Carwyn Jones yn anwybyddu ei ymgyrch ei hun i ddefnyddio’r Gymraeg

Anfonodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ddim un ebost yn Gymraeg dros gyfnod ym mis Medi, er iddo lansio ymgyrch yn annog pobl eraill i ebostio pum gwaith y dydd yn yr iaith. 

Yn ôl ymateb i gais rhyddid gwybodaeth Cymdeithas yr Iaith, mewn cyfnod o saith diwrnod anfonodd y Prif Weinidog, sy’n gyfrifol am hyrwyddo defnydd y Gymraeg, 126 o ebyst gwaith a doedd dim un ohonyn nhw yn Gymraeg. Dywed yr ymateb i’r cais rhyddid gwybodaeth: “Yn ystod y cyfnod rhwng 1 ac 8 Medi 2013, ymatebodd y Prif Weinidog [ebyst] 126 o weithiau, yn Saesneg bob tro.” 

Mewn ddatganiad i Aelodau Cynulliad yn y Senedd ym mis Tachwedd eleni am ganfyddiadau ei ymgynghoriad ar y Gymraeg, Y Gynhadledd Fawr, a sefydlwyd mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad, dywedodd Carwyn Jones: “Yn rhy aml, rydym yn clywed am golli hyder i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol. Yr her nesaf i ni fel Llywodraeth yw meithrin sgiliau siaradwyr Cymraeg ar gyfer y gweithle…Rwy’n awyddus i weld mwy o gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith bob dydd ... Rwyf hefyd yn awyddus i bob un ohonom feddwl am wneud o leiaf pum peth yn Gymraeg bob dydd… yn gymdeithasol neu’n broffesiynol. Er enghraifft, cynnal pum sgwrs yn Gymraeg, dysgwyr yn dysgu pum gair newydd, ysgrifennu pum e-bost yn Gymraeg—neu gallai fod yn gyfuniad o’r rhain—hynny yw, creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd newydd.”    

Mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymateb i’w ymgyrch i geisio sicrhau ei fod yn gweithredu ar chwe phwynt polisi, megis addysg Gymraeg i bawb, er mwyn cryfhau’r Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod, dywedodd Carwyn Jones AC:  “Fel Llywodraeth rydym yn arwain drwy esiampl, ac wedi dechrau ar raglen o waith i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein swyddfeydd.”


Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae’n debyg nad yw'r Prif Weinidog yn cymryd rhan yn ei ymgyrch ei hun. Dylai hynny fod yn gryn embaras iddo.


“Fel mudiad, dydyn ni ddim yn beirniadu unigolion am eu diffyg defnydd o'r Gymraeg, gan fod pobl yn cael eu dylanwadu gan gymaint o ffactorau allanol. Ond, mae’r Prif Weinidog wedi dewis lansio’r ymgyrch “5 gwaith y dydd” ei hun. A hynny er nad oedd yr un ymateb i’w Gynhadledd Fawr, ei ymgynghoriad ar yr iaith, wedi argymell ymgyrch o’r fath. Mae Carwyn Jones wedi dewis rhoi ei ddefnydd ei hun o’r Gymraeg o dan y chwyddwydr.


“Mae’r embaras yma’n amlygu unwaith eto pa mor wan yw ymateb Carwyn Jones i ganlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad. Mae’n rhoi’r baich ar ysgwyddau unigolion a phobl ifanc, gan ddweud bod angen darganfod pam maen nhw’n dewis peidio â defnyddio’r Gymraeg. Fel petai unigolion yn gyfrifiol am droi i ffwrdd o’r Gymraeg, er bod y rhan fwyaf ohonyn nhw heb gael cyfle i fyw a mwynhau’r Gymraeg - boed hynny oherwydd ffactorau cynllunio, diffyg gwasnaaethau Cymraeg neu’r system addysg. Ond y gwir amdani yw bod ffactorau ehangach, yn cael effaith llawer iawn yn fwy ar ddefnydd yr iaith, a llawer o’r pethau hynny yn nwylo Carwyn Jones a’i Lywodraeth. Dyna pam rydyn ni wedi ei herio i wneud 6 pheth dros y Gymraeg: megis cyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg i bawb; sefydlu’r hawl i blant dderbyn gwasanaethau hamdden, fel gwersi nofio, yn Gymraeg; a chwyldroi’r system gynllunio.


“Ers i ni wneud y cais rhyddid gwybodaeth yma, mae'r Prif Weinidog wedi datgan ei fod wedi gofyn swyddogion yn Uned Gymraeg y Llywodraeth gyfathrebu â fe yn Gymraeg. Rydyn ni’n croesawu hynny, er ei fod yn syndod nad oedd hynny’n digwydd yn barod. Ond dylai wneud llawer mwy na hynny - dylai fynnu bod holl adrannau’r Llywodraeth yn darparu’r wybodaeth maen nhw’n rhannu ag o yn Gymraeg: byddai hynny’n cynyddu defnydd y Gymraeg yn uniongyrchol ac ar unwaith.”