Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu adroddiad a ryddhawyd heddiw gan banel annibynnol ar ddarlledu sy’n argymell sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru. Sefydlwyd y panel gan Lywodraeth Cymru i ystyried dyfodol darlledu.
Meddai Mirain Owen, o Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:
“Mae hwn yn adroddiad pwysig a phellgyrhaeddol sy’n agor pennod newydd yn hanes cyfryngau Cymru. Mae cydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd datganoli’r grym dros faes darlledu a chyfathrebu o Lundain i Senedd Cymru, ac rydyn ni’n falch bod Llywodraeth Cymru’n mynd ati i baratoi ar gyfer hynny er mwyn sicrhau bod penderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru yn cael eu gwneud yng Nghymru.”
Ychwanegodd Mirain Owen:
“Rydym yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod rôl yr Awdurdod arfaethedig yn y strategaeth iaith genedlaethol, gan fod cyfryngau a thechnoleg eisioes yn themâu strategol bwysig yn 'Cymraeg 2050.' Wrth gwrs, mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am ddatganoli darlledu ers blynyddoedd, gan fod y system bresennol sy’n cael ei rheoli o Lundain yn niweidiol i’n hiaith, ein diwylliant a’n democratiaeth. Bydd creu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol yn gam pwysig ar y ffordd tuag at ddatganoli darlledu, ac rydyn ni’n cymryd y bydd y Llywodraeth yn mynd ati’n ddi-oed i sefydlu’r Awdurdod.”