Taflu achos o'r llys ond gosod cynsail ar gyfer darpariaeth Cymraeg

Taflwyd achos Toni Schiavone allan o'r llys heddiw am nad oedd cynrychiolydd o One Parking Solutions yn bresennol. Roedd Toni Schiavone wedi gwrthod talu dirwy barcio gan fod yr hysbysiad cosb yn uniaith Saesneg, er iddo ofyn droeon amdano yn Gymraeg.

Oherwydd iddo ofyn bod pob gohebiaeth gan y llys yn Gymraeg bu'n rhaid i One Parking Solutions gyfieithu'r holl wybodaeth ar gyfer y llys eu hunain, gan gynnwys copi o'r ddirwy.

Yn dilyn yr achos dywedodd Toni Schiavone:
"Fe wnes i ofyn dro ar ôl tro am yr hysbysiad cosb yn Gymraeg, a byddwn i wedi talu'r ddirwy, ond yn lle hynny penderfynodd One Parking Solutions fynd â fi i'r llys. Am bod y llys wedi gofyn iddyn nhw gyfieithu copi o'r hysbysiad cosb fe wnaethon nhw, ond cymerodd hi achos llys iddyn nhw wneud - a wnes i ddim derbyn yr hysbysiad swyddogol yn Gymraeg o gwbl."

Wrth ddiolch i gefnogwyr a ddaeth i'r llys dywedodd bod hyn yn gosod cynsail i'r cwmni:
"Gan iddyn nhw orfod cyfieithu copi'r hysbysiad cosb does dim byd yn eu rhwystro nawr rhag cyflwyno hysbysiadau cosb yn Gymraeg yn y dyfodol.
"Mae cwmnïau fel hyn yn gallu gwneud pethau yn Gymraeg, ond dim ond os oes gorfodaeth gyfreithiol iddyn nhw wneud. A dim ond un o nifer o gwmnïau preifat sy'n rhedeg meysydd parcio yw hwn. Yn amlwg felly, newid y Mesur Iaith i gynnwys y sector breifat sydd ei angen. Mae dros ddeng mlynedd ers i'r Mesur Iaith fod mewn lle, ac mae gweithdrefn y Safonau wedi gwneud gwahaniaeth yn y sector cyhoeddus - mae mwy o bobl yn gallu ac yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg eu cynghorau ac yn y blaen. Felly pryd gawn ni weld yr un newid yn y sector preifat?"