Mae ymgyrchwyr iaith wedi mynegi pryder am ddiffyg uchelgais rheolwyr BBC Cymru dros eu gwasanaethau Cymraeg heddiw, gan ddweud bod angen sefydlu darparwr Cymraeg annibynnol newydd.
Daw’r newyddion wedi i Radio Cymru gynnal sgwrs genedlaethol am sut y dylai’r sianel ddatblygu dros y blynyddoedd i ddod. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb gan ddadlau bod y ffaith bod y gorfforaeth wedi dyblu nifer y gorsafoedd Saesneg maen nhw’n darlledu yng Nghymru ers dechrau’r nawdegau yn profi nad yw’r BBC yn ddigon ymroddedig i’w gwasanaethau Cymraeg eu hiaith.
Oherwydd hynny, mae’r mudiad yn galw am ddarparwr Cymraeg newydd sydd yn annibynnol ar y BBC. Yn ôl y Gymdeithas: “Ni allwn ymddiried yn y BBC i sicrhau dyfodol darlledu yn Gymraeg wedi iddi drin ei gwasanaethau Cymraeg yn eilradd i’r rhai Saesneg am ddegawdau. Dylai’r BBC ryddhau cyllid o’i choffrau i sefydlu gwasanaethau rhyngweithiol newydd gan ddarparwr amlgyfrwng annibynnol, yn rhydd o unffurfiaeth Brydeinig y BBC.”
Yn ei ohebiaeth at y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, meddai Cadeirydd grŵp darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Greg Bevan: “Pryderwn yn fawr nad yw rheolwyr y BBC yng Nghymru yn gwneud digon i frwydro dros ehangu gwasanaethau Cymraeg y gorfforaeth fel y dylen nhw. Nodwn hefyd mai’r patrwm dros y degawdau diwethaf yw rheoli dirywiad gwasanaethau Cymraeg, tra bu buddsoddiad sylweddol gan y gorfforaeth mewn gwasanaethau Saesneg.
“Fel corfforaeth, mae’r BBC wedi methu â chyflawni dros y Gymraeg. Mae nifer o unigolion cefnogol iawn i’r iaith yn, ac wedi, gweithio i’r gorfforaeth ond gwelwn fod problem strwythurol gan sydd yn atal twf yn ei gwasanaethau Cymraeg ac yn blaenoriaethu datblygiadau ar lefel Brydeinig.
“Nid ydym yn argyhoeddedig bod rheolwyr y BBC, yn dilyn y sgwrs genedlaethol, ynmynd i geisio am ddigon o arian i sicrhau y caiff y gwasanaeth ei ehangu’n ddigonol. Maent eisoes wedi dweud na fydd yn bosibl sefydlu gorsaf radio arall ... Cyn troi at ymddiriedolaeth y gorfforaeth felly, maent wedi cyfyngu ar eu hopsiynau i ddatblygu’r gwasanaethau Cymraeg. Argymhellwn yn gryf felly y dylid sefydlu darlledwr amlgyfryngol newydd a fydd yn rhydd o geidwadaeth a diffyg uchelgais y BBC.”
Ychwanegodd Greg Bevan: “Mae’r BBC yn sefydliadol wrth-Gymraeg. Ar ôl dyblu nifer y gorsafoedd radio Saesneg yng Nghymru, maent yn torri cyllid ac oriau yr unig orsaf radio Cymraeg yn y byd. Os yw’r Gymraeg i fyw rhaid i ni fynnu ein cyfryngau rhydd ac annibynnol ein hunain.”
Ymateb Llawn y Gymdeithas i "Sgwrs Genedlaethol" Radio Cymru