Mae 47 o fudiadau ar draws cymdeithas sifil Cymru wedi galw ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, i gefnogi cadoediad yn Gaza a heddwch a chyfiawnder i holl bobl Israel a Phalesteina.
Mewn llythyr agored at y Prif Weinidog, sydd wedi’i arwyddo gan ystod o fudiadau, yn cynnwys Cyngor Mwslimaidd Cymru, BLM Caerdydd, Ymgyrch Cydsefyll â Phalesteina Caerdydd, Cymdeithas y Cymod, Gwreiddiau Llafur Cymru, Merched y War a'r Urdd, erfynnir ar y Llywodraeth i gefnogi cadoediad, ynghyd â hawliau i Balesteiniaid a chymorth dyngarol i Lain Gaza. Daw’r llythyr cyn i Aelodau’r Senedd bledleisio ar gynnig gan Blaid Cymru dros gadoediad fydd yn dod gerbron y Senedd ddydd Mercher (8 Tachwedd).
Hyd yn hyn, mae’r Prif Weinidog wedi gwrthod cefnogi cadoediad, gan ddatgan cefnogaeth yn lle hynny dros ‘saib dyngarol’, mesur y mae’r mudiadau yn y llythyr yn ei alw’n “annigonol”. Mae’r mudiadau’n galw ar y Prif Weinidog a’r holl Aelodau o’r Senedd i bleidleisio o blaid cadoediad llawn yn lle hynny.
Dywed y llythyr:
“Mae toriad yn y bomio, dim ond i fwy o sifiliaid farw unwaith y bydd yn ailddechrau, yn annigonol. Mae angen cadoediad ar fyrder, a dyma'r unig ffordd i atal rhagor o farwolaeth a dechrau cymryd camau tuag at drafodaethau dros heddwch.”
Ac mae’n parhau:
“Mae Prif Weinidog yr Alban, arweinydd Llafur yr Alban a Meiri Llundain a Manceinion wedi galw am gadoediad, yn ogystal ag ASau Cymru a San Steffan o bob plaid, a gwleidyddion etholedig ledled y byd. Byddai’n drueni pe na bai ein Prif Weinidog, arweinydd Cenedl Noddfa sydd â thraddodiad balch o ryngwladoliaeth, yn ymuno â’r galwadau hynny.
Efallai nad oes gan Gymru bwerau dros faterion rhyngwladol ond mae gennym lais. Mae gennych chi ddyletswydd ddemocrataidd i gynrychioli’r mwyafrif o bobl yng Nghymru sydd am weld cadoediad, yn ogystal â dyletswydd foesol i ddefnyddio’ch safle i ymuno â’r corws rhyngwladol cynyddol dros heddwch.”
Mae’r llythyr yn galw ar y Prif Weinidog i ddatgan cefnogaeth yn gyhoeddus dros gadoediad; agor llwybrau brys ar gyfer cymorth dyngarol; ymchwiliad i droseddau rhyfel; ymrwymiad i drafodaethau heddwch; a diwedd ar feddiannaeth anghyfreithlon tiriogaethau Palestina a gorthrwm y Palesteiniaid, gydag ymrwymiad i gyfiawnder a heddwch i holl ddinasyddion Israel a Phalestina.
Dywedodd Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno’r egwyddor o Gymru fel cenedl noddfa, a dyma’r cyfle i’r egwyddor honno olygu rhywbeth. Mae miloedd o bobl ddiniwed wedi’u lladd yn barod ac wrth i’r ymladd a’r trais barhau mae’r dasg o ganfod setliad heddychlon parhaol yn dod yn bwysicach fyth. Mae dyletswydd arnom ni i ymuno â’r alwad ryngwladol dros heddwch, ac mae’r ystod o fudiadau sydd wedi llofnodi’r llythyr yn dangos y gefnogaeth eang sydd i’r alwad honno yng Nghymru.
“Mae Llywodraethau’r Alban ac Iwerddon wedi galw am gadoediad yn barod. Mae sawl arweinydd blaenllaw arall yn y Blaid Lafur, gan gynnwys Anas Sarwar, Sadiq Khan, Andy Burnham a’i Weinidog Iechyd ei hun, Eluned Morgan, eisioes wedi gwneud safiadau egwyddorol eu hunain. Ar ba ochr o hanes fydd ein Prif Weinidog a’n Llywodraeth yma yng Nghymru?”
Dywedodd Rhun Dafydd, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod:
"Faint mwy o bobl ddiniwed fydd yn gorfod cael eu llladd cyn i bawb sylwi bod angen cadoediad? Mae gan Gymru hanes hir o heddychiaeth a dylen ni barhau i arwain ar hyn trwy atgyfnerthu'r neges taw dim ond trwy heddwch a chymodi y daw newid hir dymor i'r ansefydlogrwydd yn y dwyrain canol."