Ethol Cadeirydd newydd - Hywel Griffiths

Hywel GriffithsYn eu Cyfarfod Cyffredinol gynhelir yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth dydd Sadwrn Mawrth 10 fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ethol Cadeirydd newydd i arwain y mudiad am y flwyddyn 2007 – 2008. Hywel Griffiths yw'r unig ymgeisydd am y gadeiryddiaeth eleni ac mae'n debyg o gael ei ethol yn ddiwrthwynebiad.

Mae Hywel, sy'n 23 mlwydd oed, yn fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Cafodd ei eni yn Llangynog, ger Caerfyrddin, ac mae'n byw yn y dref honno ar hyn o bryd gyda'i gariad, y llenor, Catrin Dafydd. Ei dad yw'r newyddiadurwr adnabyddus Tweli Griffiths.Mae Hywel wedi gwneud cryn enw iddo'i hun fel bardd, drwy ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd yn Ynys Môn. Llynedd daeth ei awdl yn agos at ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei lais i'w glywed yn aml ar y gyfres radio Talwrn y BeirddMae Hywel wedi gwasanaethu ar senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ers rhai blynyddoedd ac ef llynedd oedd un o Is-Gadeiryddion y mudiad.Wrth dderbyn y gadeiryddiaeth fe ddywedodd Hywel:"Mae'n fraint cael dilyn Steffan Cravos fel Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a hynny mewn blwyddyn allweddol bwysig yn hanes Cymru â'r iaith Gymraeg. Gellir dadlau fod hon yn un o'r blynyddoedd pwysicaf yn ein hanes fel cenedl, gan y bydd Cynulliad Cenedlaethol yn ennill yr hawl i ddeddfu. Am y tro cyntaf ers oes y Tywysogion fe fydd pobl Cymru â'r hawl i basio deddfau yn ein gwlad ein hunain.""Wrth gwrs, un o'r materion cyntaf y dymunem ni yng Nghymdeithas yr Iaith Gymraeg weld y Cynulliad yn mynd i'r afael ag ef yw'r angen am Ddeddf Iaith fydd yn deilwng ohonom fel cenedl. O'r diwedd fe ddaeth cyfle i wireddu breuddwyd ac fe fyddwn ni yn gweithio'n galed iawn dros y misoedd nesaf i sicrhau fod hyn yn ndigwydd.""Mae yna hefyd wrth gwrs faterion eraill y dylai llywodraeth Cymru fynd i'r afael â hwy, fel yr angen i weithredu strategaeth frys ym maes cartrefi, gwaith a thrafnidiaeth, er mwyn sicrhau fod gan bobl ifanc gyfle i fyw yn ein hardaloedd Cymraeg. Bydd yn rhaid i ni hefyd ddelio â'r bygythiad i'n hysgolion gwledig ac ymrwymo er mwyn gwneud yn siwr fod addysg Gymraeg ar gael ym mhob sector."Pwyswch yma am fwy o fanylion ynglyn a'r Cyfarfod Cyffredinol