Euros Childs yn un o brif atyniadau Gigs yr Eisteddfod

Euros ChildsBydd cyn aelod y band Gorkys Zygotic Mynci, Euros Childs, yn perfformio yng nghlwb Barons yn Abertawe ar nos Fawrth 8fed Awst fel rhan o wythnos o gigs gwych fydd yn cael eu cynnal yno yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Dechreuodd Euros ei yrfa cyffrous mewn cerddoriaeth fel prif ganwr a chyfansoddwr y band gwerinol-seicadelig Gorkys Zygotic Mynci ar ddechrau’r nawdegau gan flasu llwyddiant rhagorol o oedran ifanc iawn. Yn anffodus daeth cyfnod y band poblogaidd i ben wrth iddyn nhw wahanu’n ddiweddar wedi sawl blwyddyn llwyddiannus a’i gwelodd yn rhyddhau 10 albwm.Yn ffodus, mae Euros wedi bod yn prysur ddatblygu ei yrfa unigol dros y misoedd diwethaf. Cafodd ei arwyddo gan label recordiau Wichita yn Hydref 2005 gan ryddhau ei albwm unigol cyntaf, Chomps, ym mis Ionawr. Ers hynny mawe wedi bod yn brysur iawn gan berfformio ar hyd a lled Prydain ac Ewrop i hyrwyddo’r albwm, sydd wedi derbyn canmoliaeth eang.Hwn fydd y tro cyntaf i Euros berfformio’n unigol yn Abertawe, er iddo ddenu cynulleidfaoedd mawrion yn gyson yn y ddinas gyda’r Gorkys. Bydd 4 o fandiau addawol iawn yn ei gefnogi ar y noson, yn cynnwys yr hynod boblogaidd Mattoidz, Cofi Bach a Tew Shady, Kenavo a Rasputin mewn noson llawn dop o gerddoriaeth.Bydd y gigs yn cael eu cynnal trwy gydol wythnos yr Eisteddfod (Awst 5ed-12fed) yng nghlwb Barons yng nghanol y ddinas a’r Glamorgan Arms ym Mhontlliw. Mae modd prynu tocynnau o flaen llaw o Tŷ Tawe yn Abertawe, o’r Glamorgan Arms neu trwy ffonio 01970 624 501.Mwy o wybodaeth - www.cymdeithas.com/steddfod