
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi talu teyrnged i John Rowlands a fu farw heddiw.
Pan oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd yn 1988 fe baentiwyd y slogan "Deddf Iaith Newydd" ar wal y swyddfa Gymreig a chymerodd John Rowlands ran yn y weithred.
Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae'r Gymdeithas wedi colli cefnogwr brwd ac un oedd wedi gweithredu ac ymgyrchu dros nifer o'n hachosion. Buodd e'n rhan bwysig o gymdeithas o bobl a fuodd mor ymroddedig i gadw'r Gymraeg yn fyw yn ein bywydau beunyddiol; ac fe lwyddodd e drwy gefnogi a chydweithio gydag eraill. Mae'n cydymdeimladau gyda'i deulu a'i gyfeillion heddiw.”