"Gweithredwch argymhellion yr arbenigwyr", dyna neges Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth bwyllgor sy'n adolygu'r cwricwlwm addysg, gan fynnu na ddylai fod rhagor o oedi rhag cyflwyno addysg Gymraeg i bob plentyn.
Mae'r mudiad wedi bod yn arwain ymgyrch dros addysg Gymraeg i bawb fel rhan o ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad a ddangosodd cwymp yn nifer siaradwyr y Gymraeg. Mae'r mudiad eisoes wedi rhybuddio na all plant Cymru fforddio rhagor o oedi rhag gweithredu argymhellion adroddiad gan yr Athro Sioned Davies a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ymgyrchwyr wedi cyhuddo'r Llywodraeth o geisio claddu argymhellion allweddol yr adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi'r llynedd.
Yn ei dystiolaeth i bwyllgor Graham Donaldson sy'n cynnal adolygiad o'r cwricwlwm ar ran Llywodraeth Cymru, medd y mudiad:
"Dylid sicrhau fod pob disgybl yn ymadael â’r ysgol gyda’r gallu i gyfathrebu a chyflawni gwaith yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac mewn trydedd iaith a fydd yn amrywio o ysgol i ysgol yn ôl adnoddau. Mae’r nod o sicrhau fod pob dinesydd yn Ewrop yn dairieithog yn rhan o’r hyn a elwir yn Gytundeb Barcelona ..."
"Methiant addysgol yw’r drefn bresennol lle caiff cyfran sylweddol o ddisgyblion Cymru eu hamddifadu o’r sgil hanfodol o fedru cyfathrebu a thrin eu gwaith yn y Gymraeg a’u hallgáu felly o nifer o bosibiliadau economaidd a diwylliannol o ganlyniad i gwricwlwm sy’n dwyn yr enw sarhaus “Cymraeg Ail Iaith”. Nid yw hyn yn dderbyniol mewn gwlad ddwyieithog, fodern gan fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru.
"Yr ydym yn siomedig iawn na welodd y llywodraeth yn dda i drin y broblem hon – a amlygwyd yn Adroddiad yr Athro Sioned Davies a gomisiynwyd gan y llywodraeth ei hun – fel rhan o Gam 1 yr adolygiad cwricwlwm, oherwydd dylai gwella sgiliau llythrennedd a chyfathrebu olygu gwella sgiliau yn y ddwy iaith i bob disgybl ... Galwn felly am sefydlu continwwm lle bydd pob ysgol yn symud tuag at gyflwyno peth o’r cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg, a chyhoeddi mai’r bwriad fydd dileu’r cysyniad o “Gymraeg Ail Iaith”.
Ychydig wythnosau yn ôl, dywedodd y Prif Weinidog bod yn 'bwysig bod holl ddisgyblion Cymru', gan gynnwys y rhai mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, yn 'siarad y Gymraeg yn hyderus'.
Ychwanegodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith: "Yn wyneb datganiad Carwyn Jones fod yn rhaid i'r drefn newid, ry'n ni wedi galw ar bwyllgor Donaldson i ystyried sut i weithredu argymhellion Sioned Davies, sydd ag arbenigedd yn y maes, ar draws y cwricwlwm cyfan, nid i ail-ystyried yr argymhellion eu hunain. Ry'n ni'n galw ar y Prif Weinidog i anfon neges at Donaldson i esbonio hyn, gan ddiwygio i raddau eu cylch gorchwyl."
Mae'r mudiad hefyd wedi galw am ddiwygio'r cwricwlwm i arfogi pobl ifainc gyda'r ddealltwriaeth a'r sgiliau i gyfrannu at y ddemocratiaeth newydd yng Nghymru yn gymunedol ac yn genedlaethol.