Wrth ymateb i’r newyddion fod Cyngor Môn wedi cadarnhau ei fwriad i symud i weinyddu’n Gymraeg mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion wedi galw ar y cynghorau yno i ddilyn yr esiampl.
Dywedodd David Williams, ar ran Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin:
“Mae’r cyngor wedi cymeryd camau cadarnhaol yn dilyn canlyniadau Cyfrifad 2011 er mwyn mynd i’r afael â’r cwymp yn nifer siaradwyr Cymraeg y sir, ond nawr fod Cyngor Môn wedi datgan bwriad pendant i weinyddu’n Gymraeg, mae’n bryd i Sir Gaerfyrddin wneud yr un peth. Rydyn ni’n derbyn fod Cyngor Sir Gaerfyrddin yn dechrau o sefyllfa wanach na Chyngor Môn ond rydyn ni’n galw ar Emlyn Dole fel arweinydd y cyngor i roi cynllun ac amserlen gweithredu mewn lle er mwyn symud tuag at gwneud y Gymraeg yn iaith weinyddol.”
Ychwanegodd Talat Chaudri ar ran Cymdeithas yr Iaith yng Ngheredigion:
“Rydyn ni wedi bod yn pwyso ar Gyngor Ceredigion ers sawl blwyddyn bellach i weinyddu’n Gymraeg. Nôl yn 2011 fe arwyddodd arweinydd presennol y cyngor, Ellen ap Gwynn ddatganiad yn nodi y byddai’r cyngor yn symud i wneud y Gymraeg yn brif iaith gwaith.
“Er gwaetha llunio strategaethau a chynlluniau newydd dros y blynyddoedd diwethaf does dim cyhoeddiad o fwriad pendant i weinyddu’n Gymraeg wedi dod. Mae cyfle i Gyngor Ceredigion ddilyn esiampl Cyngor Môn, a chyfle i’r Prif Weithredwr newydd, Eifion Evans, wneud newid arwyddocaol, drwy i’r cyngor gyhoeddi cynllun ac amserlen gweithredu er mwyn symud i weinyddu’n Gymraeg.”
Ychwanegodd Osian Rhys, Is-Gadeirydd Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith:
“Yng nghyfarfod Cyngor Môn ddoe cafwyd yr un dadleuon gan ddau gynghorydd oedd yn gwrthwynebu newid i weinyddiaeth Gymraeg ag sydd i’w clywed gan Arweinydd Cyngor Ceredigion – sef bod rhyddid a dewis gan bawb i weithio’n Gymraeg. Dydy hynny ddim yn dal dŵr. Fel rydyn ni wedi’i bwysleisio droeon, mynd yn erbyn y llif mae’r rhai sydd am weithio’n Gymraeg, felly mae angen troi'r llif a gwneud y Gymraeg yn brif iaith gwaith i gyngor Ceredigion.”