Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw'r Gweinidog Darlledu Ed Vaizey yn ddi-glem ar ol iddo gyflwyno tystiolaeth am S4C i ASau heddiw.Cyfaddefodd y Gweinidog, sydd yn gyfrifol am S4C yn y llywodraeth, heddiw nad oedd erioed wedi gwylio'r sianel ac nad oedd sicrwydd am arian i'r sianel ar ol 2015 chwaith.Fe ddywedodd, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Bethan Williams:"Mae'n anhygoel bod person mor anwybodus yn gallu bod yn gyfrifol am S4C. Dyw e erioed wedi gwylio'r sianel, erioed wedi siarad âg arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig amdani, heb ofyn am gyngor cyfreithiol am y cynlluniau ar gyfer S4C nac wedi ymgynghori ag unrhyw un cyn cyhoeddi bod y BBC yn cymryd y sianel drosodd. Does dim clem 'da fe."Roedd yn chwerthin mor aml, mae'n debyg fod y sefyllfa yn ddoniol iddo fe. Dyw e ddim. Mae dyfodol ein hunig sianel deledu Cymraeg yn y fantol, sydd yn fygythiad uniongyrchol i'r iaith. Mae S4C yn wynebu toriadau o dros 40% i'w chyllid mewn termau real; cael ei thraflyncu gan y BBC; a bod grymoedd yn nwylo Gweinidogion San Steffan i gael gwared a hi yn llwyr. Mae'r llywodraeth yn arbed 94% o'r arian roedden nhw'n arfer talu i'r sianel, toriad sydd yn gwbl annheg. Ar ôl 2015, does dim sicrwydd y bydd unrhyw arian yn mynd i'r sianel o gwbl."Mae'n amlwg hefyd bod y BBC yn gyfrifol am y problemau - cyfaddefodd y Gweinidog pe byddai'r BBC wedi gwrthod defnyddio'r ffi drwydded, byddai S4C wedi derbyn yr un setliad ariannol ond heb unrhyw fygythiad i'w hannibyniaeth. Roedd y BBC felly yn gamarweiniol tu hwnt wrth honni ei fod wedi 'achub' y sianel."Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus - "S4C a'r Dyfodol" - er mwyn trafod y ffordd ymlaen i'r sianel.Minister: I've never watched S4C but I like Fireman Sam - Daily Post - 19/01/11Culture Minister's a fan of Fireman Sam - Western Mail - 19/01/11S4C: Dim sicrwydd tu hwnt i 2015 - golwg360 - 18/01/11S4C 'ddim yn cael digon o effaith' - BBC Cymru - 18/01/11S4C needs to make more impact, says Ed Vaizey - BBC Wales - 18/01/11