
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi talu teyrnged i’r Dr Meredydd Evans.
Yn ogystal â bod yn ysgolhaig, yn berfformiwr roedd y Dr Meredydd Evans yn ymgyrchydd iaith, yn ladmerydd dros y dull di-drais o weithredu dros y Gymraeg ac yn un o’r dri Pencarreg a dorrodd i mewn i fast fel rhan o’r ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg.
Bu hefyd yn gweithredu yn angyfansoddiadol fel rhan o ymgyrch y Gymdeithas dros Ddeddf Iaith Newydd a arweiniodd at wrandawiadau mewn Llysoedd gwahanol.
Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae Cymru wedi colli cawr heddiw. Roedd Mered yn ymgyrchydd diflino dros y Gymraeg ac yn ladmerydd mawr o’r dull di-drais. Heb os roedd yn un o’r dynion anwylaf i’w adnabod a’i gariad dros yr iaith a’r pethe yn ysbrydoli cenedl gyfan.
"Heb ei gyfraniad, yn sicr ni fyddem yn mwynhau rhai o enillion mwyaf y mudiad cenedlaethol, fel sianel deledu S4C, Deddf Iaith 1993 a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
"Roedd hefyd yn athro a chefnogwr i gyw-ymgyrchwyr ac o hyd yn barod i helpu er mwyn cael y maen i’r wal.
"Rydym yn estyn ein cydymdemliadau dwysaf i’w deulu a’i ffrindiau ac yn diolch am fywyd arbennig iawn a helpodd i newid cwys hanes Cymru a’r Gymraeg."