Profiad S4C yn dangos bod rhaid datganoli darlledu - ymgyrchwyr yn Llundain

Mae ansicrwydd ariannol S4C yn dangos bod rhaid datganoli darlledu i Gymru, dyna yw neges  dirprwyaeth o ymgyrchwyr iaith wrth ddadlau gerbron Aelodau Seneddol yn San Steffan heddiw (dydd Mawrth, 7fed Chwefror).   
 
Mae S4C wedi dioddef toriadau o 40% i'w gyllideb  ers 2010. Dywedodd maniffesto etholiad cyffredinol y Ceidwadwyr yn 2015 y byddent yn "diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C". Fodd bynnag, mewn dadl yn San Steffan fis diwethaf, dywedodd y Gweinidog yn Llywodraeth Prydain gyda chyfrifoldeb dros S4C y gallai fod toriad pellach o dros £700,000 i grant y sianel o fis Ebrill eleni.    
Mae disgwyl i Lywodraeth Prydain gynnal adolygiad o'r sianel eleni ac mae Gweinidog Swyddfa Cymru, Guto Bebb, wedi dweud wrth Gymdeithas yr Iaith bydd trafod datganoli yn 'anochel' yn rhan o'r trafodaethau.   
 
Mewn araith gerbron grŵp o Aelodau Seneddol, roedd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod mwyafrifhelaeth Aelodau Seneddol Cymru yn erbyn y ffordd mae S4C a'r cyfryngau yng Nghymru yn cael eu trin:  
"Mae'r ffordd mae S4C a'r cyfryngau yng Nghymru yn gyffredinol yn cael eu trin ar hyn o bryd yn annemocrataidd. O ddiffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol a theledu lleol, y toriadau difrifol i S4C i'r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau, mae'n glir nad yw Llundain yn rheoli'r cyfryngau er budd pobl Cymru.   
"Pa wleidydd rhesymol all gyfiawnhau rhagor o doriadau i S4C? Mae hyd yn oed rhan helaeth Ceidwadwyr Cymru yn gweld na allan nhw weithredu'n groes i addewid maniffesto clir i ddiogelu cyllid y sianel. Mae'n glir o'n sgyrsiau gydag Aelodau Seneddol dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys Swyddfa Cymru, bod y mwyafrif yn gwrthwynebu unrhyw ymdrech i dorri ymhellach. Ond eto, mae gyda ni Weinidogion yn yr Adran Ddiwylliant yn Llundain yn gwneud y penderfyniadau, er, nad oes ots gyda nhw am Gymru, heb sôn am y Gymraeg. Dylai penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael ei wneud gan bobl Cymru - mae'n bryd datganoli darlledu."   
 
Wrth sôn am y cynigion ym mhapur trafod y mudiad i ddatganoli darlledu er mwyn galluogi sefydlu tair gorsaf radio a thair sianel deledu Gymraeg, ychwanegodd Carl Morris, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith:  
"Mae adolygiad o S4C yn cael ei gynnal eleni ac mae'n deg dweud bod hyn yn gyfle prin iawn i edrych yn fanwl ar fanylion y diwydiant darlledu yng Nghymru. Rydyn ni'n dadlau y dylid gweddnewid ac ehangu Awdurdod S4C i fod yn 'Awdurdod Darlledu Cymru', a fydd yn gyfrifol am reoleiddio darlledu yng Nghymru, yn lle Ofcom. Byddai cylch gwaith, dyletswyddau a grymoedd y corff newydd yn cynnwys hyrwyddo a normaleiddio'r Gymraeg ar bob llwyfan cyfryngol (gan gynnwys Netflix ac Amazon Prime, er enghraifft), a byddai grymoedd ganddo i osod cwotâu ar radio masnachol a theledu lleol o ran y ganran o'u darlledu sydd yn Gymraeg.    
"Mae darlledu wedi ei ddatganoli mewn gwledydd bychain eraill, ac maent wedi defnyddio'r grymoedd er lles ieithoedd lleiafrifoledig. Mae gyda ni gyfle drwy'r adolygiad yma felly i ddechrau cyfnod newydd i'r cyfryngau yng Nghymru."  

 

Y stori yn y wasg:

Golwg 360 7/2/17

BBC Cymru Fyw 7/2/17