Pryder am ymateb “tila” gan y Llywodraeth i ffigurau’r Cyfrifiad - Cymdeithas yr Iaith

Rydyn ni'n brydeusr mai cwestiynu ystadegau a chreu esgusodion am ddiffyg gweithredu yw prif ymateb y Llywodraeth i’r cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg a gyhoeddwyd ddechrau mis Rhagfyr.

Meddai Robat Idris, cadeirydd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith:
“Mae canlyniadau’r Cyfrifiad yn gondemniad o strategaeth bresennol y Llywodraeth o ran yr iaith. Yn hytrach na chreu esgusion a chwestiynu data, mi ddylai'r Llywodraeth ganolbwyntio ar atal cwymp pellach yn nifer y siaradwyr a’r cymunedau Cymraeg. Mae angen gweithredu llawer mwy sylweddol er mwyn sicrhau twf, a chymryd camau fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn fel cyflwyno addysg Gymraeg i bawb, i sicrhau bod pob un plentyn yn gadael yr ysgol yn hyderus yn yr iaith. Ar hyn o bryd, mae 80% o’n plant yn gadael yr ysgol yn methu siarad Cymraeg.”

Mae’r Gymdeithas yn dadlau bod angen i’r Llywodraeth gymryd cam yn ôl a chydnabod o’r newydd faint y dasg sydd o’u blaen wrth adfywio’r iaith.

Ychwanegodd Robat Idris: “Os ydy’r Llywodraeth o ddifri am weddnewid sefyllfa’r Gymraeg, mae angen chwyldro ar draws yr holl feysydd polisi, fel bod mwy a mwy o bobl yn byw eu bywydau drwy’r Gymraeg. Ymhle mae’r gweithleoedd Cymraeg? Mae’r Llywodraeth eu hun, a mwyafrif llethol y cyrff maen nhw’n eu noddi, yn gweithredu bron yn gyfan gwbl drwy’r Saesneg. Ymhle mae’r gyfundrefn Cymraeg i oedolion? Mae nifer yr oedolion sy’n dod yn rhugl yn yr iaith yn druenus o isel.
"Ofer hefyd fydd pob ymdrech tra mae ein cymunedau gwledig a threfol yn gweld allfudo'u hieuenctid oherwydd diffyg cyfleoedd gwaith, a phrisiau a rhenti uchel ar dai. Dyna pam mae angen ystyried yr iaith ymhob maes polisi, ac nid cyfyngu'r Gymraeg i un seilo. Heriwn y Llywodraeth i fod yn llawer mwy uchelgeisiol."