriannau hunanwasanaeth Cymraeg, dysgu'r Gymraeg yn y gweithle i gyrsiau yn Gymraeg.
-
Un o'r hawliau newydd hynny i'r Gymraeg ydy'r hawl i gyrsiau addysg yn Gymraeg, sy'n cynnwys gwersi nofio:
"Os byddwch yn cynnig cwrs* addysg sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg."** (Safon 84, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015)
-
Ers 30ain Mawrth 2016, mae pob un cyngor wedi gorfod gweithredu'r hawl hon**.
-
Gallwch chi weld popeth mae'ch cyngor lleol yn gorfod darparu o ran hawliau i'r Gymraeg drwy fynd yma
Sut alla i gysylltu â'm cyngor lleol i drefnu gwersi nofio Cymraeg?
Ffoniwch eich cyngor ar y rhif ffôn isod:
Cyngor | Cyswllt |
Ceredigion |
01545 570881 |
Caerfyrddin |
01267 234567 / galw@sirgar.gov.uk |
Sir Benfro |
01437 764551 |
Gwynedd |
01766 771000 |
Blaenau Gwent |
01495 311556 / info@blaenau-gwent.gov.uk |
Pen-y-bont ar Ogwr |
01656 643643 / talktous@bridgend.gov.uk |
Caerffili |
01443 815588 |
Caerdydd |
029 2087 2088 / activesales@caerdydd.gov.uk |
Castell Nedd Port Talbot |
01639 686868 / info@celticleisure.org |
Conwy |
01492 574000 / gwybodaeth@conwy.gov.uk |
Dinbych |
01824 706100 |
Fflint |
01352 752121 |
Ynys Môn |
01248 750057 |
Merthyr Tudful |
01685 725000 |
Powys |
01597 827484 / cwsmer@powys.gov.uk |
Sir Fynwy |
01633 644544 |
Casnewydd |
01633 656656 |
Rhondda |
01443 525005 |
Abertawe |
01792 636000 |
Torfaen |
01495 762200 |
Bro Morgannwg |
01446 700111 |
Wrecsam |
01978 292000 |
Beth ddylwn i ei ddweud wrth swyddog y cyngor?
Dyma'r hyn y gallwch chi ddweud wrth y cyngor:
"S'mae,
Dwi eisiau manylion am eich gwersi nofio. Pa wersi nofio ydych chi'n rhedeg ar ddydd Mercher 30ain Mawrth (neu ddyddiad arall wedi 30ain Mawrth)?
Dwi'n deall bydd gen i'r hawl i wersi nofio yn Gymraeg o ddydd Mercher, 30ain Mawrth ymlaen
Dwi eisiau'r wers fod yn Gymraeg, rwy'n edrych ymlaen at fynd.
Diolch am eich amser."
Beth oedd yr ymateb? Gadewch i ni wybod!
Wedi i chi gysylltu â'ch Cyngor Sir, mae croeso i chi daro nodyn at post@cymdeithas.cymru neu alw 01970 624501 i adael i ni wybod pa ymateb gaethoch chi. Gallech hefyd gysylltu ag ein Grŵp Hawl i'r Gymraeg ar twitter: https://twitter.com/grwphawl
Dwi ddim yn deall hyn – beth ydw i fod i wneud?
Mae croeso i ffonio swyddogion lleol Cymdeithas yr Iaith ar un o'r rhifau ffôn:
*Ystyr 'cwrs' yn y rheoliadau yw: "At ddibenion safonau 84, 85 a 86 (cyrsiau), ystyr ―cwrs addysg yw unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy neu ddarpariaeth debyg sy'n cael ei ddarparu neu ei darparu ar gyfer addysgu neu wella sgiliau aelodau o’r cyhoedd..."
**Mae amod ar yr hawl yn y rhan fwyaf o siroedd sy'n golygu nad oes rhaid cynnig y cwrs os oes asesiad wedi ei gynnal gan y cyngor sy'n dangos nad oes galw am y cwrs yn Gymraeg. Does dim amod o'r fath ym Mhowys na Gwynedd, felly mae rhaid iddyn nhw gynnig gwersi yn Gymraeg bob tro. Mae Cyngor Nedd Port Talbot wedi cyflwyno her gyfreithiol i'r Safon yma, felly ni fydd yr hawl yn weithredol nes fod yr apêl wedi cael ei dyfarnu.