Bu trafodaeth heddiw (7 Awst) ar stondin Cymdeithas yr Iaith ar Faes yr Eisteddfod ar y cydweithio bu rhwng y mudiad a chymunedau glofaol de Cymru yn ystod Streic y Glowyr 1984-85.
Nododd y digwyddiad ddeugain mlynedd ers Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan 1984, lle defnyddiodd Undeb Cenedlaethol y Glowyr stondin Cymdeithas yr Iaith i godi arian er mwyn darparu cymorth i gynnal y Streic.
Ymysg yr rheiny fu’n siarad roedd Angharad Tomos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ar y pryd; Ben Gregory, o deulu glofaol, undebwr ac aelod o’r Blaid Lafur ar y pryd; a'r newyddiadurwr Meic Birtwistle. Cadeiriwyd gan Siân Howys, a fu hefyd yn weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith ar y pryd.
Yn siarad yn ystod y digwyddiad, dywedodd Angharad Tomos:
“Roeddwn i’n Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith rhwng 1982-84 a doeddwn i ddim yn deall beth oedd gan y glowyr a Streic y Glowyr ei wneud gyda Chymdeithas yr Iaith.
“Es i drwy lot o addysg wleidyddol yn ystod y flwyddyn yna, a dwi’n digwydd cofio cyfarfod Senedd, gyda Ffred Ffransis yn dweud nad streic gyffredin mo hon; nid oedd yn streic gyffredin dros arian. Roedd hon yn streic dros gymunedau ac roedd yn frwydr uniongyrchol rhwng Thatcher a chymunedau Cymru.
“Mae Cymdeithas yr Iaith yn brwydro dros gymunedau Cymru, boed yn Gymraeg neu’n ddi-Gymraeg. Roedd hi’n dipyn o addysg wleidyddol ac yn un sydyn, ac mi benderfynes i: mae’n rhaid bod ar ochr y glowyr.”