Bydd y Daith yn cychwyn o'r argae ar draws y llyn yn dilyn "Rali Tryweryn 2010" a drefnir gan Bwyllgor Amddiffyn y Parc. Bydd cefnogwyr yn cerdded y 70 milltir heibio i ysgolion eraill yng Ngwynedd a Chonwy sydd tan fygythiad, ac i fyny ac i lawr Yr Wyddfa, ar y ffordd at gyfarfod o Gyngor Gwynedd brynhawn Iau (15fed Gorffennaf) a fydd yn pleidleisio ar ddyfodol Ysgol y Parc.
Cyn cychwyn y Daith, dywed llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis,"Mae pobl Y Bala wedi siarad ag un llais. Mae'r holl ysgolion a chymunedau eraill wedi datgan eu cefnogaeth i'r Parc ac am weld Parc yn rhan o ffederasiwn o ysgolion gwledig a fydd yn cydweithio gydag Ysgol Gydol Oes newydd yn nhref Y Bala i ffurfio uned addysgol gref, effeithiol a Chymraeg."Trwy wrando ar lais y bobl, gall y Cyngor sicrhau cefnogaeth unol i'r cais holl-bwysig am fuddsoddiad addysgol yn Y Bala, ac ni ddylai greu rhaniadau trwy fygwth cau Ysgol y Parc. Nid lle Cynmgor Gwynedd yw tanseilio cymuned Gymraeg fywiog a ffyniannus."70-mile walk to save Bala school - Daily Post, 06/07/1070 walk to support rural schools in Conwy county - Daily Post, 13/07/10