Cefnogi ymgyrch i addysg Gymraeg i bawb ym Mhowys

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan cefnogaeth ffurfiol i'r ymgyrch dros addysg cyfwng Cymraeg i bawb ym Mhowys wedi i aelodau'r mudiad basio cynnig yn ei gyfarfod cyffredinol blynyddol. 
 
Mae'r cynnig, a gafodd ei basio'n unfrydol gan yr aelodau, yn Aberystwyth yn galw ar "Gyngor Sir Powys i weithredu pecyn cynhwysfawr o fesurau o blaid y Gymraeg ym maes addysg, gan gynnwys sefydlu rhwydwaith o ysgolion 2A, a symud ysgolion cynradd ac uwchradd eraill - gan gynnwys pob ysgol dwy ffrwd ym Maldwyn - ar hyd y continiwwm ieithyddol." 
 
Un o brif amcanion cangen Maldwyn Cymdeithas yr Iaith yw sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i holl blant y sir. Nid oes yr un ysgol uwchradd benodedig Gymraeg ym Mhowys, gyda nifer o blant yn gorfod teithio allan o'r sir. 
 
Wrth ymateb i'r cynnig a gafodd ei basio, meddai Toni Schiavone, cadeirydd newydd-etholedig grŵp ymgyrch addysg genedlaethol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 
 
"Rydyn ni fel mudiad yn gweithio yn ddiflino i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn dod allan o'r ysgol gyda'r gallu i weithio a chyfathrebu'n Gymraeg. Mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc ym Mhowys yn cael eu hamddifadu ar hyn o bryd o gymharu â siroedd eraill: dyw'r system ddim yn deg. Cawson ni gyfarfod gyda'r Gweinidog Addysg Huw Lewis i wthio'r achos yn bellach yr wythnos ddiwethaf. Mae angen addysg cyfrwng Cymraeg ar bob plentyn ym Mhowys, ni ddylid amddifadu'r un plentyn o'r Gymraeg - iaith y dylai fod yn etifeddiaeth gyffredin i bob un ohonom nid i'r rhai ffodus yn unig. Er mwyn cyrraedd y nod mae angen symud pob ysgol lan y continwwm ieithyddol fel eu bod nhw'n gwella eu darpariaeth dros amser. Mae'r continwwm yna'n hollbwysig ym Mhowys fel ym mhob rhan o Gymru."  
 
Ychwanegodd Arwyn Groe, Cadeirydd Rhanbarth Powys Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 
 
“Rydyn ni'n falch o dderbyn cefnogaeth unfrydol aelodau'r Gymdeithas dros ein hymgyrch. Dyw addysg Gymraeg ail-iaith, fel a ddysgir mewn ffrwd Saesneg neu ysgol gyfrwng Saesneg, ddim yn llwyddo. Yr hyn sydd angen yw symud pob ysgol, gynradd ac uwchradd ar hyd continwwm addysgol fel bod holl ddisgyblion y sir yn derbyn canran gynyddol o'u haddysg drwy'r Gymraeg. Mae angen symud pob ysgol dwy-ffrwd ym Maldwyn, cynradd ac uwchradd, ar hyd y continwwm yma."