
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynegi pryder am doriadau arfaethedig i'r Gymraeg yng nghyllideb drafft Llywodraeth Cymru.
Mae'r mudiad wedi datgan y dylai Llywodraeth nesaf Cymru wario o leiaf 1% o’r gyllideb ar brosiectau penodol er mwyn hybu’r Gymraeg, sef yr union ffigwr sy’n cael ei wario yng Ngwlad y Basg ar hyn o bryd. Fodd bynnag, cafodd toriadau o oddeutu £400,000 eu cyhoeddi yng nghyllideb drafft y Llywodraeth ddoe.
Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Rydyn ni wedi cysylltu â'r Llywodraeth i holi beth yw ystyr y ffigyrau sy'n cael eu gosod allan yn y gyllideb. Yn sicr, gan ystyried cyflwr y Gymraeg, nid oes modd cyfiawnhau toriadau i'r cyllidebau sy'n hyrwyddo'r Gymraeg. Mae gwlad y Basg yn gwario sawl gwaith mwy ar eu hiaith nhw, sy'n rhan o'r rheswm ei bod yn gweld cynnydd yn ei defnydd. Mae angen i bawb gydweithio er mwyn gwrthwynebu llymder sydd mor niweidiol i'r Gymraeg ac i'n cymunedau'n fwy cyffredinol. "
Mae pryder hefyd am effaith toriadau o £41 miliwn i addysg uwch ar y Coleg Cymraeg. Ychwanegodd:
"Mae toriadau i addysg uwch yn codi pryderon ynghylch cyllideb y Coleg Cymraeg - mudiad sy'n mor bwysig er mwyn gwireddu hawliau pobl i'r Gymraeg. Rydyn ni wedi derbyn ymrwymiad clir gan y Prif Weinidog i ehangu gwaith y Coleg, ond dyw e ddim yn glir a yw'r gyllideb yn cyflawni hynny.