Yn eu Cyfarfod Cyffredinol yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth ddoe (dydd Sadwrn Mawrth 10) cafodd Hywel Griffiths ei ethol fel Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i arwain y mudiad am y flwyddyn 2007 – 2008. Mae Hywel, sy'n 23 mlwydd oed, yn fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.
Cafodd ei eni yn Llangynog, ger Caerfyrddin, ac mae'n byw yn y dref honno ar hyn o bryd gyda'i gariad, y llenor, Catrin Dafydd. Mae Hywel wedi gwneud cryn enw iddo'i hun fel bardd, drwy ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd yn Ynys Môn. Ei dad yw'r newyddiadurwr adnabyddus Tweli Griffiths. Wrth dderbyn y gadeiryddiaeth fe ddywedodd Hywel:"Mae'n fraint cael dilyn Steffan Cravos fel Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a hynny mewn blwyddyn allweddol bwysig yn hanes Cymru â'r iaith Gymraeg. Gellir dadlau fod hon yn un o'r blynyddoedd pwysicaf yn ein hanes fel cenedl, gan y bydd Cynulliad Cenedlaethol yn ennill yr hawl i ddeddfu. Am y tro cyntaf ers oes y Tywysogion fe fydd pobl Cymru â'r hawl i basio deddfau yn ein gwlad ein hunain.""Wrth gwrs, un o'r materion cyntaf y dymunem ni yng Nghymdeithas yr Iaith Gymraeg weld y Cynulliad yn mynd i'r afael ag ef yw'r angen am Ddeddf Iaith fydd yn deilwng ohonom fel cenedl. O'r diwedd fe ddaeth cyfle i wireddu breuddwyd ac fe fyddwn ni yn gweithio'n galed iawn dros y misoedd nesaf i sicrhau fod hyn yn ndigwydd.""Mae yna hefyd wrth gwrs faterion eraill y dylai llywodraeth Cymru fynd i'r afael â hwy, fel yr angen i weithredu strategaeth frys ym maes cartrefi, gwaith a thrafnidiaeth, er mwyn sicrhau fod gan bobl ifanc gyfle i fyw yn ein hardaloedd Cymraeg. Bydd yn rhaid i ni hefyd ddelio â'r bygythiad i'n hysgolion gwledig ac ymrwymo er mwyn gwneud yn siwr fod addysg Gymraeg ar gael ym mhob sector."Un o'r cynigion pwysicaf a drofodwyd yn y Cyfarfod Cyffredinol oedd yr un ar sut y dylai'r Gymdeithas wario yr arian mawr adawyd iddi mewn ewyllys gan y diweddar Howell Lewis. Erbyn hyn mae'r Gymdeithas wedi derbyn dros £400,000 o'r arian hwnnw. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Dros y blynyddoedd mae llawer o bobl wedi bod yn hael iawn eu cefnogaeth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Oni bai am yr haelioni hwnnw ni fyddai'r Gymdeithas wedi goroesi. Ond roedd y swm a dderbyniwyd gan Mr Howell Lewis yn ei ewyllys ymhell y tu hwnt i ddim a gawsom o'r blaen.""Dros y deunaw mis diwethaf bu'r Gymdeithas yn trafod yn fanwl beth ddylid ei wneud gyda'r arian hwn a phenderfynwyd rhoi cynnig ger bron ein Cyfarfod Cyffredinol fel y gallai ein haelodau cyffredin gyfrannu i'r drafodaeth. Yn dilyn trafodaeth bywiog, cafodd y cynnig ei basio sy’n golygu y bydd £100,000 o'r arian yn cael ei neilltuo ar gyfer ei wario ar brosiectau arbennig. Bwriedir buddsoddi'r gweddill mewn cynllun deng mlynedd fydd yn sefydlu pump o swyddi cyflogedig llawn amser i hybu gwaith y Gymdeithas."Yn y prynhawn lansiwyd dogfen ddiweddaraf y Gymdeithas - 'Mesur yr Iaith Gymraeg 2007' - gan Gadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Hywel Griffiths. Llywydd y sesiwn hon oedd Kate Crockett a fu'n newyddiadurydd gyda'r Byd a'r Bedwar a'r BBC. Ffurfiwyd llawr y Cyfarfod Cyffredinol, ar gyfer y sesiwn arbennig hon, ar lun llawr siambr y Cynulliad Cenedlaethol gyda Kate Crockett yn chwarae rhan Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol.Yna bu cyfle i gynrychiolwyr y pleidiau gwleidyddol - Trefor Jones ymgeisydd y Blaid Geidwadol yng Ngheredigion, Elin Jones AC ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion ac Alun Davies sydd ar ben y rhestr Llafur yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru - ymateb i’r ddogfen. Ymddiheuriodd y Democratiaid Rhyddfrydol am fethu ag anfon cynrychiolydd a hynny am fod ganddynt Gynhadledd yn Abertawe ar yr un diwrnod; ond danfonodd Eleanor Burnham AC neges at Gyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ar eu rhan.Hwb ariannol i fudiad protest - Newyddion BBC, 11/03/07£500,000 bequest creates jobs - BBC News, 11/03/07Pwyswch yma i weld lluniau o'r digwyddiad oddi ar wefan Flickr.