Galw am barciau busnes cyfrwng Cymraeg

Dylai'r Llywodraeth sefydlu pedwar parc busnes cyfrwng Cymraeg er mwyn hybu defnydd y Gymraeg, yn ôl ymgyrchwyr iaith a drafododd strategaeth economaidd newydd ar faes yr Eisteddfod heddiw (2pm, Dydd Mercher, 3ydd Awst) 

[Cliciwch yma i ddarllen y ddogfen lawn]

Mewn dogfen polisi newydd a gafodd ei drafod mewn sgwrs a gadeirir gan yr Aelod Cynulliad Adam Price, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw am sefydlu corff datblygu economaidd newydd o'r enw "AnturIaith: Menter Iaith ar Waith". Byddai'r corff yn gweithredu pecyn o weithgaredd a fydd y Gymraeg yn rhan greiddiol a ganolog iddo, ar sail ‘Udaras na Gaeltachta’ yn Iwerddon neu Highlands and Islands Enterprise yn yr Alban.  

Mae'r mudiad yn argymell y dylai'r corff fod yn gyfrifol am sefydlu parciau busnes cyfrwng Cymraeg a fyddai'n efelychu Parc Menter Andoain yng ngwlad y Basg; datblygu Deorfa Wledig fel rhan o’r Parc Menter; a gweithredu cynlluniau penodol ar gyfer datblygu economaidd o fewn cymunedau gan hyrwyddo datblygu o’r gwaelod i fyny. 

Yn siarad yn y digwyddiad, meddai Tamsin Davies, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

"Rydyn ni'n falch i allu cyhoeddi'r polisïau hyn ar adeg ddefnyddiol iawn gan fod y Llywodraeth nid yn unig wrthi'n ystyried ei strategaeth iaith newydd ond ei strategaeth economaidd newydd hefyd. Rydyn ni'n gobeithio bod y syniad o greu rhagor o ofodau busnes cyfrwng Cymraeg yn mynd i ennyn cefnogaeth drawsbleidiol.  

"Mae canlyniadau’r Cyfrifiad yn dangos na chyflawnwyd dau o brif amcanion strategaeth iaith flaenorol y Llywodraeth: bu gostyngiad nid yn unig yn y canran o siaradwyr Cymraeg, ond hefyd yn y nifer o wardiau gyda dros 70% yn medru’r iaith. Yn fras, rydyn ni'n colli tua 3,000 o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn. Mae nifer o’r ffactorau yn dylanwadu ar gyflwr yr iaith ac mae'n glir mai allfudo — megis pobl ifanc yn gadael eu cymunedau i chwilio am waith — yw un o’r prif ffactorau a arweinia at y sefyllfa. Dyma pam mae rhaid canolbwyntio ar bolisïau fyddai’n creu gwaith mewn cymunedau Cymraeg ac ymgyrchu dros bolisïau economaidd a fydd yn cryfhau sefyllfa’r iaith. 

"Mae’r iaith a’r economi yn gysylltiedig. Mewn ardal Gymraeg gydag economi cryf, bydd llai o bobl yn allfudo er mwyn cael gwaith, felly bydd niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg yn parhau i fyw yno. Ble mae niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg ac mae’r iaith mewn sefyllfa gref — ble mae medru’r Gymraeg yn ddefnyddiol wrth chwilio am swyddi, cynnig gwasanaethau, ac yn y blaen — cymhellir pobl ddi-Gymraeg sy’n symud i’r ardal i gymhathu. Dyma sefyllfa lle mae’r gymuned yn hyfyw ac mae’r iaith a’r economi yn cynnal ei gilydd." 

Ymysg y siaradwyr eraill yn y digwyddiad fydd Menna Jones o Antur Waun Fawr, Meleri Davies o Ynni Ogwen, ac Adam Price AC.