Dirprwyiaeth o aelodau yn ymweld â Gwlad y Basg

Gwlad y BasgAr ôl i Gyfarfod Cyffredinol a Rali Genedlaethol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddod i ben yn Aberystwyth brynhawn dydd Sadwrn Hydref 25 bydd pymtheg o aelodau'r Gymdeithas yn paratoi i adael ymhen deuddydd i ymweld â Gwlad y Basg. Dyma'r tro cyntaf ers pymtheg mlynedd i ddirprwyaeth o aelodau'r Gymdeithas ymweld â'r wlad. Hon hefyd yw'r ddirprwyaeth fwyaf niferus erioed i fynd allan a'r daith yn enw'r Gymdeithas.

Yn ystod y daith fydd yn para o Hydref 25 i Ragfyr1) bydd dirprwyaeth y Gymdeithas yn ymweld ag amrywiaeth o fudiadau iaith, cyhoeddwyr papur dyddiol Basgaidd, cymdeithas awduron, cwmnïau sy'n hybu Basgeg yn y gweithle, ysgolion sy'n dysgu drwy'r Basgeg a chwmniau cydweithredol. Byddwn hefyd yn cael profiad o'r sefyllfa ieithyddol mewn gwahanol rannau o'r wlad ac yn cael gweld sut yr aeth un Cyngor Sir i'r afael yn llwyddiannus â phroblem y mewn lifiad o SbaenDywedodd Sioned Haf, Swyddog Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith."Mae'r daith hon fydd yn para wythnos yn un tra arwyddocaol gan fod Deddf Iaith wedi ei phasio yn ddiweddar yng Ngwlad y Basg ac iddi nifer o'r grymoedd y dymunem ni ei weld mewn Mesur Iaith yng Nghymru. Yn benodol mae eu deddfwriaeth ddiweddaraf hwy yn mynd i'r afael a statws yr iaith yn y sector breifat. Hefyd, mae'r sefyllfa ieithyddol yng Nghymru a Gwlad Basg yn rhyfeddol o debyg ond eu bod hwy dipyn ar y blaen i ni o ran hawliau iaith. Felly yr ydym yn gobeithio dysgu llawer ar y daith hon. Bydd hynny yn ein harfogi am gyfarfod gyda'r CBI sydd i ddigwydd ym Mis Tachwedd ar ôl i ni ddychwelyd."