Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu'r newyddion na fydd toriad pellach i'r arian sy'n mynd i S4C o'r ffi drwydded.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw am fformiwla ariannol hir dymor ynghyd â datganoli darlledu i Gymru. Cafwyd addewid ym maniffesto'r Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol 2015 i beidio â thorri cyllideb S4C.
Dywedodd Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Curon Wyn Davies:
“Mae'n newyddion da, ond mae angen mwy na un flwyddyn o sicrwydd ar unig sianel deledu Gymraeg y byd. Mae Llywodraeth Prydain wedi addo diogelu arian y sianel, felly roedd disgwyl i'r BBC weithredu yn unol â'r addewid hwnnw. Fodd bynnag, mae gwir angen sicrwydd ariannol hirdymor ar S4C – mae angen fformwla ariannu mewn statud sy'n cynyddu, fan lleiaf, gyda chwyddiant. Mae'n glir hefyd bod angen datganoli darlledu i Gymru er mwyn sicrhau bod modd i gynnwys Cymraeg ehangu i ragor o lwyfannau. Mae S4C wedi bod yn allweddol i barhad y Gymraeg dros y degawdau diwethaf, ac mae'n rhaid sicrhau bod ganddi'r adnoddau, y sicrwydd a'r annibyniaeth sydd eu hangen er mwyn datblygu.”