Dros 100 o gerddorion wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd, yn datgan "nad Kneecap yw'r stori, ond y gyflafan yn Gasa."

Fel un o brif hyrwyddwyr a chefnogwyr y sîn gerddoriaeth yng Nghymru, rydyn ni'n cefnogi datganiad gan dros 100 o gerddorion Cymraeg sydd wedi mynegi eu cefnogaeth i'r band o Iwerddon, Kneecap. Daeth Kneecap dan y lach yn ddiweddar am feirniadu Israel yn hallt ac am ddatgan eu cefnogaeth i'r Palestiniad.  Mae'r cerddorion Cymraeg hefyd yn mynegi hefyd eu cefnogaeth gref i'r Palestiniaid yn yr argyfwng enbyd a'r gorthrwm llethol maent yn wynebu, ac yn galw am gyfiawnder a heddwch i'r Palestiniaid.

Ymhlith y cerddorion sydd wedi datgan eu cefnogaeth i'r datganiad mae aelodau Cowbois Rhos Botwnnog, Mali Hâf, Pys Melyn, Gruff Rhys, Gwenno, Bryn Fôn, Mellt a Mark Roberts (MR).

Dywedodd un o hyrwyddwyr y datganiad, y canwr Steve Eaves:
"Mae'n achosi pryder bod cymaint o sylw wedi ei roi i'r band Kneecap, a chyn lleied o sylw i ymosodiadau di-drugaredd Israel ar Gasa, lle mae bwyd, dŵr, trydan, cysgod a thriniaethau meddygol yn cael eu hatal rhag cyrraedd y Palestiniaid. Mae nifer o fandiau o Loegr wedi datgan eu cefnogaeth i Kneecap, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cyhoeddi neges debyg. Mae'na draddodiad anrhydeddus o gerddorion Cymraeg yn cefnogi cyfiawnder a heddwch a gwrthwynebu hiliaeth ac apartheid. Teimlwn fod angen i bawb ddefnyddio pob cyfle i alw ar lywodraethau ac arweinwyr i hwyluso diwedd ar y rhyfel, ac na ddylid ceisio tawelu lleisiau sy'n mynegi hynny ac yn gwrthwynebu gorthrwm.
 "Nid gweithgareddau Kneecap yw'r stori sy'n haeddu ein sylw, ond y lladd yn Gasa a'r Lan Gorllewinol."

Datganiad y cerddorion

Fel cerddorion Cymraeg, rydym yn datgan:
(i) ein cefnogaeth ni i 'r band Kneecap a'u hawl i leisio eu eu barn a'u beirniadaeth lem ar Israel, a'u cefnogaeth gadarn i'r Palestiniaid yn wyneb y sefyllfa enbyd sy'n eu hwynebu ym Mhalesteina

(ii) ein cefnogaeth gref ni fel cerddorion Cymreig i'r Palestiniaid  yn wyneb eu dioddefaint a'u sefyllfa enbyd wrth i'r coloneiddio, yr hil-laddiad a'r creulondeb rhemp o du gwladwriaeth Israel a'i gwladychwyr anghyfreithlon fynd yn eu blaen yn ddi-rwystr ar diroedd Palesteina

(iii) ein bod yn mynnu heddwch, cyfiawnder a chydraddoldeb i'r Palestiniaid, a pharch i'w hawliau dynol a'u dyhead am hunan-reolaeth.

Is sinne aos ceoil na Breatnaise agus deirimid:
(i) go dtacaímid leis an mbuíon cheoil Kneecap agus lena bhfuil de cheart acu a rá agus a cháineadh i dtaobh Iosrael agus i dtaobh chruachás na bPalaistíneach ina ndúiche féin;

(ii) go seasaimid mar aos ceoil na Breataine Bige leis na Palaistínigh i nguais an choilínithe is an chinedhíothaithe agus na dearg-chruáltachta a bhfuil stát Iosrael ina chiontaí leo, agus coilínithe an stáit chéanna ag treabhadh leo, gan aon srian in aghaidh an dlí, ar thíortha na Palaistíne;

(iii) go maímid síocháin agus ceartas agus cothrom na Féinne do na Palaistínigh, urraim dá gcearta daonna agus dá bhflaitheas féin.