Mae ymgyrchwyr wedi mynegi pryder am gynlluniau Prifysgol Caerdydd i uno Ysgol y Gymraeg gydag adrannau eraill sy’n dysgu ieithoedd.
Mewn papur at staff yn esbonio cynlluniau arfaethedig i dorri 380 o swyddi, dywed y Brifysgol:
“Byddwn yn edrych ar gyfuno'r Ysgolion Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Ieithoedd Modern a'r Gymraeg yn Ysgol Llenyddiaeth, Ieithoedd ac Ymarfer Creadigol newydd... Byddai hyn yn ... [g]alluogi arbedion effeithlonrwydd o ran addysgu a'u cyflwyno. Ar hyn o bryd, mae'r arbenigedd hwn ar wasgar ar draws yr Ysgolion (gan olygu ein bod o dan anfantais o ran proffilo'n cymharu â phrifysgolion eraill fel Bryste a Chaerwysg).
“Byddwn yn gwarchod hunaniaeth benodol Ysgol y Gymraeg ac yn ei galluogi i elwa ar fod yn rhan o grŵp ehangach. Rydym yn awgrymu y dylai'r uned academaidd gael ei chynnal fel Adran y Gymraeg yn yr Ysgol Llenyddiaeth, Ieithoedd ac Ymarfer Creadigol.
“Ar ben hynny, byddwn yn ystyried ai ni yw’r sefydliad priodol i ddarparu Cymraeg i Oedolion, ac yn gweithio gyda phartneriaid i wneud yn siŵr bod cyrsiau yn parhau. Byddwn yn gweithio gyda’r disgyblaethau er mwyn llunio maint yr Ysgol newydd o ran nifer y staff academaidd, ac rydym yn rhagweld y bydd yr aildrefnu yn galluogi staff i addysgu ar draws ystod o feysydd.”
Dywedodd Mabli Siriol o Gell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith:
“Byddai israddio Ysgol y Gymraeg yn ergyd, nid yn unig i’r Brifysgol fel sefydliad ond hefyd i ymdrech Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Y myfyrwyr sy’n cael eu haddysgu yno yw’r athrawon, arbenigwyr a darparwyr gwasanaethau sy’n hanfodol er mwyn i’r iaith ffynnu. Heb statws Ysgol annibynnol, mae’n anochel y bydd yr adnoddau ar gyfer y Gymraeg yn lleihau a bydd safonau i fyfyrwyr yn disgyn.
“Mae’n destun pryder mawr hefyd bod y Brifysgol yn sôn am beidio â darparu Cymraeg i Oedolion. Ychydig flynyddoedd wedi iddyn nhw ail-ennill cytundeb i gynnig y gwasanaeth, mae’n sioc eu bod nhw nawr yn sôn am ddiddymu’r gwasanaeth, un sydd mor bwysig i’r iaith. Mae’n gynyddol amlwg nad yw Prifysgol Caerdydd yn gwasanaethu cymunedau na’r Gymraeg, ond y farchnad. Dylai’r Llywodraeth ail-edrych ar y gefnogaeth gyhoeddus i’r sefydliad gan ei fod yn cefnu ar gymaint o’i wasanaethau er budd y gymuned er mwyn mynd ar ôl arian mawr tramor.”