Rali Pwllheli: Galw am drefn gynllunio sy'n cryfhau'r Gymraeg

"Rhaid i'r Gymraeg fod yn ganolog i'r drefn gynllunio", dyna oedd neges yr ymgyrchwyr iaith a ddaeth ynghyd ym Mhwllheli heddiw ar drothwy cyhoeddi Bil Cynllunio Llywodraeth Cymru.  

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn galw am nifer o newidiadau ers i Weinidogion yng Nghaerdydd gyhoeddi eu cynlluniau deddfwriaethol drafft ym mis Chwefor eleni, nad oedd yn cynnwys yr un gair am y Gymraeg. Ers hynny, mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi addo ystyried 'pob cam ymarferol ar gyfer atgyfnerthu’r Gymraeg o fewn y system gynllunio'. Daw'r ddadl wedi i ganlyniadau'r Cyfrifiad ddangos cwymp yn nifer siaradwyr yr iaith a nifer y cymunedau lle mai'r Gymraeg yw prif iaith y gymuned; mae ymgyrchwyr yn dweud mai'r drefn gynllunio sy'n rhannol gyfrifol am y dirywiad. 

Ymysg y newidiadau i gynlluniau drafft y Llywodraeth mae'r mudiad wedi bod yn galw amdanyn nhw mae gwneud effaith ar yr iaith yn rheswm statudol am wrthod neu ganiatáu datblygiadau, a gosod anghenion lleol fel sail i'r system cynllunio yn hytrach na thargedau tai wedi eu gosod o Gaerdydd. 

Meddai Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae llawer o bobl yn pryderu am or-ddatblygu mewn nifer o ardaloedd ledled Cymru - o ddatblygiadau tai diangen i'r M4 newydd - ac effaith hynny ar yr amgylchedd, ar y Gymraeg, ac ar lefelau tlodi.

"Nid yw pawb yn sylweddoli bod cyfle gan Lywodraeth Cymru i baratoi deddfwriaeth a allai atal y datblygiadau anghynaladwy hyn - a chaniatáu’r math iawn o ddatblygiadau lle mae eu gwir angen ar gymunedau. Yn anffodus, cyhoeddodd Llywodraeth deddfwriaeth drafft, a fyddai, yn hytrach na thaclo'r problemau, yn eu dwysáu, gan olygu bod penderfyniadau cynllunio'n symud ymhellach o afael y bobl, ac yn digwydd mewn modd llai democrataidd. Doedd dim un gair am effaith y drefn gynllunio ar y Gymraeg chwaith. 

"Bydd sicrhau newidiadau i gynlluniau deddfu presennol y Llywodraeth yn un o brif flaenoriaethau Cymdeithas yr Iaith dros y misoedd nesaf. 

Ymysg siaradwyr y rali ym Mhwllheli oedd yr ymgyrchwyr iaith Toni Schiavone, Iwan Edgar ac Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood. Dywedodd Toni Schiavone: “Ni fydd modd diogelu a datblygu'r Gymraeg fel iaith byw heb ddiogelu'r Gymraeg yn ein cymunedau. Rhaid cael tai a gwaith i bobl yn eu cymunedau ac mae hyn yn gofyn am gynllunio bwriadus. 

"Y Bil Cynllunio arfaethedig yw cyfle'r Blaid Lafur yng Nghymru i ddangos bod nhw o ddifrif am ddiogelu a chryfhau cymunedau Cymraeg. Dyma'r cyfle i ddangos bod ganddo nhw'r gallu a'r ewyllys gwleidyddol i ddefnyddio'r grymoedd sydd ganddynt er budd y Gymraeg. Mae'r canllawiau a gyhoeddwyd eisoes yn dda i ddim heb grym grym statudol y tu nôl iddynt. Pwy sydd yn rheoli yng Nghaerdydd? Y gwleidyddion neu'r gweision sifil sydd ond yn rhy barod i ddilyn esiampl Lloegr yn slafaidd? "For Wales see England", dyna'r hyn sydd gyda ni yn y drafft o'r Bil Cynllunio fel ag y mae. 

"Rydyn ni'n disgwyl i Carwyn Jones gadw at ei addewidion. Trwy gymryd cyfrifoldeb am y Gymraeg mae fe wedi ymrywmo yn bersonol i ddiogelu ein cymunedau Cymraeg."

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn pwyso ar i gynghorau, megis Cyngor Gwynedd, leihau'r nifer o dai newydd arfaethedig yn ei gynllun datblygu lleol drafft. Yn ddiweddar, cyhoeddodd cyngor Gwynedd eu bod nhw'n cwtogi ar y nifer o dai maen nhw'n bwriadu eu hadeiladu dros y pymtheg mlynedd nesaf.

Ychwanegodd Robin Farrar: "Rydyn ni wedi bod yn galw ar i gyngor Gwynedd gostwng y nifer o dai maen nhw'n bwriadu eu hadeiladu yn ei gynllun datblygu lleol. Rydyn ni'n sylweddoli bod angen newidiadau ar lefel genedlaethol er mwyn cael system sy'n seiliedig ar anghenion lleol o'r cychwyn cyntaf ledled y wlad, ond rydyn ni dal i gredu y dylai Cyngor Gwynedd wneud mwy o fewn ei bwerau presennol. Mae cefnogaeth trawsbleidiol yn y Cynulliad i'r syniad o seilio'r system ar anghenion lleol, felly mae'n debyg y byddai'n gwneud synnwyr i Gyngor Gwynedd oedi eu cynlluniau presennol nes bod y system newydd yn ei lle."