Yn y Cyfarfod Cyffredinol gynhelir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Ddydd Sadwrn Mawrth 10ed yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth, un o'r cynigion pwysicaf a drofodir yno fydd yr un ar sut y dylai'r Gymdeithas wario yr arian mawr adawyd iddi mewn ewyllys gan y diweddar Howell Lewis. Erbyn hyn mae'r Gymdeithas wedi derbyn dros £400,000 o'r arian hwnnw.
Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Dros y blynyddoedd mae llawer o bobl wedi bod yn hael iawn eu cefnogaeth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Oni bai am yr haelioni hwnnw ni fyddai'r Gymdeithas wedi goroesi. Ond roedd y swm a dderbyniwyd gan Mr Howell Lewis yn ei ewyllys ymhell y tu hwnt i ddim a gawsom o'r blaen.""Dros y deunaw mis diwethaf bu'r Gymdeithas yn trafod yn fanwl beth ddylid ei wneud gyda'r arian hwn a phenderfynwyd rhoi cynnig ger bron ein Cyfarfod Cyffredinol fel y gallai ein haelodau cyffredin gyfrannu i'r drafodaeth. Hwy yn y pendraw sydd ar hawl i benderfynu beth ddylid ei wneud â'r arian.""Mae'r cynnig sydd ger bron yn son yn benodol am neilltuo £100,000 o'r arian ar gyfer ei wario ar brosiectau arbennig. Bwriedir buddsoddi'r gweddill mewn cynllun deng mlynedd fydd yn sefydlu pump o swyddi cyflogedig llawn amser i hybu gwaith y Gymdeithas. Er mwyn i'r cynllun hwn weithio fe fydd yn rhaid i ni godi £15,000 yn ychwannegol bob blwyddyn ac fe fydd galw am adolygu cyson ar y gwariant.""Ond pwysicach nac unrhyw wariant yw fod y Gymdeithas yn cadw at ei hegwyddorion sylfaenol , gan gofio ei bod yn fudiad chwyldroadol sy'n cadw'n driw i'r dull di-drais o weithredu."Nodwn gynnig y Gymdeithas fydd i'w drafod yn y Cyfarfod Cyffredinol isod.BUDDSODDI YN NYFODOL CYMRU ÂR GYMRAEGCred y Cyfarfod Cyffredinol mai mudiad chwyldroadol yw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sy'n credu yn angerddol fod yn rhaid i bopeth yng Nghymru newid os yw'r Gymraeg i fyw.Nodwn ymhellach fod y dull di-drais yn gwbl ganolog i'n holl weithgarwch.Mae'r Cyfarfod Cyffredinol yn gwerthfawrogi yn fawr yr arian sylweddol a adawyd i'r mudiad gan y diweddar Howell Lewis, a'n bod yn awdurdodi'r Gymdeithas i fuddsoddi'r arian er mwyn ei wario'n gyfrifol i hybu'n gweithgarwch drwy:• Neilltuo cronfa o £100,000 ar gyfer prosiectau arbennig.• Fuddsoddi gweddill yr arian mewn Cynllun Deng mlynedd, a fydd yn sefydlu'r swyddi a ganlyn:1. Swyddog Gweinyddol Cenedlaethol2. Swyddog Ymgyrchoedd Cenedlaethol3. Swyddog Maes y Gogledd4. Swyddog Maes Dyfed5. Swyddog Maes y De / Cyswllt â'r Cynulliad Cenedlaethol.• Er mwyn cyllido'r Cynllun Deng mlynedd yn effeithiol ein bod yn mynd ati i godi £15,000 yn ychwanegol bob blwyddyn.• Y dylid gwneud adolygiad bob tair neu bedair blynedd o sefyllfa'r ewyllys.Pwyswch yma am fwy o fanylion ynglyn a'r Cyfarfod Cyffredinol