
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi collfarnu'r cynnig i gau'r swyddfeydd treth yng Nghymru, gan fynegi pryder am israddio’r gwasanaeth Cymraeg.
Dywedodd Sel Jones, Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Byddai cau'r swyddfeydd hyn yn ergyd mawr i'r economi a sefyllfa'r Gymraeg. Mae'n debyg bod y Llywodraeth yn ceisio canoli popeth yng Nghaerdydd. Mae'n warthus. Mae prinder gwaith yn barod, ac mae'r toriadau hyn yn dod ar ben y toriadau gan gynghorau sir. Mae llymder yn tanseilio ein cymunedau ac mae'n rhaid ei wrthwynebu'n gryf.
"Mae'r swyddfa dreth ym Mhorthmadog yn gweithio drwy'r Gymraeg; ni fydd modd cynnal yr un lefel o wasanaeth a defnydd o'r Gymraeg yng Nghaerdydd. Mae angen gwasanaethau Cymraeg llawn ar ein cymunedau, yn enwedig gan ystyried nad yw gwasanaethau ar-lein y swyddfa cyllid a thollau ar gael yn Gymraeg bob tro. Tra bod y Llywodraeth yn taflu arian mawr at 'fargen ddinesig' i ranbarth Caerdydd, maen nhw'n cau swyddfeydd yn weddill Cymru. Iddyn nhw, mae datganoli'n cychwyn ac yn gorffen yng Nghaerdydd."
Bydd y mudiad yn ysgrifennu at Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb AS er mwyn gwrthwynebu'r cynigion.