System addysg yn “annheg”, Neges Blwyddyn Newydd

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn pwyso er mwyn sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru yn cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg - dyna neges Cadeirydd y mudiad yn ei neges blwyddyn newydd.

Daw'r newyddion wrth i'r Athro Graham Donaldson baratoi adolygiad o'r cwricwlwm a fydd yn argymell newidiadau i Weinidogion Cymru yn y flwyddyn newydd. Fis Tachwedd, cyhoeddodd y Gymdeithas ganlyniadau arolwg barn a ddangosodd fod mwyafrif clir o bobl Cymru eisiau gweld cwricwlwm addysg sy'n sicrhau bod pob disgybl yn gadael yr ysgol gyda'r gallu i gyfathrebu'n Gymraeg yn effeithiol.

Mae'r Gymdeithas yn dadlau y dylai pob ysgol yng Nghymru addysgu rhai pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn sicrhau bod holl bobl ifanc Cymru yn gadael yr ysgol yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg. Roedd adroddiad annibynnol yn 2013 gan yr Athro Sioned Davies yn beirniadu’r system addysg Gymraeg ail iaith yn hallt, gan ddweud “Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith”.

Yn ei neges fideo i aelodau’r mudiad, dywed Jamie Bevan

“Yn anffodus, o’r 79% o’n pobl ifanc ni sy’n mynd trwy addysg cyfrwng Saesneg, prin iawn iawn yw’r rhai sy’n dod allan o’r system honno’n gallu siarad Cymraeg yn digon hyderus i fynd ymlaen i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Pam y dylai hap a damwain daearyddol, sefyllfa ariannol neu ddewis eu rhieni eu hamddifadu’r o’r gallu i gyfathrebu’n llawn ym mhriod iaith ein Cenedl? Dyw hi ddim yn deg fod cymaint o’n pobl ifanc ni yn gadael y system addysg yn methu â chyfathrebu yn llawn ac yn hyderus yn Gymraeg. Gwnewch adduned eleni, ymunwch gyda Chymdeithas yr Iaith yn yr ymgyrch i sicrhau addysg Gymraeg i bob plentyn yng Nghymru.”

Llofnodwch ein datganiad yma: http://cymdeithas.org/addysggymraegibawb