Gwirfoddoli

Mae'r Gymdeithas eich angen chi! Rhowch wybod os oes gennych chi sgiliau neu ddiddordebau arbennig gall helpu gyda ein hymgyrchoedd, er enghraifft:

  • cyfieithu neu brawf ddarllen
  • dylunio – posteri, dogfennau i'w hargraffu, memes
  • creu cartwnau neu gelf ymgyrchu
  • meddwl am drydariadau/negesuon bachog
  • arbenigedd ym maes cysylltiadau cyhoeddus a marchnata
  • diddordeb mewn trefnu digwyddiadau i ddysgwyr, neu brofiad fel tiwtor iaith
  • diddordeb trefnu gweithdai mewn ysgolion
  • y gallu i ddarparu cyngor cyfreithiol
  • diddordeb yn ein Grŵp Addysg, neu brofiad ym maes addysg
  • diddordeb yn ein Grŵp Cymunedau Cynaliadwy, neu brofiad mewn maes cynllunio, amaeth, datblygu economaidd neu lywodraeth leol!
  • diddordeb yn ein Grŵp Dyfodol Digidol, neu brofiad ym maes teledu/radio/y we
  • diddordeb yn ein Grŵp Hawl i'r Gymraeg, neu brofiad ym maes hawliau
  • diddordeb gwirfoddoli ar stondinau Eisteddfod
  • diddordeb mewn llenwi amlenni, ac ati.