Mae ymgyrchwyr iaith wedi beirniadu toriadau i wariant ar brosiectau penodol ar gyfer y Gymraeg yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn cynyddu o dros £1 biliwn, o £19 biliwn eleni i £20.2 biliwn flwyddyn nesaf - cynnydd o 5.8% mewn termau arian parod.
Fodd bynnag, mae cyllidebau ar gyfer gwariant ar y Gymraeg yn benodol yn cwympo mewn termau real o bron i £400,000 neu 1.6% - arian sy’n mynd i fudiadau megis yr Urdd a’r Eisteddfod. Yn ogystal, mae Gweinidogion yn bwriadu torri cyllideb y Gymraeg mewn Addysg o £1.65 miliwn, neu doriad o 15% mewn termau real, y flwyddyn nesaf yn ogystal.
Mewn ymateb i’r newyddion, dywedodd Tamsin Davies o Gymdeithas yr Iaith:
“Does dim modd cyfiawnhau’r toriadau hyn. Mae gan y Llywodraeth fwy na biliwn o bunnau ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesaf, felly fan leiaf byddai disgwyl i’r Llywodraeth gynyddu cyllidebau’r Gymraeg yn unol â chwyddiant. Fodd bynnag, gan ystyried eu targedau uchelgeisiol ynghyd â’u hawydd i gynyddu defnydd y Gymraeg, dylen nhw fod yn cynyddu’r gwariant ar brosiectau Cymraeg yn llawer mwy na hynny mewn gwirionedd. Mae’n ymddangos nad yw’r iaith yn flaenoriaeth o gwbl i’r Llywodraeth hon, ac mae hynny’n destun siom. Mae gwledydd fel Gwlad y Basg yn gwario llawer iawn mwy na ni - bron i bum gwaith yn fwy - ac mae hynny’n un rheswm dros ffyniant y Fasgeg.”