Teyrnged i Hywel Teifi Edwards

hywel-teifi.jpgMae'n debyg mai ym Mhabell Lên yr Eisteddfod Genedlaethol y clywais i Hywel Teifi Edwards yn darlithio gyntaf a chredaf mai 'Baich y Beirdd ' oedd testun y ddarlith honno. Soniai am feirdd Oes Victoria yn ceisio byw yng nghanol Philistiaeth y cyfnod hwnnw. Rhwng cael eu dibrisio, ac oherwydd holl dylanwad gormesol yr Ymerodraeth Brydeinig arnynt does ryfedd i gynifer ohonynt droi at y ddiod gadarn am gysur. Ond roedd hi'n amlwg fod gan Hywel Teifi feddwl mawr ohonynt ac y byddai wedi mwynhau treulio amser yn eu cwmni.Nodwedd o'r ddarlith honno oedd i'r cyflwynydd fynd ymlaen i siarad ymhell dros yr amser oedd wedi ei benodi ar ei gyfer. Dydw i ddim yn meddwl fod y gwrandawyr yn y Babell Lên yn poeni rhyw lawer am hyn ar y pryd. Roedd chwerthin uchel y gynulleidfa yn brawf o ddifyrrwch y ddarlith. A thros y blynyddoedd fe ddeuwn i ddeall nad oedd gormes amser yn un o'r pethau y byddai Hywel Teifi yn talu gormod o sylw iddo, yn enwedig pan oedd hi'n fater o areithio neu ddarlithio o flaen torf o bobl.Erbyn i mi fynd i weithio i Abertawe roedd Hywel Teifi wedi cyhoeddi ei gyfrol fawr 'G?yl Gwalia' ar hanes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Oes Victoria. Fo, yn fwy na neb, drwy gyfrwng y llyfr hwn, a'i gyfrolau eraill, fyddai yn tynnu ein sylw at effaith andwyol Brad y Llyfrau Gleision arnom fel Cymry. Nid ei fod ef ei hun wedi dioddef yr un iot oddi wrth y taeogrwydd cynhenid Cymreig. Treuliodd oes gyfan yn taranau yn ei erbyn.Yn Abertawe fe'i clywais yn darlithio mewn dosbarth nos unwaith. Credaf fod chwaer Gwenallt yn aelod o'i ddosbarth hwnnw a bu ei brawd yn ddylanwad mawr ar Hywel Teifi. Roedd y ddau yn perthyn i'w gilydd. Bu'n wael iawn, iawn tua'r cyfnod hwn a mawr oedd y gofid amdano. Roedd ei waeledd yn bwrw cysgod nid yn unig tros ardal Abertawe lle roedd yn gweithio, a'i gartref yn Llangennech, ond Cymru gyfan. Erbyn hynny roedd wedi bod yn ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru ddwywaith a gwasanaethai fel Cynghorydd Sir a'r Gyngor Sir Dyfed. Byddem yn lobio'r Cynghorau Sir yn aml yn y dyddiau hynny un a'i ar fater Corff Datblygu Addysg Gymraeg neu Ddeddf Eiddo. A chofiaf un o gyfieithwyr Cyngor Dyfed yn dweud wrthym gymaint oedd dylanwad Hywel Teifi ar y cynghorwyr eraill. Ef oedd yn rhoi arweiniad o ran siarad Cymraeg ar y Cyngor, ac yn hynny o beth yr oedd yn fwy cyfrifol na neb am ei Gymreigio.

Daeth hefyd yn un o ffefrynnau'r Gymdeithas fel siaradwr yn ein ralïau. Mae'n rhaid ei fod wedi siarad mewn ugeiniau ohonynt. Teimlwn yn euog weithiau ein bod yn gofyn iddo mor aml ond ni chredaf iddo wrthod erioed. Gallech ddibynnu arno bob amser. A'r gwir yw hyn, yr oedd yn denu cynulleidfa, a byddai'n si?r o ddweud rhywbeth o sylwedd, a hynny mewn ffordd ddifyr tu hwnt. Clywsom Menna Machreth mewn teyrnged iddo ar 'Wedi Saith' yn dweud mai mewn rali lle roedd Hywel Teifi yn siarad yr ymunodd hi a Chymdeithas yr Iaith am y tro cyntaf.Y tro diwethaf i Hywel Teifi siarad yn un o'n ralïau oedd ddiwedd Mis Mai a hynny y tu allan i adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd. Yno yr ymosododd ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar yr iaith Gymraeg gan ei gyffelybu oherwydd ei enw anhylaw i ryw anghenfil a berthynai i chwedl Culhwch ac Olwen. Roedd hyn yn ddull effeithiol iawn o dynnu sylw at y modd lletchwith, anhwylus ac annemocrataidd y mae Cymru yn cael ei llywodraethu ar hyn o bryd.Wrth dderbyn y gwahoddiad i annerch yn y rali honno fe ddywedodd wrthyf mai dyma'r tro olaf y byddai'n gwneud hynny. Roedd yn heneiddio meddai, ac yn dechrau ail adrodd ei hun. Mae'n debyg i minnau wneud jôc o'r peth gan ddiolch yn ddistaw bach iddo gytuno i siarad unwaith eto. Prin y meddyliais i ar y pryd mai hon fyddai ei rali olaf gan ei fod mor llawn o egni a brwdfrydedd brathog.Ond mae'n addas mewn ffordd mai rali dros Fesur Iaith oedd ei rali olaf gan ei fod efallai wedi gwneud cymaint a neb i gadw'r ymgyrch hon yn llygad y cyhoedd dros y blynyddoedd. Bu'n gyfrifol am drefnu un rali anferth ei hun ddechrau'r 90au lle llwyddodd i gael Rhodri Morgan, oedd yn arweinydd yr wrth-blaid yng Nghymru ar y pryd i siarad.Gyda'i farwolaeth mae yna rhyw dawelwch rhyfedd wedi disgyn dros Gymru ar ddechrau'r flwyddyn newydd. Gadawodd fwlch o fudandod ar ei ôl. Fel y dywedodd cyfaill wrthyf, " Mae mwy na dyn wedi mynd wrth golli Hywel Teifi."Dafydd Lewis