Prifysgol Bangor yn penodi Is-Ganghellor di-Gymraeg: siom Cymdeithas

bangor.jpegMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynegi siom heddiw ar ôl i Brifysgol Bangor penderfynu argymell penodi Is-Ganghellor sy'n ddi-Gymraeg. Mae'r mudiad yn dadlau bod cyfle o hyd i'r Brifysgol gosod dyletswydd gyfreithiol ar yr ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu Cymraeg.Dros yr wythnosau diwethaf mae pwysau o d? myfyrwyr, staff a grwpiau ymgyrchu yn ehangach yng ngogledd Cymru wedi gofyn i'r Brifysgol wrth-droi ei benderfyniad i beidio â gosod unrhyw ofyniad cyfreithiol ar yr ymgeisydd llwyddiannus i siarad neu ddysgu'r Gymraeg.

Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae'r Brifysgol wedi colli cyfle i benodi person dwyieithog i'r swydd holl bwysig yma. Dywedodd Rhys Llwyd, Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith a Myfyriwr Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor:"Rydym ni'n hynod siomedig fod y Brifysgol wedi symud ymlaen a phenodi rhywun na fydd yn medru'r Gymraeg. Nid ydy Prifysgol Bangor yn haeddu cael ei ddisgrifio fel sefydliad Cymreig bellach, gan ystyried ei hagwedd i'r gymuned leol. Mae'n hollbwysig y gall swyddog newydd cyfathrebu yn y Gymraeg gyda chanran sylweddol o'r myfyrwyr, canran fwy byth o'r staff ac hefyd cenadwri'r Brifysgol, beth bynnag yw honno erbyn hyn, a chymunedau naturiol Cymraeg gogledd Cymru. Mae 'na dal cyfle i'r Brifysgol gynnwys amod cyflogaeth ar y Swyddog newydd i ddysgu Cymraeg, a dylen nhw wneud hynny."Cred Cymdeithas yr Iaith fod rhaid i'r Brifysgol gymryd y camau ymarferol canlynol i geisio unioni'r camgymeriad dybryd yma. Felly, mae Cymdeithas yr Iaith yn pwyso ar y Brifysgol i:> Gynnwys yng nghytundeb yr Is-Ganghellor newydd fod rhaid iddo ddysgu'r Gymraeg ymhen ei flwyddyn gyntaf yn y swydd ac os na fydd yn cadw at amod y cytundeb y bod Prifysgol Bangor yn ail ddechrau'r broses penodi.> Codi'r nifer o swyddogion Cymraeg ar y Grwp Rheoli o 0 i o leiaf 2 ar fyrder trwy: (i) penodi Dirprwy Is-Ganghellor newydd fydd ac un prif gyfrifoldeb sef llunio ac arwain strategaeth addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg y Brifysgol a bod yn arweinydd cyhoeddus i'r sefydliad yng Nghymru; a (ii) sichrau y bydd y Gymraeg yn hanfodol i unrhyw swydd is-Ganghellor arall.> Mabwysiadu cynllun iaith newydd a chryfach na'r presennol i sicrhau'r bod pob uchel swydd o hyn allan yn y sefydliad yn benodiadau dwyieithog.Am fwy o wybodaeth cysylltwch âRhys Llwyd ar rhys@cymdeithas.org / 07834556202