
Dylai ad-drefnu llywodraeth leol arwain at ragor o gyrff yn gweithio drwy'r Gymraeg, dyna yw prif neges Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mewn llythyr at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus.
Daw'r alwad wedi i'r Gweinidog Leighton Andrews wahodd sylwadau ar fap o awdurdodau lleol newydd yn y Senedd. Ar hyn o bryd, Gwynedd yw’r unig awdurdod lleol lle mae’r holl waith mewnol yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mewn llythyr at y Gweinidog, ysgrifenna Cadeirydd y mudiad, Jamie Bevan: "Mae angen amddiffyn ac ehangu nifer y cyrff sydd yn gweinyddu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn ymwybodol taw dim ond o fewn un awdurdod mae hynny yn digwydd ar hyn o bryd, sef Cyngor Gwynedd; felly mae angen cryfhau'r ddarpariaeth a hynny ar fyrder. Byddai hyn yn gwireddu hawliau gweithwyr i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Wrth i’r newidiadau hyn ddod i rym, bydd yr unedau o reidrwydd yn cynyddu mewn maint, a thrwy hynny yn cryfhau'r ymdeimlad fod atebolrwydd yn pellhau. Gwanhau fydd cysylltiad rhwng yr etholwr a’r darparwr, a bydd hynny yn cael effaith niweidiol ar ddemocratiaeth. Credwn fod angen adfywio a chryfhau democratiaeth, yn enwedig ar lefel leol iawn. Gwelwn fod hyn yn gyfle da i ddod a’r broses ddemocrataidd yn agosach at y bobl ac i roi fwy o gyfrifoldebau yn nwylo Cynghorau Cymuned. Gwelir bod mwy o rôl iddynt yn benodol yn y system gynllunio. Bydd hyn yn fodd i gywiro diffygion y system gynllunio a’i heffaith ar y Gymraeg gan seilio’r system ar anghenion lleol yn hytrach nag ar ystadegau cenedlaethol"
Ychwanegodd Jamie Bevan: "Rydym yn croesawu'r drafodaeth mae'r Gweinidog wrthi'n ei chynnal am hyn oll, a'i ystyriaeth fanwl o'r goblygiadau i'r Gymraeg. Rydym yn awyddus i gyfrannu mwy at y ddadl wrth i'r broses symud yn ei flaen."