Cyflwyno'r Rhybudd Olaf! Mesur Iaith Cyflawn yng Nghaerdydd

Sion CornYfory, ddydd Sadwrn 10 Ionawr 2009 mi fydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali ger Cofgolofn Aneurin Bevan ar Heol y Frenhines, Caerdydd. Wrth ddisgwyl cyhoeddi’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) ar yr Iaith Gymraeg, bydd y Gymdeithas yn galw ar Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth, i sicrhau y bydd y Gorchymyn yn ddigon eang a phwerus i alluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno deddfwriaeth iaith gynhwysfawr.

Credwn fod angen trosglwyddo pŵer fydd yn canitau i'r Llywodraeth yng Nghaerdydd i gyflwyno deddfwriaeth fydd yn cyflawni’r canlynol;1. Sefydlu’r Gymraeg fel iaith swyddogol yng Nghymru ac fel priod iaith ein gwlad.2. Sefydlu hawliau i bawb yng Nghymru fedru defnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’u bywydau pob dydd a hynny gyda chyrff a sefydliadau ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.3. Sefydlu Comisiynydd annibynnol i’r Iaith Gymraeg.Mae’n gwbl glir mai Llywodraeth Gymreig sydd â’r hawl foesol i basio deddfwriaeth ym maes yr Iaith Gymraeg. O ganlyniad, dylai San Steffan drosglwyddo’r cyfrifoldeb llawnaf un i Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy’r Gorchymyn Cymhwysedd.Credwn fod gan Lywodraeth y Cynulliad gyfle hanesyddol yn awr i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Cymru ac i ddyfodol yr iaith Gymraeg. Rydym am weld deddfwriaeth synhwyrol ac uchelgeisiol fydd yn gwireddu’r weledigaeth am Gymru wirioneddol ddwyieithog.Gobeithiwn y bydd Alun Ffred Jones, fel Gweinidog, yn dangos arweiniad clir a di-amwys ac y bydd ei Lywodraeth yn ymateb yn bositif i’r her yma mae'r Gymdeithas yn cyflwyno.