Bu'n wythnos fywiog a chyffrous i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr Eisteddfod ac fe gychwynnodd ar nodyn cwbwl arbennig wrth i'n Cadeirydd, Hywel Griffiths, ennill y goron ar y dydd Llun cyntaf.Mae'r cerddi enillodd y goron iddo yn rhai arbennig ac yn ein llenwi â gobaith am ddyfodol Caerdydd, Cymru a'r Gymraeg. Cofiwch brynu y Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau a'u darllen.Gellir gwylio fideo o'r seremoni ar wefan y BBC yma.Erthygl oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd.