Mae Ffred Ffransis yn dechrau ar ympryd 75 awr am 12yp heddiw (6 Awst). Bydd yn dod â’i ympryd i ben ar ddiwedd rali Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith.
Yn siarad cyn yr ympryd dywedodd:
"Mae ymgyrch 'Nid yw Cymru ar Werth' wedi rhygnu mlaen ers degawdau gan ennill consesiynau yma ac acw. Bydda i'n ymprydio am 75 awr y tu allan i uned Llywodraeth Cymru ar y Maes o 12.00 Sul hyd ddiwedd ein rali er mwyn pwysleisio difrifoldeb argyfwng ein cymunedau Cymraeg erbyn hyn. Dyma adeg dyngedfennol yn yr ymgyrch am Ddeddf Eiddo i reoli'r farchnad agored gan y gallen ni redeg allan o amser i gyflwyno deddfwriaeth yn y tymor seneddol hwn. Does dal dim arwydd o amserlen ar gyfer y Papur Gwyn hir-ddisgwyliedig ar y mater, a byddwn yn gofyn i bobl ar y Maes anfon neges at y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, yn galw am gyflymu'r broses gan na all ein cymunedau aros yn hirach.”
Yn ystod ei ympryd, bydd Ffred y tu allan i stondin y Llywodraeth yn dosbarthu taflenni ac yn siarad gyda’r cyhoedd ynglŷn â’r ymgyrch.
Yn sôn am ei ympryd, ychwanegodd Ffred Ffransis:
"Nid gweithred yn erbyn y llywodraeth yw hon ond anogaeth i'n pobl alw ar y llywodraeth am weithredu tra bo dal cyfle. Ar derfyn fy ympryd, bydda i'n cael dychwelyd i fwyta tra bydd miloedd o gyd-Gymry'n colli prydau oherwydd argyfwng costau byw, a bydda i'n dychwelyd i gartre tra bo miloedd o'm cyd-Gymry'n cael eu gorfodi allan o'u cymunedau o ddiffyg cartrefi. Dyw Cymru a'r Gymraeg ddim yn gallu goroesi yn y drefn bresennol. Cyflwyno Deddf Eiddo, yn seiliedig ar gyfiawnder cymdeithasol, fydd un o'r camau cyntaf at greu trefn newydd lle gall Cymru fod yn esiampl i'r byd."
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Eiddo sy’n rheoleiddio’r farchnad tai fel bod cartrefi i’w rhentu a’u prynu ar gael am brisiau sydd o fewn cyrraedd pobl leol.