Cyflwyno deiseb yn erbyn toriadau i'r prosiect 'Cymraeg i Blant'

Mae ymgyrchwyr wedi cyflwyno deiseb i Lywodraeth Cymru  gan alw iddynt adfer gwasanaethau prosiect Twf sy'n hybu defnydd y Gymraeg  yn y teulu.  

Cafodd y cynllun 'Twf' ei ddiddymu ddechrau mis Ebrill eleni, gan gael ei ddisodli gan raglen newydd 'Cymraeg i Blant' sy'n cael ei redeg gan Fudiad Meithrin. Ond cafodd cyllideb y cynllun newydd ei dorri o ddau gan mil o bunnoedd y flwyddyn o gymharu â chyllideb Twf y llynedd. O ganlyniad, nid yw'r prosiect newydd sy'n olynu Twf yn gweithredu mewn nifer o siroedd, ac mae'r ddeiseb yn galw am adfer swyddi sy'n rhedeg y prosiect yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Ddinbych, Sir Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy, Torfaen a Wrecsam.   

Cyflwynodd aelodau Cymdeithas yr Iaith y ddeiseb, sydd wedi ei llofnodi gan oddeutu naw cant o bobl, i swyddog o Lywodraeth Cymru.

Meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:   

 

"Mae trosglwyddiad iaith o fewn y teulu yn allweddol os ydyn ni am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Bu'r prosiect Twf yn rhan bwysig iawn o'r ymdrech i wella defnydd o'r Gymraeg rhwng rhieni phlant, ac mae'n destun pryder na fydd unrhyw brosiect yn rhedeg mewn nifer fawr o siroedd. Rydym yn gobeithio wrth lunio strategaeth iaith newydd y Llywodraeth, y bydd y Gweinidog yn gwrth-droi'r toriadau hyn.  

 

"Buddsoddi rhagor yn y Gymraeg oedd un o brif negeseuon a ddaeth o'r gynhadledd fawr drefnodd y Llywodraeth yn sgil canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad. Yn lle hynny, rydyn ni wedi gweld llawer llai o arian yn cael ei fuddsoddi yn y Gymraeg. Mae torri prosiect sy'n cynnig cymorth i blant bach a'u rhieni yn gamgymeriad."  

Wedi cyfarfod gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, gwnaeth y Gweinidog dros y Gymraeg, Alun Davies AC, ddatganiad am bolisi iaith y Llywodraeth gerbron y Senedd.