Cyf Cyff 2005: Canwr Hip Hop i arwain y Gymdeithas

Steffan Cravos Mae gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gadeirydd newydd yn dilyn eu Cyfarfod Cyffredinol a gynhaliwyd heddiw (Sadwrn, Ebrill 2).

Y cadeirydd newydd fydd Steffan Cravos o Gaerdydd. Steffan oedd yr ysgogydd y grwp hip hop radical, Tystion, ac wedi bod yn ffigwr blaenllaw ar y sin gerddorol Gymraeg ers dros ddegawd.Bu’n weithgargyda’r Gymdeithas ers ei arddegau. Yn ddiweddar bu’n rhan o’r ymgyrch i gymreigio Radio Sir Gâr, ac mae’n wynebu achos llys yn mis Ebrill. Cafodd Steffan, sy’n 29, ei eni yng Nghaerdydd ac fe gafodd ei fagu yng Nghaerfyrddin. Mae’n gweithio i ‘Sgript Cymru’ cwmni i ysgrifennu newydd ar gyfer y llwyfan.Mae Steffan yn olynu Huw Lewis, sydd yn rhoi’r gorau i’r gadeiryddiaeth yn dilyn cyfnod o dair mlynedd.steffan_cravos_safonol_bach.jpgMwy o’r Cyfarfod Cyffredinol...Y siaradwr gwadd yn y Cyfarfod Cyffredinol oedd y cynghorydd sir Llafur, o Gaerffili, Ray Davies, Mae Ray Davies, sydd yn aelod o Gor Cochion Caerdydd, wedi gwneud sawl safiad dros y Gymraeg dros y blynyddoedd ac mae’n aelod o’r Gymdeithas ers tro byd.Penderfynodd Cymdeithas yr Iaith ei wahodd i fod yn siaradwr gwâdd yn benodol oherwydd ei safiad dros heddwch. Mae’n is-gadeirydd CND Cymru ac yn gynharach eleni fe’i carcharwyd am bythefnos oherwydd ei weithgarwch dros heddwch. Ni chafodd y carchariad hwnnw fawr sylw ond mae’n bleser gan Gymdeithas yr Iaith ei anrhydeddu drwy ei wneud yn siaradwr gwâdd yn eu Cyfarfod Cyffredinol.Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan icwales (Western Mail)Stori oddi ar wefan y Daily PostStori odd iar wefan www.eurolang.net