Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cynlluniau cynghorau ar gyfer addysg Gymraeg.
Yn ôl gwaith ystadegol a gyhoeddir gan Gymdeithas yr Iaith, bydd rhaid i'r mwyafrif o blant gael eu haddysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg erbyn 2030 er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru, sef bod miliwn o siaradwyr yr iaith erbyn canol y ganrif.
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Toni Schiavone:
"Gobeithio bod gwelliannau gwirioneddol yn y cynlluniau newydd lleol hyn, ond mae angen i'r Llywodraeth weddnewid y system addysg os yw am sicrhau bod pob disgybl yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg. Y broblem sylfaenol gyda eu cynlluniau yw bod y camau i normaleiddio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn rhy araf o lawer.
"Mae'r targedau addysg cenedlaethol y Llywodraeth ymhell o fod yn ddigonol er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Yn wir, mae'r targedau yn is nag yn y strategaeth y cyhoeddon nhw wyth mlynedd yn ôl. Pe bai'r patrwm presennol yn parhau, byddai rhaid aros tan tua 2170 i gael system addysg lle mae pob plentyn yn derbyn eu holl addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n dangos diffyg cynllunio strategol – wedi'r cwbl, yng Nghatalwnia mae gyda nhw addysg cyfrwng Catalaneg i bob disgybl ar hyn o bryd – pam fod rhaid i ni yng Nghymru aros canrif a hanner i gael addysg i bawb yn ein hiaith?"
"Yn 2013, dywedodd adolygiad annibynnol y Llywodraeth bod angen dileu Cymraeg Ail Iaith 'ar frys' ac erbyn, fan hwyraf, 2018. Dan gynlluniau presennol y Gweinidog, mae perygl y bydd y cymhwyster ail iaith yn parhau tan 2026. Felly bydd bron i 80% o'n pobl ifanc yn dal i gael eu hamddifadu o'r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl. Yn ein cyfarfod diweddar gyda Chymwysterau Cymru, roedden nhw'n fodlon cyhoeddi cymhwyster cyfun newydd yn 2019 fel bod rhai ardaloedd yn gallu dileu Cymraeg Ail Iaith yn gynt. Byddwn ni'n pwyso ar y Gweinidog i ymrwymo i hynny."