
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud bod gwerthusiad y strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw yn amlygu 'methiannau difrifol' sy'n galw am newidiadau radical i'r system.
Mae'r adroddiad yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn sicr o fethu ei tharged allweddol i gynyddu i 25% y canran o blant 7 mlwydd oed sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2015. Mae’r ymchwilwyr Arad hefyd yn amcangyfrif na fydd y Llywodraeth yn ei gyrraedd erbyn 2020 hyd yn oed.
Ar sail y ffigurau yn yr adroddiad, mae'r Gymdeithas yn amcangyfrif y byddai'n cymryd dros 800 mlynedd i gyrraedd sefyllfa lle mae pob plentyn 8 mlwydd oed yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ar lefelau twf presennol.
Wrth sôn am ddysgu'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, dywed adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru: "Awgryma’r dystiolaeth bod y gwendidau yn narpariaeth Cymraeg ail iaith ar draws y Cyfnodau Allweddol yn parhau, ac ni welwyd cynnydd sylweddol o ran gweithredu’r argymhellion allweddol [adroddiad Yr Athro Sioned Davies]."
Wrth ymateb i'r adroddiad, meddai Toni Schiavone, Cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae'n glir o'r adroddiad bod methiannau difrifol. Allwn ni ddim aros dros wyth can mlynedd am addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn. Mae'r adroddiad yn glir bod y Llywodraeth bresennol ymhell o gyrraedd nifer o'i thargedau allweddol ei hun, ac mae'r sefyllfa mewn rhai siroedd yn ofnadwy. Mae angen i'r Llywodraeth nesaf gymryd camau radical i ddatrys hyn oll fel bod yr iaith yn ffynnu dros y degawdau i ddod.
"Mae geiriau'r adroddiad mor ddamniol ag y gallen nhw fod am Gymraeg ail iaith gan ystyried mai'r Llywodraeth sydd wedi comisiynu'r adroddiad. Mae gwir angen dileu cysyniad Cymraeg ail iaith a sefydlu yn lle un continwwm o ddysgu'r Gymraeg cyn gynted â phosibl. Rydyn ni'n falch bod y Prif Weinidog wedi cytuno i hyn, ond mae perygl y bydd swyddogion yn llusgo eu traed. Mae angen newidiadau ar frys os nad ydyn ni'n mynd i barhau gyda methiant ar ôl methiant. Rydyn ni'n galw am addysg Gymraeg i bawb: mae'r amser am chwarae o gwmpas ar ymylon y system ar ben."