Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo Comisiynydd y Gymraeg o fynd yn ôl ar ei gair wedi iddi beidio â chynnwys amserlen ar gyfer creu hawliau i wasanaethau Cymraeg gan gwmnïau ffôn a thelathrebu.
Mae Mesur y Gymraeg yn rhoi'r grym i osod dyletswyddau iaith ar gwmnïau ffôn a thelathrebu eraill. Cyfrifoldeb Comisiynydd y Gymraeg yw cychwyn y broses. Yn ôl yr ymgyrchwyr iaith, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg mewn cyfarfod ar 26ain Hydref eleni y byddai hi'n cyhoeddi amserlen ar gyfer yr holl sectorau preifat a enwir yn y Mesur, gan gynnwys cwmnïau ffôn a thelathrebu, yn ei chyhoeddiad cyn diwedd y flwyddyn.
Dywedodd Manon Elin James, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Er ein bod ni'n croesawu'r ffaith y bydd cwmnïau trafnidiaeth, nwy a thrydan yn dod o dan y dyletswyddau newydd, mae'n anodd credu nad yw'r Comisiynydd wedi cadw at ei gair o ran cwmnïau ffôn a thelathrebu. Mae technoleg yn rhan hanfodol o'n bywydau erbyn hyn felly mae cwmnïau o'r fath yn hollbwysig o ran cynyddu defnydd y Gymraeg, yn enwedig ymysg pobl ifanc.
"Addawodd y Comisiynydd y byddai hi'n cyhoeddi amserlen ar gyfer yr holl sectorau preifat sy'n dod o dan y Mesur cyn diwedd y flwyddyn. Roedd hi'n gwbl glir yn y cyfarfod y bydd y cyhoeddiad hwn yn cynnwys yr holl sectorau sy'n bosibl eu henwi yn y ddeddfwriaeth. Mae hi wedi mynd yn ôl ar ei gair, ac wedi dweud celwydd wrthon ni, sy'n gwbl annerbyniol.
"Hefyd, addawodd y Llywodraeth, yn gwbl glir, yn ei strategaeth iaith, sy'n dod i ben yn 2017, y byddan nhw’n gosod safonau ar y sector telathrebu. Felly, ble mae’r amserlen i sicrhau eu bod nhw'n cyflawni eu haddewid?"
Ychwanegodd Manon Elin James:
“Mae gwir angen ehangu sgôp y Mesur er mwyn cynnwys yr holl sector preifat. Mae’n ymchwil diweddar ni i mewn i'r ddarpariaeth Gymraeg gan archfarchnadoedd a banciau yn dangos yn glir nad yw mwyafrif y cyrff yn y sector preifat yn mynd i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o'u gwirfodd heb orfodaeth.”