Llety Eisteddfod

Os ydych wedi talu blaendal, mae angen i chi fynd i http://cymdeithas.cymru/talu er mwyn talu'r gweddill

LLETY YN YSTOD Y STEDDFOD

WEDI GWERTHU ALLAN!

Gan y bydd Eisteddfod Caerdydd yn un dra wahanol, rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn ni'n cynnig llety ychydig yn wahanol i'r arfer.  

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd ein llety ar gyfer yr wythnos yn cael ei ddarparu mewn lleoliad arbennig, yng nghanol y ddinas. Mae'r fflatiau myfyrwyr gyda 5 ystafell yn cynnig llety sy'n addas i bawb, ac mae bob fflat yn cynnwys: 

  • Ystafelloedd en suite gyda gwely dwbl bach

  • Dillad gwely

  • Cegin gyda'r holl gyfleusterau  

  • Ardal cymdeithasu  

 Mae'r safle hefyd yn cynnwys: 

  • Golchdy

  • Diogelwch 24 awr

  • Siediau beic

  • Gofod cymdeithasu  

  

 

Leoliad  

Cynhelir llety yr y wythnos yn fflatiau Parc Liberty. Mae Parc Liberty wedi cael ei leoli yng nghanol y ddinas ac felly, cynigir lleoliad delfrydol sy'n agos iawn at: maes Yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd, gigs yr wythnos yng Nghlwb Ifor Bach ac holl atyniadau'r brifddinas.  

Tra bod y lleoliad o fewn pellter cerdded i holl safleoedd pwysig yr wythnos, mae hefyd mewn lleoliad arbennig ar gyfer trafnidiaeth leol sy'n rhedeg rhwng yr ardal a Bae Caerdydd.  

  • Clwb Ifor Bach 0.6m (13 munud yn cerdded) 

  • Canolfan y Mileniwm 1.4m (28 munud yn cerdded) 

  • Gorsaf Trên Caerdydd Canolog - 0.3m (6 munud yn cerdded) 

  • Siop lleol -  0.2m (5 munud) 

  • Tafarn Y Cornwall0.3m (7 munud yn cerdded)

Does dim un ystafell ar ôl!

e-bostiwch de@cymdeithas.cymru am ragor o wybodaeth

Mae holl waith Cymdeithas yr Iaith yn dibynnu ar roddion ac ymroddiad ein haelodau.
Beth am ymaelodi nawr?

Wrth dalu'r blaendal, rydych yn cytuno i dalu'r gweddill, ac i gadw at bolisi ymddygiad mewn digwyddiadau Cymdeithas yr Iaith.

Byddwn yn cysylltu'n fuan wedi i chi archebu gyda rhagor o fanylion a thelerau'r llety