Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu adroddiad gan bwyllgor addysg y Cynulliad sy'n cryfhau'r achos dros weithredu ar frys i sicrhau addysg Gymraeg i bawb.
Dywedodd Toni Schiavone, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae sylwadau'r pwyllgor yn cadarnhau'r hyn rydym wedi bod yn ei ddweud ers tro - mae dybryd angen codi disgwyliadau pawb o ran Cymraeg mewn addysg, trwy ddileu'r cysyniad o Gymraeg ail iaith a sefydlu continwwm fel bod modd sicrhau addysg Gymraeg i bawb dros amser. Ry'n ni'n cytuno â'r argymhellion hyn, ond yn ogystal, mae angen gwaith brys i weithredu argymhellion adroddiad yr athro Sioned Davies - a dymuniad y Prif Weinidog - o sefydlu'r continwwm fel bod pawb yn profi manteision addysg Gymraeg.
Yn y cyfamser, mae angen i awdurdodau lleol cymryd eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg o ddifrif - mae'n annerbyniol eu trin fel ymarferiadau papur yn unig - a hyderwn bydd argymhellion y pwyllgor yn cael eu gweithredu gan sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cael eu gweithredu i'w llawn botensial."